1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 13 Ionawr 2021.
4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r risgiau i gyllid cyhoeddus yn sgil pandemig COVID-19? OQ56115
Rwy'n cadw cronfa wrth gefn o fwy nag £800 miliwn o adnoddau cyllidol yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22 i ymdopi â llwybr ac effaith ansicr y pandemig yn y dyfodol. Mae'r fframwaith cyllidol yn diogelu'r gyllideb rhag yr effaith ar refeniw datganoledig ergydion economaidd ledled y DU sydd wedi'u hachosi gan y pandemig.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog, a blwyddyn newydd dda ichi. Y llynedd, codais y pwynt fod Llywodraeth Cymru, drwy fanc datblygu Cymru, yn benthyca arian i gynghorau lleol brynu a gosod eiddo masnachol i ddatblygwyr eiddo. Y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd yn fwy na £35 miliwn, ac eleni, gallai fod mor uchel â £97 miliwn. Fy mhrif bryder oedd y newyddion fod y pandemig COVID wedi gweld prisiau ac enillion eiddo masnachol yn dirywio'n eithafol, gan roi'r arian cyhoeddus rydych wedi'i fuddsoddi mewn perygl enfawr.
Cyfaddefodd y Prif Weinidog fod holl werthoedd eiddo masnachol y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian cyhoeddus ynddynt wedi cael eu heffeithio gan y pandemig, a dywedodd ei fod yn disgwyl i benderfyniadau benthyca gael eu graddnodi yn awr i'r set bresennol o amgylchiadau sy'n ein hwynebu. Os nad oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud eto i'r meini prawf benthyca, mae risg enfawr i werth £97 miliwn o arian cyhoeddus. Dywedwch wrthyf pa drafodaethau rydych wedi'u cael, a pha benderfyniadau cadarn a wnaed sydd wedi newid y meini prawf benthyca a oedd ar waith cyn y pandemig i feini prawf sydd, yng ngeiriau'r Prif Weinidog ei hun, wedi'u graddnodi i'r set bresennol o amgylchiadau.
Diolch am ofyn y cwestiwn, a blwyddyn newydd dda i chi hefyd. Rwyf wedi ymchwilio i hyn, oherwydd roedd gennyf ddiddordeb yn y cwestiwn a ofynnwyd gennych gyda'r Prif Weinidog yn flaenorol. Ar hyn o bryd, dim ond un fargen sydd—sef y swm cyfan o £122 miliwn sydd wedi'i fuddsoddi—lle mae ad-dalu'r benthyciad yn dibynnu ar werthu datblygiad masnachol o fewn prosiect. Felly, rwy'n credu y gallwn fod yn hyderus nad yw hwn yn fater sy'n creu pwysau ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae swyddogion yn cyfathrebu'n rheolaidd â banc datblygu Cymru. Maent yn hyderus, ac maent yn rhoi sicrwydd i mi a Ken Skates, sydd â banc datblygu Cymru yn rhan o'i adran, fod gan fanc datblygu Cymru agwedd ddarbodus tuag at fuddsoddi yn y cyfnod ansicr hwn, yn enwedig mewn perthynas â'r gyfradd uchaf o fenthyciad mewn cymhariaeth â gwerth sydd ar gael ar gyfer buddsoddi hefyd. Ond rydym wedi cael sicrwydd bod yr hyn sydd wedi'i wneud yn gwbl briodol.
Rwy'n pryderu'n benodol am y sector BBaCh, a gafodd ei daro'n wael iawn gan argyfwng COVID, sydd wedi cau'r stryd fawr ac wedi gorfodi dulliau gweithio gwahanol iawn—a hynny o reidrwydd, wrth gwrs. Er lles iechyd ein strydoedd mawr, er lles iechyd yr economi sylfaenol—ac mae llawer o'n strategaeth economaidd yn ymwneud â datblygu'r sector busnesau bach a chanolig—a allwch chi ein sicrhau y bydd yn flaenoriaeth uchel iawn mewn cynlluniau cymorth busnes yn y dyfodol ac yn wir, yng nghydbwysedd yr adnoddau a gaiff o gyllideb Llywodraeth Cymru?
Rwy'n fwy na pharod i roi'r sicrwydd hwnnw. Busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn yr economi yma yng Nghymru. Credaf fod ein hymagwedd at y pandemig wedi dangos ein cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint yn arbennig. Fe fyddwch yn cofio bod cryn dipyn o gynnwrf ynglŷn â phenderfyniad cynnar Llywodraeth Cymru i beidio â dyrannu rhyddhad ardrethi, o ran ardrethi annomestig, i fusnesau mawr gyda gwerth ardrethol o dros £500,000. Ond nawr, wrth gwrs, rydym yn gweld busnesau fel Tesco yn cynnig arian yn ôl dros y ffin yn Lloegr lle roeddent wedi derbyn y cyllid hwnnw. Gwnaethom y penderfyniad hwnnw'n gynnar iawn, ac roedd hynny'n caniatáu inni addasu llawer o'r cyllid wedyn—tua £150 miliwn os cofiaf yn iawn—yn ôl i fusnesau bach a chanolig eu maint, oherwydd roeddem yn deall fod llawer mwy o angen y cyllid arnynt hwy nag ar y busnesau mwy o faint.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y cwestiwn gan Michelle Brown. Mae cynghorau yn Lloegr wedi benthyca llawer mwy na 100 y cant o'u hincwm blynyddol ar gyfer eiddo masnachol, sy'n sicr yn destun pryder i bob un ohonom, oherwydd mae'n effeithio ar economi Prydain. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Gweinidog yw: a ydych yn cytuno mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â dyled y Llywodraeth yw tyfu'r economi, ac felly cynyddu'r dreth a dderbynnir? Roedd y dreth a dderbyniwyd yn 2018 bron 50 gwaith yn fwy na 50 mlynedd ynghynt. Po fwyaf y byddwch yn tyfu'r economi, po fwyaf o dreth y byddwch yn ei derbyn, y lleiaf pwysig yw dyled mewn gwirionedd.
Diolch i Mike Hedges am godi hyn. Ar fater awdurdodau lleol, rydym yn darparu canllawiau statudol i awdurdodau lleol pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau benthyca a buddsoddi mewn ffordd sy'n briodol i'w cyfrifoldebau statudol. Ar ail ran y cwestiwn, rwyf hefyd yn cytuno â Mike Hedges fod angen inni dyfu'r economi yma yng Nghymru a sicrhau ein bod yn tyfu ein sylfaen drethi yma yng Nghymru. Mae gennym rai problemau a heriau strwythurol mewn perthynas â'n sylfaen drethi, ond os gallwn weithio'n ofalus iawn drwy hynny, credaf y gallwn symud ymlaen. Os edrychwn ar yr hyn rydym yn ei wneud o ran tai a chynllunio ac ym maes addysg, er enghraifft, credaf fod yr holl bethau hynny'n ysgogiadau a fydd yn ein helpu i dyfu'r sylfaen drethi yn y dyfodol. Mae'n rhywbeth rwyf wedi gofyn i'r grŵp ymgysylltu ar drethi feddwl amdano hefyd. Cawsom gyfarfod o'r grŵp ymgysylltu ar drethi yn ôl ym mis Tachwedd, ac fe wnaethom ystyried rhai o'r heriau i dyfu sylfaen drethi Cymru, gan gynnwys y dirywiad yn amodau'r farchnad lafur sy'n gysylltiedig â phandemig COVID-19. Felly, mae'n fater rydym yn awyddus i gael cyngor arbenigol arno hefyd. Ond mae rhesymeg yr hyn y mae Mike Hedges yn ei ddweud yn gadarn iawn.