Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 13 Ionawr 2021.
Diolch i'r Gweinidog am ei hateb, ond mae mwy o dryloywder yn bendant o fudd i’r cyhoedd, ac mae hon wedi bod yn daith hir, a chryn dipyn o ffordd i fynd o hyd. Rydym ni, yn hollol briodol, yn gofyn llawer gan lywodraeth leol yn eu datganiadau ariannol a'r wybodaeth, yn wir, y maent yn ei hanfon at dalwyr y dreth gyngor, a chredaf fod angen proses debyg o ymgysylltu â'r cyhoedd fel y gallwn gael proses gyllidebol wirioneddol dryloyw yma yn y Senedd. Byddai hynny'n annog llawer o syniadau da i gael eu cynnig—ac nid o reidrwydd efallai, rwy'n mentro dweud, gan y bobl sy’n eu cynnig fel arfer—a hefyd, byddai'n nodi rhai meysydd lle ceir gwastraff. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio mwy o fodelau ymgysylltu â'r cyhoedd yn y dyfodol?