Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 20 Ionawr 2021.
Mae’n ddigon posibl y gallai’r cwestiwn hwnnw fod wedi codi gan fod cymaint o bwyslais wedi’i roi ar weithwyr gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal. Mae gennyf gwestiwn am y rheini sy'n rhoi gofal personol i blant mewn ysgolion. Credaf y gallwn gytuno nad oedd y cyfathrebu ynghylch blaenoriaethu'r unigolion hyn yn wych—gwnaethoch gyfaddef hynny i bob pwrpas yr wythnos diwethaf, Weinidog. Ond eglurodd y Gweinidog addysg ymhellach y bydd yr holl staff, boed mewn ysgolion arbennig, ysgolion prif ffrwd neu golegau addysg bellach, os ydynt yn ymwneud â gofal personol disgyblion, yn cael eu categoreiddio fel staff gofal cymdeithasol. Felly, bydd hynny'n cynnwys athrawon perthnasol, rwy'n cymryd. Sut y bydd y wybodaeth ynglŷn â phwy yw'r holl staff perthnasol—sut y mae’r wybodaeth honno’n mynd i gael ei chynnwys ar y rhestrau y mae'r byrddau iechyd lleol yn eu gweithredu, yn enwedig gan ei bod yn swnio fel pe baent yn ychwanegiadau diweddar at y rhestr flaenoriaeth hon o dan y pennawd staff gofal cymdeithasol?