2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 13 Ionawr 2021.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cysondeb o safbwynt dysgu o bell mewn ysgolion ar draws Cymru? OQ56116
Diolch yn fawr, Llyr. Mae canllawiau clir wedi'u cyhoeddi i ysgolion ac awdurdodau lleol ar ddysgu o bell yn ogystal â ffrydio gwersi byw a gwersi wedi'u recordio ymlaen llaw. Mae lle pwrpasol i'w gael ar Hwb sy'n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Cynhyrchwyd canllawiau gan Estyn a'r consortia hefyd, gydag ystod o gymorth ar gael i ysgolion ac i rieni.
Ers i fi osod y cwestiwn yma, wrth gwrs, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd wedi cael rhywbeth i'w ddweud ar y mater yma, ac mae hi wedi disgrifio dysgu ar-lein fel rhywbeth sydd yn fratiog ac yn anghyson, ac mae yna anghysondebau dybryd rhwng nid yn unig awdurdodau addysg gwahanol, ond rhwng ysgolion unigol oddi fewn i awdurdodau addysg hefyd, a dwi ddim jest yn sôn fan hyn am fynediad i gyfarpar a chysylltedd; mae yna anghysondeb o ran faint o oriau dysgu y mae disgwyl i blant wneud bob dydd, pa fath o waith y gellir ei ddisgwyl, pa blatfformau digidol sy'n cael eu defnyddio. Mae rhai yn cael gwersi ar-lein wyneb yn wyneb; mae rhai ddim a dim ond yn cael taflenni gwaith i'w cwblhau. Nawr, dwi ddim yn gwybod os ŷch chi'n cytuno, felly, gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol y dylech chi fod wedi gwneud mwy i sicrhau gwell cysondeb ar draws Cymru trwy roi gwell arweiniad ar hyn i ysgolion ac awdurdodau lleol fel Llywodraeth, oherwydd canlyniad yr anghysondeb yma yw bod gennym ni ryw fath o loteri cod post, lle mae rhai plant ar eu hennill a rhai plant ar eu colled, a'r cyfan mae hynny'n ei wneud, wrth gwrs, yw dwysáu'r anghydraddoldebau sydd eisoes yn rhy amlwg o fewn y gyfundrefn addysg yng Nghymru ar hyn o bryd.
Diolch, Llyr. Rhaid imi ddweud, nid wyf yn gwybod ai canllawiau ychwanegol yw'r hyn rydym ei angen. Yn aml, clywn gan addysgwyr fod Llywodraeth Cymru'n cynhyrchu llawer gormod o ganllawiau a bod ceisio dal i fyny â'r cyfan yn faich ynddo'i hun. Cyhoeddwyd ein cynlluniau dysgu o bell ym mis Gorffennaf. Maent wedi cael eu diweddaru. Mae canllawiau pellach, fel y dywedais, yn cael eu cyhoeddi heddiw gyda ffocws ar ein dysgwyr hŷn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod y camau breision y mae system addysg Cymru wedi'u gwneud ar yr adeg hon, ac nid fi'n unig sy'n dweud hynny; roedd Estyn, ein harolygydd ysgolion, yn ymwneud â nifer—. Wel, mewn gwirionedd, fe wnaethant ymweld â phob awdurdod addysg yn ystod tymor yr hydref. Unwaith eto, weithiau ni châi hynny groeso gan ein hawdurdodau addysg lleol am eu bod yn teimlo bod ganddynt ddigon i'w wneud yn eu gwaith o ddydd i ddydd heb fod yn atebol i Estyn, ond mae Estyn wedi gallu darparu cymorth ac argymhellion unigol i bob un o'n hawdurdodau addysg lleol, ac mae'n dweud bod newid sylweddol i'w weld.
Gan ein bod yn trafod comisiynwyr, cynhaliodd Comisiynydd Plant Cymru ddiwrnod gwrando nôl ym mis Tachwedd, a dyfarniad unfrydol pob person ifanc a gymerodd ran yn y gwasanaeth ar-lein oedd bod cynnig ar-lein ysgolion wedi gwella'n sylweddol ers y cyfyngiadau symud cyntaf. Nawr, yn amlwg, mae angen inni barhau i nodi'r ysgolion sy'n gweld hyn yn her a chefnogi'r ysgolion hynny i ddeall y rhwystrau sydd ganddynt. Mae cyngor ac arweiniad ar gael ar Hwb, yn ogystal â chyfle i gydweithwyr gefnogi ei gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd. Ac mae'n rhaid i mi ganmol GwE, y consortia rhanbarthol yn y gogledd, sydd wedi gwneud ymdrechion aruthrol yn ystod tymor yr hydref, o'r hyn rwy'n ei ddeall o siarad â phenaethiaid yn y gogledd, i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i addysgwyr wella eu sgiliau yn y maes hwn, ac rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod y cynnig yn gyson ac o ansawdd uchel.
Fel y dywedwyd droeon y prynhawn yma, mae rhieni a disgyblion angen mynediad ar-lein sy'n gyflym ac yn ddibynadwy. Mae hynny'n helpu i sicrhau cysondeb mewn dysgu o bell, a chredaf ei bod yn bwysig nawr, Ddirprwy Lywydd, inni gofnodi bod band eang yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Geidwadol y DU, ond mae'n rhaid imi ddweud, nid fy etholwyr sydd ar fai am eu methiannau dros y blynyddoedd. Yn yr ysbryd hwnnw, Weinidog, nid oes gan rannau o fy etholaeth, fel llawer o rai eraill ledled Cymru, y mynediad cyflym a dibynadwy iawn y maent yn ei haeddu, ac mae gan rieni le i fod yn bryderus, felly rwy'n ceisio sicrwydd yma heddiw na fydd hynny'n effeithio ar addysg eu plant. Felly, beth y gallwch ei ddweud wrth drigolion Sir y Fflint, yn enwedig, a beth y gall eich adran ei wneud i roi sicrwydd y bydd y plant hynny'n cael yr addysg y maent yn ei haeddu ac y mae ganddynt hawl iddi? Efallai y gallech roi sylw pellach, Weinidog, ar sut y byddent yn mynd ati i gael mynediad at un o'r dyfeisiau Mi-Fi hyn yn y tymor byr.
Diolch, Jack. Mae'r hyn rydych yn ei ddweud yn gywir, o ran pwy sy'n gyfrifol am gyflwyno band eang yn y pen draw. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo symiau sylweddol o'i hadnoddau ei hun i geisio mynd i'r afael â'r diffyg a welwn yn ein gwlad. Ond serch hynny, fel y dywedoch chi, nid yw hynny'n gysur i rieni neu fyfyrwyr sy'n cael trafferth ar hyn o bryd. Fel y dywedais, rydym wedi gofyn am asesiad cynnar gan awdurdodau lleol o'u hanghenion ar yr adeg hon, ac rwy'n siŵr y bydd Sir y Fflint yn cyflwyno ei gofynion yn fuan, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w cynorthwyo gyda'r rheini.
Fy nghyngor i deuluoedd ar yr adeg hon os ydynt yn cael trafferth gyda gliniadur neu gysylltedd yw y dylent roi gwybod i'w hysgol yn gyntaf, rhag ofn bod cyfarpar y gellid ei fenthyg iddynt ar gael mewn ystafell ddosbarth, neu i siarad â'u hawdurdod lleol, a fyddai eisiau helpu, rwy'n siŵr.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud y bu rhywfaint o oedi mewn perthynas â pheth o'r offer rydym wedi gallu ei gyflenwi i ysgolion. Mae hynny oherwydd y galw byd-eang am offer TG ar hyn o bryd, ond gobeithiwn allu dosbarthu 35,000 o gyfarpar pellach yn ystod yr wythnosau nesaf ar ben y cyfarpar sydd eisoes ar gael.
Yn wahanol i Loegr, lle mae'n orfodol i ysgolion ddarparu isafswm o ddysgu o bell y dydd, wedi'i oruchwylio gan arolygwyr ysgolion, nid oes dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion yng Nghymru i ddarparu isafswm o addysgu ar-lein, ac nid yw arolygwyr ysgolion yn goruchwylio hyn yma. Fel yr adroddwyd heddiw, dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru fod addysg ar-lein yng Nghymru tra bod ysgolion ar gau yn dameidiog ac yn anghyson, a dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau cysondeb dysgu mewn ysgolion ledled Cymru, ond dywedodd hefyd fod angen arweinyddiaeth go iawn o'r brig. Sut rydych chi'n ymateb felly i riant yn Sir y Fflint a anfonodd e-bost yr wythnos diwethaf yn dweud nad oedd ei phlant ysgol gynradd wedi cael eu haddysgu'n effeithiol ac yn gofyn pam nad oedd eu hysgol mewn sefyllfa o hyd i roi gwersi byw ar-lein; ac i'r datganiad gan Ffederasiwn Penaethiaid Ysgolion Uwchradd Gogledd Cymru fod blynyddoedd 11 a 13 presennol wedi cael gostyngiad sylweddol yn eu darpariaeth wyneb yn wyneb, nad yw lefel y gostyngiad hwn yn gyfartal ar draws pob ysgol, ac nad yw'n effeithio ar bob disgybl i'r un graddau?
Byddwn yn dweud, Mark, nad bai'r ysgolion, yr awdurdod addysg lleol na hyd yn oed Llywodraeth Cymru yw'r disgrifiad o ddysgu uwchradd rydych newydd ei roi. Y ffaith bod gwahanol ysgolion wedi cael eu taro gan wahanol lefelau o achosion positif sydd i gyfrif am hynny. Mae rhai ysgolion yng Nghymru—yn wir, nid yw'n rhif ansylweddol—heb gael achos positif hyd yma, diolch byth, er ein bod yn gwybod bod ysgolion eraill yng Nghymru wedi'u heffeithio'n ddifrifol tu hwnt gan achosion COVID poistif, ac mae hynny wedi arwain at darfu sylweddol. Yr achosion lle rydym wedi gweld y lefelau uchaf o'r clefyd yn y gymuned yw'r ysgolion sydd wedi gweld y lefelau uchaf o darfu, ac nid oes bai ar neb am hynny. Mae'n deillio o'r ffordd y mae'r clefyd wedi anrheithio ein gwlad.
Ar ganllawiau ar gyfer dysgu o bell, mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau hirsefydlog sy'n glir iawn ynglŷn â'n disgwyliadau, a byddai'n well gennyf fod yn gweithio ochr yn ochr â'n harolygwyr sydd, fel y dywedais wrth Llyr Gruffydd, ac mae'n ymddangos fod Mark yn anymwybodol o hyn, wedi ymweld â phob awdurdod addysg lleol yn ystod tymor yr hydref i edrych ar ddigonolrwydd eu cynlluniau ar gyfer dysgu o bell a'u cefnogaeth i ysgolion unigol, a chafodd penaethiaid eu cyfweld fel rhan o'r broses honno fel eu bod yn gallu rhoi adborth. Mae pob awdurdod lleol wedi cael adroddiadau unigol ar eu parodrwydd a'u cefnogaeth i'w systemau ysgolion. Os oes bylchau, rwy'n siŵr y bydd yr awdurdodau lleol hynny am fynd i'r afael â hwy. Ac yn gyffredinol, dywed Estyn fod ysgolion wedi gwneud cynnydd sylweddol ar wella eu darpariaeth. Mae mwy y gallwn ei wneud drwy weithio mewn partneriaeth gyda'n gilydd; ni fydd bygwth ysgolion yn helpu ar hyn o bryd.
Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy ganmol y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo mewn ysgolion, gyda'r staff addysgu ond hefyd gyda'r penaethiaid a'r dirprwy benaethiaid i sicrhau'r cynnydd sydd wedi'i wneud? Nid wyf eisiau gorbwysleisio'r pwynt, ond mae canllawiau Hwb yn dda iawn ond mae'n rhoi disgresiwn llwyr i'r pennaeth a staff yr ysgol yn seiliedig ar yr amodau yn yr ysgol, yn seiliedig ar yr adnoddau sydd ar gael iddynt o ran faint o amser wyneb yn wyneb a faint o ffrydio byw sy'n digwydd. Nawr, mae honno'n gydnabyddiaeth deg o'r amodau hynny ym mhob ysgol benodol ac ym mhob amgylchedd penodol, ond Weinidog, tybed a oes gennych ymagwedd 'mewn egwyddor', gan gydnabod, ar egwyddorion tegwch, ei fod hefyd wedi'i nodi yng nghanllawiau Hwb y dylai fod cyfleoedd i gynnal cysylltiadau â staff addysgu a staff cymorth a chyfoedion yn ystod y cyfnod o arwahanrwydd cymdeithasol posibl. Felly, sut y mae sicrhau'r cydbwysedd cywir ac a ddylid cael cyswllt wyneb yn wyneb ac os felly, faint a pha mor aml?
Mae dau fater yn codi. Yn gyntaf, mae gennych wersi sy'n cael eu ffrydio'n fyw, ac rydym yn gweld y rhain yn cael eu defnyddio fwyfwy ledled Cymru, gan gydnabod fod hynny ynddo'i hun yn creu heriau gwahanol i ddysgwyr a theuluoedd unigol, a dyna pam y mae'n rhaid i ni gael disgresiwn i benaethiaid sy'n adnabod eu cymunedau a'u carfannau, eu plant ysgol a'u rhieni orau i allu creu cynnig dysgu cyfunol sy'n diwallu'r anghenion yn iawn. Byddant hefyd, wrth gwrs, yn newid yn dibynnu ar oedran y garfan. Fel y dywedais yn gynharach, nid wyf yn credu y byddai'r un ohonom eisiau i'n plant ieuengaf eistedd o flaen sgriniau am oriau bwy'i gilydd.
Ond yn gwbl briodol fel y dywedwch, mae'n bwysig i blant gael cyswllt rheolaidd, nid yn unig o safbwynt addysgeg, ond o safbwynt diogelu plant, lles ac iechyd meddwl. Felly, mae ein canllawiau'n glir iawn y dylid cael cyfarfodydd rheolaidd, nid yn unig mewn gwersi, ond cyfarfodydd rheolaidd gyda disgyblion i ddarparu cyfle i ddeall sut y mae'r profiad dysgu'n mynd, a yw'n gweithio, a yw plant yn ffynnu, ac o bosibl, i allu ystyried cymorth ychwanegol a dulliau ychwanegol os oes angen.