– Senedd Cymru am 4:58 pm ar 12 Ionawr 2021.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro, i alluogi dadl ar eitemau 7, 8 a 9. Dwi'n galw, felly, ar y Gweinidog iechyd i symud y cynnig yn ffurfiol.
Vaughan Gething, yn ffurfiol?
Cynnig NDM7538 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NDM7534, NDM7535 ac NDM7537 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 12 Ionawr 2021.
Yn ffurfiol.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid atal Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn? Nac oes. Dwi ddim yn gweld na chlywed gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae'r cynnig nesaf o dan Rheol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 6 i 9 gyda'i gilydd, ond gyda phleidleisiau ar wahân, ac felly mi fyddai'r cynigion wedi eu grwpio ar gyfer y ddadl. Mae'r cynnig yna yn cael ei wneud, ac felly dwi'n edrych i weld a oes unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig yna. Dwi ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiad.