Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 20 Ionawr 2021.
Wel, dwi wedi bod yn edrych ar y syniadau yna a dwi wedi bod yn edrych ar beth sy'n digwydd yn Seland Newydd. Dwi'n meddwl bod pethau y gallwn ni eu dysgu, ond hefyd mae'n rhaid inni fod yn ofalus nad yw'r canolfannau hynny'n dod yn rhywle lle dyw pobl ddim eisiau cael eu gweld, ac felly mae stigma yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohono yma. Mae yna hubs ar gael mewn rhai llefydd ar draws Cymru eisoes, ac felly dwi'n meddwl mai ein diddordeb ni yw gwneud mwy o ran hubs iechyd, fel ei fod yn ehangach na jest rhywbeth sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. So, rŷn ni'n edrych ar beth sy'n bosibl, ond dwi'n meddwl bod hyd yn oed beth mae Plaid Cymru yn ei awgrymu—. Lefel fach iawn yw hi, yn ôl beth yw'r angen, dwi'n meddwl, o ran hubs. Felly, dwi'n meddwl y byddai'n well gyda fi i weld sut y gallwn ni gael y ddarpariaeth yna mewn hubs cymunedol ehangach sydd eisoes yn bodoli.