Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 13 Ionawr 2021.
Rwy'n edmygu gwaith yr Urdd yn fawr, ac rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Gweinidog Addysg yn ogystal â’r Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg, pan oedd yn ei phortffolio blaenorol, er ei bod yn dal i fod yn gyfrifol am y Gymraeg nawr, ynglŷn â dyfodol yr Urdd a pha gymorth y gallai fod ei angen arnynt yn y tymor byr, a hefyd o ganlyniad i'r heriau cyffredinol sy'n wynebu'r sefydliad. Credaf mai un o'r pethau pwysig rydym wedi’u gwneud yw cymeradwyo cais am arian ychwanegol ar 25 Mai y llynedd, 2020, ac o ganlyniad i hynny, bydd y cyllid cyfalaf ychwanegol yn cynyddu eu dyraniad cyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain o £2.75 miliwn i £5.5 miliwn. Byddant yn gallu gwneud rhywfaint o waith hanfodol yn eu canolfannau preswyl, a chredaf fod buddsoddiad ar y lefel honno’n rhoi sicrwydd ein bod yn hyderus ynglŷn â'r dyfodol cryf hwnnw i'r Urdd, ac yn awyddus i'w weld.