4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Papur Gwyn ar y Gyfundrefn Diogelwch Adeiladau

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 19 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:12, 19 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o siarad â'r Aelodau heddiw am lansio ein Papur Gwyn, sy'n cynnig cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd i Gymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, lansiwyd y Papur Gwyn yr wythnos diwethaf ochr yn ochr â datganiad ysgrifenedig, ond teimlwn hefyd ei bod hi'n bwysig eich annerch chi'n uniongyrchol a rhoi cyfle ar gyfer sylwadau a chwestiynau ar y maes pwysig hwn.

Gwn fod hwn yn fater o bwys mawr i'r Aelodau, fel y dengys y cwestiynau a'r dadleuon niferus a heriol a gawsom ni ar y pwnc hwn eisoes yn y fan yma. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno y dylai'r pwnc hwn fod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth. Er mwyn inni gyflawni'r weledigaeth hon yn llwyddiannus yn gyflym, credaf yn wirioneddol fod yn rhaid i hon fod yn weledigaeth gyffredin sy'n croesi llinellau gwleidyddol pleidiol. Rwyf hefyd yn falch o gynnig sesiwn friffio dechnegol gan fy swyddogion i'r holl Aelodau gan fod hwn yn faes technegol a chymhleth ac rwyf eisiau sicrhau bod ein cynigion yn glir ac yn cael eu deall yn iawn.

Fel y soniais yn fy natganiad ysgrifenedig, mae'r newidiadau a nodwyd gennym ni yr wythnos diwethaf yn gam sylweddol ymlaen yn ein cynlluniau i wella diogelwch adeiladau. Mae cwmpas y gyfundrefn yn helaeth. Y rheswm am hyn yw ein bod eisiau sicrhau mai diogelwch yw'r brif ystyriaeth ar bob cam o gylch oes adeilad a bod yr holl adeiladau sydd â sawl preswylydd yn dod o dan y mesurau newydd y mae ein cyfundrefn yn bwriadu eu rhoi ar waith. Mae'r mesurau diogelwch y bwriadwn eu cyflwyno yn eang eu cwmpas, ond maen nhw hefyd yn gymesur, a chredwn eu bod wedi'u teilwra'n briodol i'r gwahanol gategorïau adeiladu a fydd yn dod o fewn y cwmpas.

Yn hollbwysig, rhaid i'r newidiadau hyn weithio i breswylwyr. Gan mai nhw yw y rhai a fydd yn elwa ar y diwygiadau hyn yn y pen draw, rwyf yn arbennig o awyddus i glywed eu barn. Rwyf wedi cyfarfod ac wedi gohebu â llawer o drigolion ar y materion sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd oherwydd diffygion yn yr adeiladau presennol, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn ceisio eu barn ar newidiadau ar gyfer y dyfodol; mae profiad personol trigolion yn hanfodol i'n helpu i ddod o hyd i'r atebion cywir. Er mwyn helpu i sicrhau bod cymaint o breswylwyr â phosib yn ymateb i'n hymgynghoriad, rydym ni wedi cyhoeddi amrywiaeth o ddogfennau a deunyddiau ategol, megis y fideo yr oeddwn yn gobeithio ei chwarae, Dirprwy Lywydd, ond nid yw hynny wedi bod yn bosib—byddaf yn sicrhau ei fod ar gael i'r Aelodau serch hynny—a fersiwn gryno a hawdd ei darllen o'r Papur Gwyn. Rwyf eisiau sicrhau bod pawb sydd â diddordeb neu y mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnyn nhw yn gallu eu gweld a'u deall, a rhannu eu barn â ni.

Ailadroddaf fy nymuniad hefyd i weld cymaint â phosib o'n rhanddeiliaid a'n partneriaid ar draws y diwydiant a'r sector tai yn ymateb i'n hymgynghoriad. Bydd swyddogion yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu ac yn siarad â phawb sydd â diddordeb am ein cynigion drwy gydol y cyfnod ymgynghori i'n helpu i gael cynifer o ymatebion â phosib. Rwy'n sylweddoli ei fod yn gyfnod prysur iawn i lawer, wrth i ni barhau i chwilio am ffordd drwy'r heriau a gyflwynir gan COVID-19, ond rhaid inni beidio â cholli golwg ar ein nodau hirdymor. Os yw'r rhain i gael eu gwireddu, mae gofyn i ni weithredu a'u hystyried nawr. Er bod cyhoeddi'r Papur Gwyn hwn yn garreg filltir bwysig, mae llawer mwy o waith i'w wneud ac mae angen cefnogaeth a mewnwelediad ein holl bleidiau arnom ni i'n helpu i ddod i'r ateb cywir ar gyfer Cymru a sicrhau bod ein cartrefi'n ddiogel. Diolch.