– Senedd Cymru am 4:46 pm ar 20 Ionawr 2021.
Mae yna un eitem o fusnes i'w gwblhau, sef y ddadl fer, a dwi'n galw ar Jayne Bryant i gyflwyno'r ddadl fer heddiw. Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser heddiw i Jack Sargeant.
Mae bron i 11 mis ers canfod y claf COVID cyntaf yma yng Nghymru. Ers hynny, mewn blwyddyn na welwyd mo'i thebyg, mae ein gweithlu GIG a gofal cymdeithasol wedi ymdrechu i wneud popeth yn eu gallu i'n cadw'n ddiogel. Maent wedi wynebu heriau a phwysau na ellir eu dychmygu, ac i lawer, mae'r straen wedi gadael ei ôl arnynt yn bersonol ac ar eu teuluoedd. Roeddwn am ddefnyddio fy amser heddiw i ddod â'u profiadau o'r pandemig hwn i Siambr y Senedd. Mae gennym ddyletswydd i ddeall realiti'r sefyllfa y mae ein cyfreithiau yn ei chreu, a'r effaith y mae'n ei chael ar iechyd a lles y rhai sy'n gwneud popeth yn eu gallu i ofalu amdanom. Mae llawer o staff rheng flaen y GIG, ar ôl gorffen eu sifftiau, wedi defnyddio eu sefyllfa i roi gwybod i lawer ohonom beth yw eu profiadau, gan herio camwybodaeth a chanfyddiadau anghywir. Mae clywed gan y rhai ar y rheng flaen yn hanfodol.
Dau o'r rhai sydd wedi gwneud cymaint yw'r meddyg ymgynghorol uned therapi dwys, Dr Ami Jones, a'r gweithredwr theatr, Glenn Dene. Yn ddiweddar, maent wedi cyhoeddi llyfr lluniau, Behind the Mask: The NHS Family and the Fight with COVID-19. Mae'r holl elw'n mynd at elusennau'r GIG. Bydd llawer ohonoch wedi gweld y lluniau a dynnwyd gan Glenn yn y newyddion yn ddiweddar. Mae'r llyfr yn manylu ar y realiti torcalonnus y tu mewn i Nevill Hall ac Ysbyty Athrofaol y Faenor, gan ddarlunio'r goleuni a'r tywyllwch, y frwydr ddirdynnol a'r llygedyn o obaith, a dangos gwirionedd real a thrychineb yr argyfwng hwn i ni. Mae rhai ffotograffau'n dangos eiliadau calonogol, fel staff yn cynnal ei gilydd yn dyner drwy adegau anodd a babanod yn cael eu geni. Ond mae lluniau mwy dirdynnol yn cynnwys cleifion COVID ar beiriannau anadlu a chorff ar droli corffdy. Roeddwn wedi gobeithio gallu dangos y lluniau wrth i mi siarad heno, ond nid ydym yn gallu gwneud hynny, yn anffodus. Fodd bynnag, byddaf yn dangos rhai ohonynt ar fy nghyfryngau cymdeithasol. Yn ei geiriau ei hun, dywed Dr Ami Jones:
Mae'n debyg mai dyma un o'r adegau gwaethaf—a'r gorau hefyd—yn hanes y GIG. Mae'r ffordd y mae timau wedi dod at ei gilydd i addasu a goresgyn yn gadarnhaol iawn—ond mae'n amlwg yn gyfnod tywyll yn y GIG. Felly tristwch a hapusrwydd pan fyddwch chi'n edrych nôl ar y lluniau.
Nôl yn ystod y gwanwyn y llynedd, arweiniodd ymddangosiad COVID-19 at weld llawer o brosesau yn y GIG a fyddai fel arfer wedi cymryd blynyddoedd i'w gweithredu yn cael eu rhoi ar waith o fewn wythnosau'n unig. Mae hynny yr un mor wir i staff. Maent wedi addasu, hyfforddi ac ysgwyddo cyfrifoldebau newydd. Maent wedi wynebu'n ddi-gwestiwn yr heriau y mae COVID wedi'u creu. Mae'r rhai sydd wedi dechrau o'r newydd wedi cael 10 mlynedd o brofiad mewn chwe mis. Mae Dr Ami Jones yn disgrifio dechrau'r ymateb i'r pandemig fel hyn:
Symudodd yr ysbyty'n gyflym. Ad-drefnwyd wardiau a nodwyd mannau y gellid eu troi'n unedau therapi dwys newydd. Rhannwyd yr ysbyty yn ardal lle gellid trin cleifion COVID ac ardaloedd lle byddai cleifion eraill yn parhau i dderbyn gofal meddygol. Er bod llawdriniaethau dewisol ac apwyntiadau clinigol rheolaidd wedi cael eu canslo a bod COVID yn ymddangos fel pe bai'n cael y sylw i gyd, roedd pobl yn dal i fod angen llawdriniaeth frys, ac roedd menywod yn dal i fod angen rhoi genedigaeth. Yr hyn a oedd yn rhyfedd am y rhan fwyaf o'r cleifion hyn oedd eu bod mor ifanc a heini o gymharu â'n poblogaeth arferol mewn unedau therapi dwys, ond yn fuan cawsom wybod nad oes neb yn berffaith ddiogel rhag COVID.
Yn gwbl briodol, roedd ofn ar gleifion wrth feddwl am fynd ar beiriant anadlu, ac rydym bob amser wedi ceisio gwneud amser i'r claf ffonio neu wneud galwad fideo adref a siarad ag anwyliaid cyn i ni fynd â hwy i'r uned therapi dwys. Yn anffodus, gwyddom na fydd tua 50 y cant o'r cleifion sy'n mynd i mewn i uned therapi dwys oherwydd COVID yn dod oddi yno, felly mae ychydig funudau gwerthfawr i'r claf siarad â'u teuluoedd neu hyd yn oed i weld eu teuluoedd yn hanfodol, os yn bosibl. Pan nad yw perthnasau'n cael mynd i mewn i'r ysbyty, mae gorfod gwneud hyn dros y ffôn yn dorcalonnus, ac mae'n debyg mai dyna'r peth creulonaf oll. Ond ni fydd y claf yn marw ar ei ben ei hun. Bydd y nyrsys yno bob amser, yn dal eu dwylo ac yn siarad â hwy tan y diwedd.
Mae'n debyg mai'r nyrsys sydd wedi cael yr amser anoddaf drwy gydol y pandemig. Neu'n fwy cywir, y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gwneud swyddi arferol nyrsys ar unedau therapi dwys. Hyd yn oed os gallwn ddod o hyd i fwy o welyau, prynu mwy o beiriannau anadlu, mwy o bympiau cyffuriau, ni allwn brynu mwy o'r peth y mae cleifion sâl mewn unedau therapi dwys ei angen fwyaf, sef nyrs uned therapi dwys. Rydym wedi gorfod addasu a goresgyn problemau i lenwi'r bwlch posibl yn y niferoedd os bydd yr ymchwydd yn digwydd. Gofynnwyd i'n staff unedau therapi dwys a oedd wedi gadael i fynd i swyddi eraill ddod yn ôl. Gofynnwyd i nyrsys nad ydynt erioed wedi gweithio mewn unedau therapi dwys ond a oedd â sgiliau trosglwyddadwy ddod i'n helpu. Gofynnwyd i gynorthwywyr theatr a chynorthwywyr gofal iechyd o'r wardiau ddod i'n helpu, ac ni wrthododd neb; roedd pawb am helpu, er eu bod yn teimlo eu bod yn rhoi eu hunain ar flaen y gad yn ôl pob tebyg. Hwy oedd y nyrsys a dreuliodd amser yn siarad â'r perthnasau dros y ffôn neu ar alwad fideo, i ddangos eu hanwyliaid yn cysgu ar beiriant anadlu, a hwy oedd yn dal llaw claf pe bai'r gwaethaf yn digwydd. Weithiau, byddai'r sifftiau hyn yn eu torri'n emosiynol, weithiau byddai'r oriau caled mewn cyfarpar diogelu personol yn eu torri'n gorfforol, ond ni wnaethant golli eu synnwyr digrifwch, eu hysbryd na'u proffesiynoldeb.
Mae dyfyniadau eraill o'r llyfr yn cynnwys un Ian Brooks, ymarferydd adran lawdriniaethau. Dywedodd Ian, 'Dri deg un o flynyddoedd yn ôl, dechreuais weithio yn y theatr. Nid yw'r feirws yn poeni pwy y mae'n ei heintio, mae'n ddidrugaredd ac yn dawel. Roedd yr ofn a deimlwn bob dydd fel dedfryd marwolaeth. Roeddwn yn eistedd gyda fy merch 21 oed un bore, a gofynnodd i mi sut oeddwn i. Fe wnes i ddechrau crio ac ni wyddwn pam.'
Louise, nyrs uned therapi dwys, 'Teimlad o gyfrifoldeb nad wyf erioed wedi'i wynebu o'r blaen; bydd dal llaw claf a dyheu am iddynt gael byw er mwyn eu teulu nad ydynt yn gallu bod gyda hwy yn aros gyda fi am byth.'
Andrew Edwards, cynorthwyydd theatr, 'Ni allai dim fy mharatoi ar gyfer COVID. Roedd cerdded i mewn i uned therapi dwys fel cerdded i mewn i ffilm arswyd, ond bod hyn yn real iawn. Roedd gwifrau, pympiau, goleuadau'n fflachio a larymau'n canu ym mhobman, ond roedd pawb yn cadw eu pennau. Roedd yn gwneud i mi deimlo'n ddiogel wrth wybod bod staff yr uned therapi dwys yn fy nghefnogi a'n bod yn wynebu hyn gyda'n gilydd.'
Jessica Scurr, ymarferydd adran lawdriniaethau, 'Yn fy rôl i, mae'n fraint wirioneddol cael bod yno i'r cleifion yn yr eiliadau y mae arnynt ein hangen fwyaf. Rydym yn defnyddio ein blynyddoedd o hyfforddiant a'n sgiliau arbenigol i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt, ac yn gwneud popeth yn ein gallu i'w cadw'n ddiogel ac yn iach. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod unigryw hwn, rwyf wedi teimlo tosturi ac empathi na ellir ei gymharu ag unrhyw beth a deimlais o'r blaen. Rwy'n ceisio sianelu'r emosiynau llethol hynny i fod mor garedig a chysurlon â phosibl. Rwy'n sicrhau bod gan gleifion law i'w dal, rwy'n gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud, a gobeithio bod fy llygaid yn ei ddangos. Gobeithio eu bod yn gwybod fy mod yn gwenu y tu ôl i fy masg. Yn yr adegau tywyllaf, cefais oleuni drwy anogaeth a chefnogaeth fy holl gydweithwyr. Maent wedi bod yn ysgwyddau i grio arnynt ac yn rheswm dros wenu. Rydym yn cynnal ein gilydd drwy'r adegau da a drwg, ac mae'n anrhydedd wirioneddol cael gweithio ochr yn ochr â phobl mor anhygoel.'
Dyma brofiadau'r don gyntaf yn y gwanwyn. Yn anffodus, gwyddom fod y gaeaf wedi bod yn galetach. Mae'r cyfraddau'n uwch o lawer nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig, ac mae mwy o bobl wedi marw. Mae unedau therapi dwys yn gweld cleifion llawer salach yn ystod yr ail don hon, ac maent yn gweld pobl yn eu tri degau, eu pedwar degau a'u pum degau. Mae'r staff yn parhau i fod yn anhygoel, ond bydd llawer ohonynt heb ddod dros y gwanwyn. Mae nifer wedi'u hynysu rhag eu teuluoedd eu hunain er mwyn eu cadw'n ddiogel, mae llawer yn wynebu sifft erchyll ar ôl sifft erchyll, ac yn drasig, mae llawer o gydweithwyr wedi'u colli. Hyd yn oed os ydynt wedi'u hyfforddi ac yn brofiadol, ni fyddant yn barod yn feddyliol ac yn gorfforol i fynd drwy hyn. Nid yw staff profiadol, yn lanhawyr, porthorion, meddygon ymgynghorol a nyrsys, erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg i hyn dros gyfnod hir o amser. Maent i gyd wedi blino ac mae gan lawer ohonynt yr hyn y maent yn ei alw'n 'ludded COVID'.
Yn anffodus, nid yn ein hysbytai'n unig y mae staff yn ei chael hi'n anodd. Mae ein parafeddygon a'n gwasanaeth ambiwlans wedi bod o dan bwysau aruthrol ac yn drasig collasant eu hail aelod o staff i COVID ddydd Calan. Mae prif weithredwr yr ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans, Jason Killens, wedi datgan bod 12 y cant o staff y gwasanaeth naill ai'n sâl neu'n gorfod hunanynysu oherwydd COVID ar un adeg ym mis Rhagfyr. Maent wedi bod o dan ei lefel rhybudd uchaf, a ddisgrifiwyd fel pwysau eithafol, ers dechrau mis Rhagfyr. Golyga hyn fod y staff wedi wynebu pwysau cynyddol yn sgil y nifer arferol o alwadau a llwyth gwaith, yn ogystal â chael COVID ar ben hynny. Mae Dr Catherine Goodwin, sy'n seicolegydd clinigol ymgynghorol, wedi dweud wrthyf, 'Rwy'n credu mai'r neges fwyaf rydym yn ei chlywed gan staff ar hyn o bryd yw ofn; ofn drostynt eu hunain, eu teuluoedd, a'n cleifion, a'r ansicrwydd sy'n dod gyda'r hyn nad ydym yn ei wybod.'
Rwy'n credu bod rhai staff o ddifrif yn ofni mynd i'r gwaith. Mae anaf moesol yn sicr yn risg ac mae methu ymateb mor gyflym ag yr hoffent i gleifion neu drosglwyddo cleifion i staff ysbytai yn cael effaith ar ein criwiau a'r rhai sy'n trin galwadau. Maent yn teimlo nad ydynt yn gwneud eu gwaith. Mae'r cynnydd yn nifer y staff sy'n sâl neu'n gorfod hunanynysu neu sydd â COVID hir, yn ogystal ag anawsterau'n gysylltiedig â straen, yn golygu fod pwysau cynyddol ar y staff sydd yn y gwaith. Rwy'n tybio y byddwn yn gweld cynnydd mewn salwch meddwl ac anawsterau corfforol pan fydd y pwysau'n llacio wrth i bobl ddechrau teimlo y gallant ystyried a hyd yn oed sylwi arnynt eu hunain, yn hytrach na dal i fynd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu dal i fynd.
Rydym hefyd yn gweld rhwystredigaeth, dryswch a thristwch yn sgil rhai o'r golygfeydd y mae'r cyfryngau'n adrodd amdanynt, am bobl yn ymgynnull mewn niferoedd mawr neu'n methu cadw pellter cymdeithasol ar ôl i'r cyfyngiadau symud cyntaf ddod i ben, ac yn fwy diweddar, wrth i lawer o bobl barhau i gymysgu i bob golwg. A thristwch nad oes modd i berthnasau fod gyda chleifion sy'n wael fel y byddent wedi gwneud yn y gorffennol. Dyma beth y mae pob aelod o staff rwyf wedi siarad â hwy dros y misoedd diwethaf yn ei ddweud wrthyf: mae'r effaith emosiynol arnynt yn aruthrol. Disgrifiodd un parafeddyg y pwysau arno ef a'i gydweithwyr. Dywedodd ar un pwynt fod digwyddiad wedi achosi iddo gwestiynu a oedd am barhau i weithio. Dywedodd, 'Pan oedd y pandemig ar ei anterth y llynedd, ymosododd aelod o'r cyhoedd arnaf a phoeri yn fy wyneb, a dyna'r unig dro i mi stopio a gofyn, "Ai dyma rwyf fi eisiau?" Fodd bynnag, mae'r mwyafrif llethol o'r cyhoedd', meddai, 'wedi bod yn hollol wych', gan ychwanegu, 'rydym wedi cael pobl yn codi llaw arnom ac yn prynu coffi i ni.'
Mae ein staff gofal cymdeithasol hefyd wedi bod yn gweithredu yn yr amgylchiadau anoddaf. Maent wedi gweld y bobl y maent yn gofalu amdanynt o ddydd i ddydd yn marw mewn niferoedd erchyll, a heb amser i alaru. Mae'r effaith arnynt wedi bod yn enfawr. Maent wedi ymdrechu i wneud eu gwaith ar yr adegau anoddaf. Mae breuder y gwasanaeth a'r pwysau ar staffio wedi bod yn fwy amlwg nag erioed. Rydym wedi gweld nifer o enghreifftiau o gartrefi gofal cyfan yn hunanynysu, yn union fel ynysoedd, gan gadw rhag eu teuluoedd am wythnosau er mwyn diogelu'r preswylwyr. Ni ddylid anghofio'r effaith ar bawb yn ein teulu gofal—o ofalwyr i lanhawyr i gogyddion.
Rydym hefyd wedi gweld staff rheng flaen y GIG yn siarad am realiti ymladd y pandemig. Mae meddygon ymgynghorol uchel eu parch ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, fel Ami Jones, David Hepburn a Tim Rogerson, i gyd wedi lleisio eu profiad ac wedi disgrifio'r pwysau y maent hwy a'u cydweithwyr yn ei wynebu o un diwrnod i'r llall. Mae'r ffordd y mae rhai pobl wedi dewis sarhau'r bobl sydd wedi ceisio dweud y gwir yn frawychus ac yn warthus. Mae'n destun gofid i'r staff sydd wedi dod oddi ar eu sifftiau'n lluddedig ddim ond i gael eu trin gyda chyn lleied o barch. Er mai lleiafrif bach yw'r lleisiau hyn, mae'n rhaid i ni'r mwyafrif wneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn cael eu clywed a'u cefnogi. Ni ddylai ein staff rheng flaen orfod wynebu hyn, ac maent yn haeddu cymaint gwell.
Mae'r pandemig COVID wedi tanlinellu'r heriau y mae'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, yn enwedig y rhai sydd ar y rheng flaen. Ar draws y system, gwelsom drosom ein hunain yr aberth anhygoel y mae cynifer wedi'i wneud i ddiogelu, helpu a chefnogi pobl fregus, nid yn unig ar wardiau ysbytai, ond yn y gymuned hefyd. Nid yw effaith lawn hyn yn hysbys o hyd, ond dangosodd ymchwil ddiweddar yn Lloegr fod bron i hanner y staff gofal dwys wedi nodi symptomau o anhwylder straen wedi trawma, iselder difrifol neu orbryder. Mae cael gweithlu iach, brwdfrydig ac wedi'i gefnogi o fudd i bawb ohonom, ond wrth inni ddechrau ar yr unfed mis ar ddeg o bwysau COVID, mae'r GIG yn wynebu un o'r adegau anoddaf yn ei hanes. Mae staff ar draws y system yn teimlo'n flinedig ac yn lluddedig.
Bydd effaith hyn i'w theimlo gan y rhai ar y rheng flaen am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'n debygol o adael gwaddol o broblemau iechyd meddwl hirdymor wedi'u hachosi gan COVID, a phobl yn cwestiynu a ydynt yn dal i fod eisiau neu'n gallu aros yn y swydd o ganlyniad i orweithio. Gwn fod gan lawer o'r gwasanaethau hynny gymorth ar waith eisoes, megis gwasanaethau iechyd galwedigaethol a lles sy'n gallu gwrando, cynnal sesiynau galw heibio, gweithdai a chyfeirio at gymorth ychwanegol. Fodd bynnag, rhaid gwneud mwy, a rhaid i'r Llywodraeth roi mwy o gefnogaeth, a rhaid cael mwy na geiriau cynnes a'n diolch i ategu'r gydnabyddiaeth honno. Maent yn haeddu hynny. Mae ein holl staff iechyd a gofal cymdeithasol wedi mynd i'r gwaith o un diwrnod i'r llall, ac wedi gweithio'n ddiflino, gan ofalu am ein hanwyliaid heb fawr o seibiant rhag y feirws hwn. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i'w cynorthwyo i sicrhau ein bod yn gofalu am y rhai sy'n parhau i ofalu amdanom ni. Rhaid rhoi cymorth helaeth ar waith i'w helpu nawr ac yn y blynyddoedd i ddod, ac fel y dywedwyd droeon, nid yw pob arwr yn gwisgo clogyn, ond gwyddom ble mae llawer ohonynt yn gweithio. Diolch.
A gaf fi ddechrau drwy ganmol ein cyd-Aelod, Jayne Bryant, am gyflwyno'r pwnc hwn i'r Senedd? Credaf fod y ffordd y mae newydd draddodi ei haraith heddiw yn dangos yn glir pa mor bwysig yw'r mater hwn, ac rydym yn dweud 'diolch' wrth ein staff GIG a'n gweithwyr gofal gwych.
Mae'n amhosibl dweud pryd a sut y mae anhwylder straen wedi trawma yn taro, ond pan fydd yn gwneud hynny, gall fod yn wanychol ac yn ddinistriol. Rwy'n dweud hyn o fy mhrofiad personol a fy mrwydr fy hun. Ar hyn o bryd, mae ein GIG a'n staff gofal cymdeithasol a'n gwirfoddolwyr yn cael eu hymestyn y tu hwnt i'r hyn y gallem ei ddisgwyl yn rhesymol ganddynt, a hyd yn oed yr hyn y gallem ei ddychmygu. Ond maent yn dal ati, ac maent yn dal i fynd er mwyn y wlad.
Gallai pryder, blinder a hyd yn oed ymdeimlad o anobaith o bosibl fod yn broblem wirioneddol, ond gallem wynebu mwy fyth o risg yn y dyfodol gan y gallai sgil-effeithiau a achosir gan drawma ddigwydd ar unrhyw adeg. Nawr, ni ddylai hyn synnu'r Llywodraeth, a dylem gynllunio ar ei gyfer yn awr. Bydd angen cefnogaeth sylweddol gan fod y problemau iechyd meddwl hyn yn rhagweladwy a byddant yn effeithio ar bawb.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen gyda geiriau Jayne Bryant: nid yw pob arwr yn gwisgo clogyn, ond gwyddom ble maent yn gweithio, ac mae angen i ni fel Llywodraethau ac fel unigolion gefnogi'r arwyr sydd wedi ein cefnogi ni ac sy'n parhau i'n cefnogi ni. Diolch.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr iawn, a hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am roi'r cyfle hwn i ni gael y ddadl hollbwysig ac amserol hon. Rwy'n credu ein bod i gyd wedi gweld y lluniau o staff a wardiau ysbytai fel nad oes gennym unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei newid gan y profiadau y maent wedi bod drwyddynt, a hoffwn ddiolch i Jayne yn arbennig am beintio'r lluniau byw hynny i ni heno, gan ddangos o ddifrif yr amgylchiadau hynod emosiynol ac anodd y mae staff y GIG yn eu hwynebu. Diolch hefyd i Jack, sydd bob amser wedi dangos sensitifrwydd a dealltwriaeth go iawn o'r mater hwn.
Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran holl Aelodau'r Senedd wrth dalu teyrnged i waith caled di-ildio ac ymroddiad y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol anhygoel. Hwy yw grym bywyd y gwasanaeth yn ystod cyfnodau o heddwch, ond yn enwedig nawr yn ein brwydr gyda'r feirws ofnadwy a didrugaredd hwn. Fel y dangosodd Jayne, mae'r 11 mis diwethaf wedi bod yn gwbl ddiarbed iddynt. Mae'r pandemig yn parhau i effeithio'n sylweddol ar gleifion a staff, ac rwy'n llwyr gydnabod y baich corfforol ac emosiynol ychwanegol y mae hyn yn ei osod ar y gweithlu. Mae llawer o staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio ar y rheng flaen yng Nghymru wedi siarad ar-lein ac ar y cyfryngau am eu profiadau o ddarparu gofal o ganol yr ymateb i'r feirws. Ac rwy'n credu bod eu straeon yn ein hatgoffa o realiti llethol y frwydr ddyddiol i reoli'r feirws, i ofalu am ein cleifion ac i gadw ein pobl yn ddiogel.
Nawr, rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i iechyd a lles ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn cynorthwyo cyflogwyr i ddarparu ystod o gymorth ychwanegol yn ystod y pandemig hwn. Ers mis Mawrth y llynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian sylweddol mewn cymorth iechyd meddwl i'n gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru wedi adeiladu ar ei mecanweithiau partneriaeth gymdeithasol hirsefydledig i weithio'n agos gyda'r GIG, cyflogwyr ac undebau iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod cynnig llesiant amlhaenog ar gael i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd credaf fod yn rhaid i ni gydnabod y bydd y pandemig yn effeithio ar unigolion mewn ffyrdd gwahanol, ac efallai y byddant am gael gwahanol lefelau a mathau o ymyrraeth, a dyna pam y mae'n rhaid i'r cynnig rydym wedi'i ddatblygu gynnwys gwasanaeth gwrando llai dwys, yn ogystal â therapi dwys a hyd yn oed gwasanaeth iechyd corfforol y gallai fod ei angen ar rai, ar ben y cyngor ymarferol ac ariannol y gallai fod ei angen ar rai.
Mae nifer o apiau yn rhad ac am ddim wedi bod ar gael sy'n cynnig cymorth ac arweiniad ar gyfer rheoli gorbryder, gwella cwsg a thechnegau myfyrio i helpu pobl i ymdawelu a chael meddwl clir. Rŷm ni wedi ymestyn y ddarpariaeth SilverCloud, sef gwasanaeth ar-lein, er mwyn i bob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob cwr o Gymru gael mynediad, ble bynnag maen nhw, at amrywiaeth o raglenni sy'n cael eu darparu, ar unrhyw bryd sy'n iawn iddyn nhw. Ac mae'r rhaglenni hyn yn seiliedig ar dechnegau therapi gwybyddol ymddygiadol, CBT, cognitive behavioural therapy, sy'n gallu rhoi'r sgiliau i bobl reoli llesiant seicolegol eu hunain, i fod yn fwy hyderus.
I gydnabod y straen a'r trawma sylweddol mae staff yr NHS yn wynebu, cafodd mwy na £1 miliwn yn ychwanegol ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill i ymestyn y gwasanaeth iechyd i weithwyr iechyd proffesiynol Cymru. Roedd y gwasanaeth eisoes ar gael i weithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a deintyddiaeth yng Nghymru, ond mae mwy o ddarpariaeth nawr ar gael yn ychwanegol oherwydd yr arian yma. Mae'r gwasanaeth nawr yn cynnig lefel well nag erioed o gymorth a chyngor i bob gweithiwr iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, nyrsys, myfyrwyr gofal iechyd proffesiynol, parafeddygon, fferyllwyr, therapyddion, deintyddion a gwirfoddolwyr meddygol sy'n gweithio yng Nghymru. Erbyn hyn, mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig hefyd i staff gweinyddol a chlerigol sydd hefyd dan bwysau.
Nod y gwasanaeth yw darparu cymorth i'r rheini sydd â symptomau acíwt—unigolion sy'n teimlo nad allant hwy ymdopi rhagor, sy'n gofidio neu sy'n cael hi'n anodd i reoli'r gwahanol heriau sydd wedi dod yn sgil y pandemig, unigolion sy'n dechrau teimlo symptomau gorbryder ac iselder, unigolion sydd ag anhwylder sy'n gysylltiedig ag yfed alcohol, er enghraifft, yn ogystal â'r rheini sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma, PTSD. Rŷm ni'n siŵr o weld cynnydd yn y galw am gymorth o'r fath yma pan fydd pethau wedi tawelu, a phobl efallai yn gallu arafu a meddwl nôl am eu profiadau nhw, fel ag eglurodd arweinydd y Royal College of Physicians yng Nghymru i mi yr wythnos diwethaf.
Yn ystod y symposiwm iechyd i weithwyr iechyd proffesiynol mis Rhagfyr, eglurwyd pa mor angenrheidiol a gwerthfawr yw'r rhaglen hon. Mae hyn yn arbennig o wir oherwydd bod y baich o ymateb i COVID-19 yn barhaus, ac yn ymestyn i'r tymor hir. Bydd Llywodraeth Cymru yn dal i weithio gyda Phrifysgol Caerdydd, sy'n rhedeg y gwasanaeth, i sicrhau ei fod yn addas at y diben a'i fod yn gallu addasu gan ddibynnu ar y newid yn y galw. A dwi'n falch o ddweud ein bod ni'n gweithio'n dda gyda Phrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd i lunio model sydd yn cefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol ar ben y rheini yn yr adran iechyd. Mae gwybodaeth am yr adnoddau hyn, a sut i gael gafael arnyn nhw, ar dudalennau materion iechyd meddwl gwefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Yn yr hydref, fe gyhoeddon ni gylchlythyr iechyd Cymru i sefydliadau'r NHS, yn nodi sut y disgwylir iddyn nhw gefnogi iechyd a llesiant eu staff yn ystod y pandemig. Mae'r cylchlythyr yn ffordd o atgoffa cyflogwyr, ac mae'n anfon neges glir i'n gweithlu, gan ailddatgan ein hymrwymiad ni, ac ymrwymiad y cyflogwyr, i gefnogi eu hiechyd a'u llesiant nhw.
Ers dechrau'r pandemig, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn cynnal rhwydwaith llesiant sy'n ystyried faint o ddefnydd sy'n cael ei wneud o'r gwasanaeth sydd ar gael yn barod, a sut gellir rhoi cyhoeddusrwydd i hwn.
Yn dilyn adolygiad o wasanaethau iechyd galwedigaethol ledled Cymru, a gomisiynwyd gan y byrddau iechyd, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried ateb iechyd galwedigaethol priodol i Gymru, yn seiliedig ar argymhellion yr adolygiad. Deallaf fod grŵp partneriaeth wedi'i sefydlu i edrych ar y gwaith hwn, gan gynnwys sylwadau gan undebau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn ariannu rhaglen cymorth i weithwyr, sydd wedi'i chaffael a'i rheoli gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd hon yn darparu cymorth llesiant tymor hwy i bobl yn y gweithlu gofal cymdeithasol, nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cynllun eto.
Nawr, nid ydym wedi gorffen ein brwydr yn erbyn y feirws di-ildio hwn. Mae cyflwyno'r rhaglen frechu a chyhoeddi ein cynllun brechu yr wythnos diwethaf yn cynnig llygedyn o obaith a llwybr allan o'r pandemig hwn, ond gwyddom y bydd yr effeithiau iechyd corfforol a meddyliol parhaus ar gleifion, staff a'r cyhoedd yn aruthrol, a rhaid inni barhau i weithio gyda'n gilydd, i fod yn barod ac i allu cynorthwyo ein gweithlu i ddal ati i gefnogi ein cleifion wrth inni lywio ein ffordd allan o'r pandemig hwn. Felly, diolch unwaith eto, Jayne, am dynnu sylw'r Senedd at y pwnc gwirioneddol bwysig hwn.
Diolch, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.