Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 20 Ionawr 2021.
A dwi'n canmol y gwaith sy'n cael ei wneud yng Ngwent hefyd. Rwyf innau wedi bod yn cadw llygad ar y ddarpariaeth sydd yna, ar gael. Ond mae'n rhaid i'r ddarpariaeth fod ar gael ym mhob rhan o Gymru, wrth gwrs, a dwi'n cytuno'n llwyr efo chi am yr angen i sicrhau bod yna argaeledd yn ein cymunedau ni ar draws Cymru, ac mae yna frys i wneud hyn. Mi fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n sôn am y one-stop shops rydw i a Phlaid Cymru wedi eu hargymell a fydd yn gallu helpu pobl efo problemau iechyd meddwl a phroblemau eraill mae pobl ifanc yn eu hwynebu hefyd, yn sgil diweithdra neu broblemau tai gwael, iechyd rhyw, ac yn y blaen. Mae hyn yn rhywbeth a fyddai'n gallu cael ei sefydlu ar draws Cymru ar frys, ac mae'n fy nharo i, yn sgil y problemau sydd wedi codi yn ystod y pandemig yma, a'i effaith o ar bobl ifanc, mai rŵan ydy'r amser i wneud hyn. A wnewch chi felly greu'r math o wasanaethau rydyn ni'n galw amdanyn nhw fel arwydd clir i'r un person ifanc o bob pedwar yna nad ydyn nhw wedi cael eu hanghofio dros y flwyddyn ddiwethaf?