2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru ar 20 Ionawr 2021.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal iechyd meddwl yn Sir Gaerfyrddin? OQ56145
Diolch, Helen. Rydyn ni’n disgwyl i bob bwrdd iechyd gynnal gwasanaethau iechyd meddwl ac i fonitro ac ymateb i newidiadau mewn anghenion iechyd meddwl. Nododd y byrddau iechyd eu cynlluniau yn fframwaith gweithredol yr NHS ar gyfer chwarter 3 a chwarter 4. Roedd y rhain wedi eu cyflwyno ym mis Rhagfyr. Byddan nhw'n cynhyrchu cynllun blynyddol ar gyfer 2021-22 a fydd yn cydfynd â’r blaenoriaethau sydd wedi'u nodi yn fframwaith cynllunio blynyddol yr NHS ar gyfer eleni.
Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb, Weinidog, ond yn ystod y tair wythnos diwethaf cysylltodd nifer o etholwyr â mi, pobl yn nwyrain sir Gaerfyrddin, yn Llanelli a'r cymunedau cyfagos, ac rwy'n pryderu'n fawr am yr hyn a oedd ganddynt i'w ddweud. Roedd un yn sôn am y diffyg cymorth i oroeswyr camdriniaeth rywiol, a lle ceir cymorth, roedd rhaid aros yn hir iawn amdano; dywedwyd wrth un etholwr a oedd yn cael meddyliau hunanladdol am fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys ac roedd disgwyl iddynt wneud eu ffordd eu hunain yno; pobl yn aros dros flwyddyn am gwnsela drwy therapïau siarad, pan ydym yn gwybod pa mor bwysig y gall hynny fod; a dim cymorth ar gyfer therapïau siarad drwy gyfrwng y Gymraeg, a all fod yn arbennig o bwysig yma. Os oes gan rywun broblem iechyd meddwl, mae'n hollbwysig eu bod yn gallu mynegi eu hunain mewn perthynas â'r problemau hynny yn eu dewis iaith neu yn eu hiaith gyntaf.
Byddai pawb ohonom yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhai buddsoddiadau ariannol mawr ym maes iechyd meddwl, ond rwy'n awgrymu i chi fod y materion sy'n codi yn Llanelli a'r cymunedau cyfagos yn awgrymu bod gwir angen inni edrych yn ofalus iawn ar sut y mae'r adnoddau hynny'n cael eu defnyddio. Ac mae gennyf bryder penodol am y diffyg cefnogaeth arbenigol i oroeswyr camdriniaeth rywiol, ac am y diffyg mynediad at therapïau siarad. Yn y pen draw, Weinidog, gallwn wario llawer o arian yn y cymunedau hyn ar therapïau cyffuriau, ond nid yw'r rheini'n datrys problemau pobl; nid ydynt ond yn eu helpu i'w rheoli. Felly, os ysgrifennaf atoch mewn perthynas â'r achosion hyn—ac nid wyf eisiau crybwyll enwau neu amgylchiadau unigolion yma—a wnewch chi ymrwymo i gysylltu â'r bwrdd iechyd i edrych ar yr hyn sy'n digwydd? Efallai fod y rhain yn broblemau sy'n cael eu gwaethygu gan y sefyllfa COVID wrth gwrs, ond mae'r rhain yn bobl sydd mewn trallod difrifol ac ni ddylent gael eu trin fel hyn.
Diolch, Helen. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni bwysleisio nad y llwybr iechyd yw'r unig lwybr—gall y trydydd sector wneud llawer o waith anhygoel yn y maes hwn mewn gwirionedd. Ac un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i'w wneud yw datblygu hyder meddygon teulu, yn arbennig, i deimlo y gallant gyfeirio at leoedd eraill yn ogystal â'r llwybr meddygol. Felly, cefais gyfarfodydd gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yr wythnos diwethaf i drafod beth arall y mae angen inni ei wneud i gynyddu eu hyder fel y gallant fod yn sicr, os ydynt yn cyfeirio rhywun at sefydliad trydydd sector, y bydd ansawdd yn gysylltiedig â hynny a chysondeb o ran ble y gellir darparu hynny. Felly, rwy'n credu bod angen i'r sgyrsiau hynny barhau.
Welwch chi, nid yw'r cymorth arbenigol hwnnw o reidrwydd yn rhywbeth y mae'r bwrdd iechyd yn y sefyllfa orau i'w wneud. Mae yna sefydliadau trydydd sector sy'n gallu gwneud hyn yn well na'r bwrdd iechyd, mae'n debyg, oherwydd y sensitifrwydd sy'n gysylltiedig â'r materion hynny, oherwydd profiad bywyd, neu beth bynnag. Felly, i mi, mae'r cymorth ychwanegol ar gyfer haen 0, ar gyfer y trydydd sector, yn union lle dylai fod, ond nawr mae'n rhaid inni fagu hyder rhwng y lleoliadau meddygol, y lleoliadau gofal sylfaenol a'r trydydd sector. Mae'n gweithio'n wych mewn rhai ardaloedd, ond nid yw'n ddarlun cyson ar draws Cymru gyfan.