Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 20 Ionawr 2021.
Diolch i chi, Weinidog. A gaf fi annog bwrdd cyflawni a throsolwg y Gweinidog ar iechyd meddwl a sefydlwyd gennych i edrych ar hyn? Rydych hefyd yn ystyried adroddiad diweddar Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd, a oedd yn edrych ar y pandemig a'i oblygiadau. Bydd gennym bobl â COVID hir, rydym wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o ôl-syndromau—fel polio, er enghraifft, unigolion a gafodd polio yn ystod yr epidemig mawr diwethaf yn y 1950au sydd â phroblemau ac mae problemau iechyd meddwl yn aml yn un ohonynt sy'n uniongyrchol gysylltiedig. A hefyd, byddai'r driniaeth, oherwydd ei natur ymyrrol, wedi bod yn brofiad trawmatig iawn i rai pobl. Bydd ganddynt broblemau iechyd meddwl real iawn a fydd yn galw am ymateb eithaf penodol sy'n ymwneud â chyd-destun yr anawsterau iechyd meddwl sy'n cael eu creu.