Risgiau i Gyllid Cyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 13 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:09, 13 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y cwestiwn gan Michelle Brown. Mae cynghorau yn Lloegr wedi benthyca llawer mwy na 100 y cant o'u hincwm blynyddol ar gyfer eiddo masnachol, sy'n sicr yn destun pryder i bob un ohonom, oherwydd mae'n effeithio ar economi Prydain. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Gweinidog yw: a ydych yn cytuno mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â dyled y Llywodraeth yw tyfu'r economi, ac felly cynyddu'r dreth a dderbynnir? Roedd y dreth a dderbyniwyd yn 2018 bron 50 gwaith yn fwy na 50 mlynedd ynghynt. Po fwyaf y byddwch yn tyfu'r economi, po fwyaf o dreth y byddwch yn ei derbyn, y lleiaf pwysig yw dyled mewn gwirionedd.