Tryloywder y Broses Gyllidebol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:16, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi rhoi camau ychwanegol ar waith eleni i ddarparu tryloywder llawn ynghylch goblygiadau cyllidol y pandemig i gefnogi craffu cadarn ar benderfyniadau gwariant. Mae'r mesurau'n cynnwys cyhoeddi dwy gyllideb atodol, ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid gyda manylion cyllid canlyniadol, a darparu diweddariadau rheolaidd i'r Senedd yn y Siambr.