Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 13 Ionawr 2021.
Rwy'n fwy na pharod i roi'r sicrwydd hwnnw. Busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn yr economi yma yng Nghymru. Credaf fod ein hymagwedd at y pandemig wedi dangos ein cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint yn arbennig. Fe fyddwch yn cofio bod cryn dipyn o gynnwrf ynglŷn â phenderfyniad cynnar Llywodraeth Cymru i beidio â dyrannu rhyddhad ardrethi, o ran ardrethi annomestig, i fusnesau mawr gyda gwerth ardrethol o dros £500,000. Ond nawr, wrth gwrs, rydym yn gweld busnesau fel Tesco yn cynnig arian yn ôl dros y ffin yn Lloegr lle roeddent wedi derbyn y cyllid hwnnw. Gwnaethom y penderfyniad hwnnw'n gynnar iawn, ac roedd hynny'n caniatáu inni addasu llawer o'r cyllid wedyn—tua £150 miliwn os cofiaf yn iawn—yn ôl i fusnesau bach a chanolig eu maint, oherwydd roeddem yn deall fod llawer mwy o angen y cyllid arnynt hwy nag ar y busnesau mwy o faint.