Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:04, 20 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Gallaf. Mae gweithwyr gofal cartref yn weithwyr gofal cymdeithasol. Mae pobl sy'n mynd i mewn i gartrefi pobl i ddarparu gofal yn sicr yn weithwyr rheng flaen, ac nid gennyf fi yn unig y byddech yn clywed hynny. Gallaf weld nid fy unig fy nirprwy—gwelaf gyn-Weinidogion sydd wedi bod yn gyfrifol am y briff hwnnw—ac rwy'n credu y byddant yn cydnabod bod y gweithwyr rheng flaen hyn wedi cael mwy o gydnabyddiaeth fel arwyr yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol, lle nad oeddent yn cael cydnabyddiaeth heb fod mor bell yn ôl â hynny. Felly, rwy'n disgwyl y cânt eu cynnwys yn yr ychydig grwpiau blaenoriaeth cyntaf, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn ymuno ag eraill ar draws y sbectrwm gwleidyddol i'w hannog i dderbyn y brechlyn pan fydd yn cael ei gynnig iddynt, er mwyn iddynt gael yr amddiffyniad y bydd yn ei roi iddynt a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.