Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 20 Ionawr 2021.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn godi mater pobl sy'n darparu gofal cartref, y rheini sy'n mynd i mewn i gartrefi'r henoed a phobl agored i niwed er mwyn darparu gofal, yn enwedig y rheini a gyflogir drwy daliadau uniongyrchol, neu'r rheini sy'n darparu gofal yn breifat. Rwyf wedi siarad â rhai yn y gweithlu, ac maent yn ansicr a fyddant yn rhan o'r gweithlu gofal cymdeithasol a gaiff eu blaenoriaethu i gael eu brechu. A allwch ddarparu unrhyw eglurhad iddynt, os gwelwch yn dda?