Gofal Iechyd Meddwl yn Sir Gaerfyrddin

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:55, 20 Ionawr 2021

Diolch, Helen. Rydyn ni’n disgwyl i bob bwrdd iechyd gynnal gwasanaethau iechyd meddwl ac i fonitro ac ymateb i newidiadau mewn anghenion iechyd meddwl. Nododd y byrddau iechyd eu cynlluniau yn fframwaith gweithredol yr NHS ar gyfer chwarter 3 a chwarter 4. Roedd y rhain wedi eu cyflwyno ym mis Rhagfyr. Byddan nhw'n cynhyrchu cynllun blynyddol ar gyfer 2021-22 a fydd yn cydfynd â’r blaenoriaethau sydd wedi'u nodi yn fframwaith cynllunio blynyddol yr NHS ar gyfer eleni.