Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 20 Ionawr 2021.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn y Senedd yn awyddus i longyfarch staff gofal iechyd sydd wedi gallu darparu cryn dipyn o ofal nad yw'n gysylltiedig â COVID yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus ofnadwy hwn. Fodd bynnag, gan fod yr ail don wedi bod cymaint yn fwy difrifol na'r gyntaf hyd yn oed, gwyddom bellach fod bron i hanner y cleifion mewnol, er enghraifft, yng Nghwm Taf Morgannwg yno gyda COVID, ac ni chredaf fod y patrwm hwnnw’n wahanol iawn i lawer o ardaloedd eraill ledled y Deyrnas Unedig a Chymru, ac yn anffodus, mae rhai llawdriniaethau brys bellach yn cael eu canslo. Mae angen cynllun arnom wrth inni symud allan o gyfnod COVID gyda'r brechiad, er mwyn sicrhau bod y bobl y gohiriwyd eu llawdriniaethau brys yn cael eu trin cyn gynted â phosibl a'n bod yn gwneud asesiad risg gofalus iawn o'r holl bobl y gohiriwyd eu llawdriniaethau dewisol a llawdriniaethau brys.