1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Ionawr 2021.
1. Pa sylwadau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch darparu cymorth ariannol ychwanegol i gynorthwyo swyddi y mae COVID-19 wedi cael effaith arnynt yng Nghymru? OQ56126
Rydym ni'n manteisio ar bob cyfle i gyflwyno sylwadau o'r fath. Cafodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gyfarfod gyda Gweinidog busnesau bach y DU ddydd Iau ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddoe. Mae cyfarfod pedairochrog rhwng Llywodraethau'r DU yn cael ei gynnal yfory, pryd y bydd sylwadau pellach yn cael eu cyflwyno.
Prif Weinidog, rwy'n falch o glywed am amlder y cyfarfodydd hynny, oherwydd pan osodais i y cwestiwn hwn am y tro cyntaf, fy mwriad oedd gofyn i chi bwyso ar Lywodraeth y DU i roi mwy o gefnogaeth i'r hunangyflogedig ac eraill sy'n dal i fod y tu allan i'r cynlluniau cymorth swyddi sydd ar gael, ac i bwyso arnyn nhw i sicrhau y byddan nhw'n gwarchod, y gwnaethon nhw fethu yn gywilyddus â'i wneud mewn pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon, y cynnydd o £20 i gredyd cynhwysol, sydd, fel y gwyddom, yn mynd i rai o'r teuluoedd sy'n gweithio tlotaf yng Nghymru. Ond ni wnes i ragweld, Prif Weinidog, y byddai'r Ceidwadwyr, yn ystod y penwythnos diwethaf, yn cyflwyno cynigion ar gyfer coelcerth o hawliau a thelerau ac amodau gweithwyr, fel bod Llywodraeth y DU, yn nannedd argyfwng ansicrwydd swyddi, sy'n llifo o adael yr UE a'r pandemig byd-eang, yn rhwygo ymaith amddiffyniadau y gweithiwyd yn galed i'w hennill i bobl gyffredin sy'n gweithio. Felly, Prif Weinidog, pan fyddwch chi'n cyfarfod â Boris Johnson nesaf, a wnewch chi ofyn iddo pam y dylai pobl sy'n gweithio yn Ogwr a Chymru fyth bleidleisio dros ei blaid, pan ei fod yn bwriadu gwneud iddyn nhw weithio yn hwy am lai o gyflog a chymryd eu hawliau cyflogaeth oddi arnyn nhw?
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn atodol yna. Y tro nesaf y caf i gyfle i gyfarfod â Phrif Weinidog y DU, byddaf yn sicr yn rhannu'r pwyntiau hynny gydag ef. Mae gan bobl yng Nghymru hawl i wybod pam mae'r Llywodraeth hon yn cefnu mor gyflym ar addewidion a wnaed. Cawsom addewid y byddai hawliau gweithwyr yn cael eu diogelu wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni'n gweld pa mor ddi-sail oedd yr addewid hwnnw. Addawyd i ni na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r addewid hwnnw wedi cael ei rwygo'n ddarnau dro ar ôl tro yn ystod yr wythnosau diwethaf. Addewir i ni y byddwn ni'n cael amddiffyniadau y mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn eu cael, ac eto pan wnaeth Llywodraeth y DU lawer iawn o stŵr dros y penwythnos am y cymorth yr oedd yn mynd i'w roi i feysydd awyr, ar ôl penderfynu na ellid cynnal coridorau teithio mwyach, daeth i'r amlwg er y bydd Bryste yn cael £8 miliwn, ni fydd Maes Awyr Caerdydd yn cael dim ganddyn nhw. Dro ar ôl tro, mae'r Llywodraeth hon yn gwireddu'r dywediad adnabyddus hwnnw, a adwaenir ym mhobman yng Nghymru, 'Allwch chi ddim ymddiried yn y Torïaid'.
Prif Weinidog, codwyd nifer o bryderon gyda mi gan y busnesau hynny yn y sector lletygarwch a thwristiaeth. Mae'n ymddangos mai'r broblem yw mai'r meini prawf ar gyfer y gronfa cadernid economaidd yw bod yn rhaid iddyn nhw gyflogi staff ar y system talu wrth ennill. Byddai llawer yn y diwydiant hwnnw, wrth gwrs, yn tynnu sylw at y ffaith mai dyna union natur y diwydiant, lle maen nhw'n cyflogi pobl ar sail hunangyflogedig, pa un a ydyn nhw'n lanhawyr neu ar sail fyrdymor. A allwch chi gytuno, Prif Weinidog, i edrych ar y mater penodol hwn o ran cylch nesaf y gronfa cadernid economaidd? Oherwydd mae'r sector lletygarwch a thwristiaeth angen cymorth brys, ac mae'r meini prawf hyn, a allai fod yn eu helpu drwy'r gronfa cadernid economaidd, yn eu hatal rhag gallu cael gafael ar y cymorth mewn gwirionedd.
Y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru sydd â'r pecyn cymorth mwyaf hael yn unman yn y Deyrnas Unedig, ac mae miliynau ar filiynau o bunnoedd wedi cael eu talu i'r diwydiannau hynny a'r busnesau hynny er mwyn eu cynorthwyo drwy'r anawsterau enfawr y mae'r pandemig wedi eu creu iddyn nhw. Rwy'n hapus, wrth gwrs, i edrych ar y pwynt penodol y mae'r Aelod wedi ei godi. Rydym ni'n gobeithio, yma yng Nghymru, gallu cyhoeddi cymorth pellach i ddiwydiannau sy'n cael eu heffeithio gan sefyllfa bresennol y pandemig. Byddwn yn cael cymorth yn hynny o beth pan fydd yn eglur gan Lywodraeth y DU faint o arian sydd gennym ni er mwyn gallu gwneud y cyhoeddiadau pellach hynny. Bydd yr Aelod yn gwybod bod y Trysorlys wedi cyhoeddi ein bod ni'n cael £227 miliwn yn dod i Gymru o ganlyniad i gymorth pellach yn Lloegr, dim ond iddyn nhw dynnu'r cyhoeddiad hwnnw yn ôl y diwrnod canlynol a dweud wrthym ni fod yr arian gennym ni eisoes. Pan fydd gennym ni eglurder gwirioneddol, yna byddwn ni mewn sefyllfa i wneud y cyhoeddiadau pellach hynny yr ydym ni wedi ymrwymo iddyn nhw. Rwy'n hapus i ddweud y byddwn ni'n codi'r pwynt y mae'r Aelod wedi ei godi yn y trafodaethau hynny.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r ffordd orau o sicrhau swyddi yn ystod y pandemig hwn yw sicrhau bod pob cyflogwr sy'n cael ei effeithio gan fesurau i leihau lledaeniad COVID-19 yn cael cymorth? Mae dau gwmni o'r fath sydd wedi cael eu heffeithio yn fy rhanbarth i wedi cysylltu â mi, ac mae'r ddau ohonyn nhw yn gweithredu arcedau difyrion a gwrthodwyd cymorth i'r ddau ohonyn nhw gan eu bod nhw'n cael eu hystyried yn fusnesau gamblo. Prif Weinidog, mae'r rhain yn fusnesau cyfreithiol, cymerir eu trethi ac maen nhw'n dioddef yr un fath ag unrhyw fusnes hamdden arall, felly oni ddylen nhw gael yr un cymorth â busnesau hamdden eraill? Diolch.
Mae mwy nag £1.7 biliwn eisoes yng nghyfrifon busnesau yma yng Nghymru o ganlyniad i'r cymorth y maen nhw wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru. Mae mwy i'w hawlio o hyd ac mae mwy o gyhoeddiadau, fel y dywedais, i ddod, gyda chymorth pellach. Yn y pen draw, fel y bydd yr Aelodau yn deall, arian cyhoeddus yw hwn. Mae'n rhaid cael rheolau ynghylch sut y gellir gwneud hawliadau a phwy gaiff eu hawlio. Mater i fusnesau sy'n credu bod ganddyn nhw hawliad dilys ac sy'n gallu dod â'u hunain o fewn y rheolau hynny yw gwneud hynny. Ac ar yr amod eu bod yn gallu, yna bydd y taliadau hynny yn cael eu gwneud. Ond pan eich bod chi'n dosbarthu arian cyhoeddus ar y raddfa sydd wedi bod yn angenrheidiol yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn, mae'n rhaid gwneud hynny ar y sail y gellir rhoi cyfrif priodol am yr arian hwnnw, a phan fydd taliadau yn cael eu gwneud, bod ffydd eu bod nhw'n cael eu gwneud i fusnesau cyfreithlon at ddibenion cyfreithlon, a dyna'r rheolau sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Cwestiwn 2, Neil Hamilton. Cwestiwn 2, Neil Hamilton.