Amseroedd Aros

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:57, 20 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Yn ôl ymchwil gan y South Wales Argus, roedd dros 32,000 o gleifion wedi aros y tu hwnt i'r cyfnod o 36 wythnos yng Ngwent hyd at fis Hydref, sef y dyddiad diweddaraf roedd ganddynt ffigurau ar ei gyfer. Un o'r prif resymau dros yr oedi yw nad oes digon o staff ar gael gan eu bod adref o’r gwaith yn sâl neu'n hunanynysu.

Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, newidiodd Llywodraeth Cymru ei pholisi ar gyfer brechu staff y GIG yn ddiweddar, gan orfodi llawer i aros 12 wythnos am eu hail ddos ​​o frechlyn Pfizer. Mae hyn yn mynd yn groes i gyngor Sefydliad Iechyd y Byd y dylid ei roi o fewn tair wythnos, ac yn sicr heb fod yn hwy na chwe wythnos. Mae hyn yn golygu nad yw meddygon a wirfoddolodd i weithio ar y rheng flaen yn teimlo'n ddiogel i wneud hynny tan eu bod yn gwybod eu bod wedi'u brechu'n llawn.

Adroddodd Huw Edwards ddoe fod uwch-glinigydd wedi awgrymu y gellid ei hystyried yn weithred droseddol pe bai aelod o staff yn marw o ganlyniad i gael eu heintio tra ar ddyletswydd rhwng cael y dos ​​cyntaf a’r ail ddos. Ni allaf orbwysleisio pa mor gryf y mae meddygon yn teimlo ynglŷn â hyn. A wnaiff y Gweinidog, felly, wrthdroi’r polisi hwn ac ailddechrau rhoi eu hail ddos ​​i weithwyr iechyd rheng flaen o fewn tair wythnos, er mwyn diogelu ein gweithwyr rheng flaen a chaniatáu iddynt ddychwelyd i’r gwaith i’n cadw’n ddiogel ac yn iach?