Gwasanaethau Ieuenctid

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:02, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb, yn enwedig i Suzy Davies. Hoffwn fynd ar drywydd mater cyllid ar gyfer yr Urdd. Mae'r cyllid a ddarparwyd eisoes wedi bod o gymorth aruthrol, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog cyllid a Gweinidogion perthnasol eraill yn ymwybodol fod yr Urdd wedi wynebu colled o £14 miliwn yn eu hincwm—yr incwm y maent yn ei gynhyrchu ei hunain, eu hincwm masnachol, os mynnwch—y llynedd. Mae rhai swyddi gweithwyr ieuenctid medrus iawn Cymraeg eu hiaith yn parhau i fod mewn perygl. Tybed a gaf fi ofyn i'r Gweinidog sicrhau ei bod yn edrych ar faterion cyllido'r Urdd gyda Gweinidogion ar draws y portffolios—y Gweinidog addysg, yn amlwg, ond y Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg hefyd, a byddwn yn dadlau, y gyllideb ar gyfer diwylliant hefyd. Oherwydd mae hwn yn sefydliad mor werthfawr i ni. Dyma'r sefydliad gwaith ieuenctid gydag aelodaeth mwyaf yn Ewrop, a byddai—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi—yn drasiedi pe bai'n rhaid diswyddo mwy o bobl, gyda'r risg y byddai’r sgiliau a'r cyfleoedd hanfodol hynny i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i addysg ffurfiol yn cael eu colli’n barhaol.