2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru ar 20 Ionawr 2021.
5. Pa fesurau sydd ar waith i gefnogi cleifion sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn dilyn triniaeth COVID-19? OQ56141
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl a llesiant teuluoedd y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnynt? OQ56149
Diolch, David, a deallaf fod caniatâd wedi'i roi i grwpio'r cwestiwn hwn gyda chwestiwn 8. A yw hynny'n gywir? Gwych.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith adsefydlu cenedlaethol yn sail i ganllawiau ar gyfer poblogaethau penodol ym mis Mai 2020 i helpu gwasanaethau i ystyried cynyddu'r galw am adsefydlu, ailalluogi ac adfer ym mhob rhan o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae anghenion iechyd meddwl a llesiant wedi'u gwreiddio ar draws y poblogaethau a nodir yn y fframwaith hwnnw.
Diolch i chi, Weinidog. A gaf fi annog bwrdd cyflawni a throsolwg y Gweinidog ar iechyd meddwl a sefydlwyd gennych i edrych ar hyn? Rydych hefyd yn ystyried adroddiad diweddar Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd, a oedd yn edrych ar y pandemig a'i oblygiadau. Bydd gennym bobl â COVID hir, rydym wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o ôl-syndromau—fel polio, er enghraifft, unigolion a gafodd polio yn ystod yr epidemig mawr diwethaf yn y 1950au sydd â phroblemau ac mae problemau iechyd meddwl yn aml yn un ohonynt sy'n uniongyrchol gysylltiedig. A hefyd, byddai'r driniaeth, oherwydd ei natur ymyrrol, wedi bod yn brofiad trawmatig iawn i rai pobl. Bydd ganddynt broblemau iechyd meddwl real iawn a fydd yn galw am ymateb eithaf penodol sy'n ymwneud â chyd-destun yr anawsterau iechyd meddwl sy'n cael eu creu.
Diolch yn fawr iawn, David. Rydym yn llwyr gydnabod nid yn unig fod COVID hir yn rhywbeth y bydd yn rhaid i bobl fyw gydag ef, ac fel rydych wedi gweld, rydym wedi datblygu ap i geisio helpu adferiad pobl, ac rydym wedi'i lansio yr wythnos hon. Ond hefyd, rwy'n credu bod rhaid inni ganolbwyntio ar grwpiau penodol. Mae rhai o'r rheini'n bobl sydd wedi treulio amser hir yn yr ysbyty a gofal critigol, felly dyna un grŵp o bobl y mae'n rhaid i ni eu deall. Pobl nad ydynt, efallai, yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan COVID, ond sydd wedi cael eu heffeithio'n anuniongyrchol yn yr ystyr eu bod yn aros am fath gwahanol o lawdriniaeth, a gall hynny arwain at broblemau iechyd meddwl. Mae yna bobl, wrth gwrs, sydd wedi osgoi troi at wasanaethau oherwydd eu bod yn pryderu y gallent ddal COVID, neu beth bynnag, tra byddant yno. A hefyd, ceir grwpiau sydd wedi'u hynysu'n gymdeithasol lle mae'r cyfyngiadau symud wedi cynyddu'r pwysau y maent wedi'i deimlo, a diffyg cysylltedd cymdeithasol. Felly, credaf fod llawer o bethau y mae angen inni eu cydnabod, ac agweddau ychydig yn wahanol.
Mae'n amlwg fod rhaid ymdrin â phob person sy'n byw gyda phroblem iechyd meddwl fel unigolyn, a'i bod yn broblem unigol unigryw sydd angen ei deall. Ond rwy'n credu bod angen i ni ddeall nawr fel cymuned ein bod wedi profi trawma, fel cymdeithas, a bod angen dull wedi'i lywio gan drawma i lywio ein hymateb i'r pandemig. Yn sicr, bydd y bwrdd trosolwg wedi nodi COVID fel mater rydym yn cadw llygad arno a mater y bydd angen i ni barhau i fod yn hyblyg yn ei gylch.
Y mater arall sy'n werth ei nodi, mae'n debyg, yw y bydd problem benodol gyda phobl ar y rheng flaen. Ac roedd yn ddiddorol siarad â Choleg Brenhinol y Meddygon yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r hyn y maent yn ei weld fel problem yn y tymor hwy, sef nad oes gan bobl ar y rheng flaen amser i feddwl ar hyn o bryd mewn gwirionedd, ond pan ddaw hyn i ben, mae'n bosibl y gallai straen o'r fath ar ôl trawma eu taro o ddifrif ac maent yn awgrymu y gallai hynny gymryd tua thair neu bedair blynedd i daro pobl mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid inni roi'r darpariaethau hynny i gyd ar waith i baratoi ar gyfer yr hyn a allai fod yn effaith eithaf sylweddol ar y bobl sydd ar y rheng flaen.
Weinidog, rwy'n credu bod nifer y cwestiynau rydych wedi'u cael gan Aelodau heddiw ynghylch effaith COVID ar lesiant meddyliol yn tynnu sylw at yr heriau sydd o'n blaenau wrth fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny. Ac nid yn aml y byddwn yn sôn am yr unigolion mewn perthynas â hyn, ond wrth gwrs, mae'r unigolion yn rhan o uned deuluol yn aml iawn, ac mae eu trawma hefyd yn effeithio ar deuluoedd—a chredaf fod y gair a ddefnyddiwyd gennych wrth ateb David Melding, 'trawma', yn gywir, ac mae angen inni fynd i'r afael â hyn.
Tynnodd Mike Hedges sylw at brofedigaeth a bydd heriau yno gyda phobl sy'n teimlo'n euog am nad oeddent yno gyda'r unigolyn pan ddaeth eu bywyd i ben a hynny am nad oeddent yn cael bod yno. Felly, mae'n drawma mawr i'n teuluoedd, ac mae Jeremy Miles, fy nghyd-Aelod yn yr etholaeth gyfagos yng Nghastell-nedd, wedi cychwyn rhaglen ymwybyddiaeth trawma gyda Mind Castell-nedd Port Talbot. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda sefydliadau'r trydydd sector ac elusennau iechyd meddwl i drafod sut y byddant yn mynd i'r afael â'r agenda ymwybyddiaeth trawma, a fydd yn sicr o wynebu teuluoedd yn ogystal ag unigolion?
Diolch yn fawr iawn, David. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd iawn â'r trydydd sector ac roedd yno bobl yn pwysleisio pa mor bwysig yw deall trawma. Hwy yw'r bobl sydd wedi gwneud yn siŵr fy mod wedi deall bod hynny'n hanfodol i'r ffordd rydym yn symud ymlaen fel cymdeithas—ein bod wedi bod drwy brofiad trawmatig fel cymdeithas. Ond wrth gwrs, rydych yn llygad eich lle, mae yna unigolion sy'n cael eu heffeithio, ond efallai y bydd yr unigolion hynny'n cael effaith ganlyniadol ar aelodau eraill yn y teulu, ac mae'r rheini'n bethau y mae angen i ni gadw llygad arnynt hefyd.
Rydym yn ariannu gwahanol brosiectau. Yn sicr, rydym wedi rhoi tua £750,000 i Gweithredu dros Blant a Monitro Gweithredol Mind. Felly, rydym yn cydnabod bod problem yma sy'n galw am sylw o safbwynt teuluoedd. Hefyd, rydym wedi rhoi £900,000 ychwanegol i'n hosbisau a'n gweithwyr profedigaeth i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael i helpu'r teuluoedd hynny drwy gyfnod anodd iawn yn eu bywydau.
Weinidog, mae'r rhai sy'n ddigon ffodus i adael yr ysbyty ar ôl derbyn triniaeth ar gyfer COVID-19 nid yn unig yn wynebu misoedd lawer o wella corfforol, mae'n rhaid iddynt hefyd ddod i delerau â'r trawma meddyliol y maent wedi'i ddioddef. Mae ymchwil newydd yn dangos y bydd un o bob pump o oroeswyr yn datblygu salwch meddwl ac mae llawer o oroeswyr yn cael trafferth gydag anhwylder straen wedi trawma am fisoedd ar ôl gadael yr ysbyty. Canfuwyd hefyd fod goroeswyr mewn mwy o berygl o ddatblygu dementia. Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob goroeswr yn cael eu monitro'n ofalus ac yn cael y cymorth angenrheidiol yn ddigon cynnar i osgoi'r cymhlethdodau mwyaf difrifol? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, ac rydych yn llygad eich lle, Caroline, fod yn rhaid i ni gydnabod, pan fydd gan bobl broblem gorfforol yn yr amgylchiadau anodd hyn, fod posibilrwydd gwirioneddol y bydd hynny'n arwain at broblem iechyd meddwl. Yn fwyaf arbennig, mae'r rheini sydd wedi bod ar eu gwely angau—mae llawer o bobl wedi bod yn agos iawn at farw ac mae hynny ynddo'i hun yn brofiad trawmatig. Dyna pam ein bod yn cydnabod bod anhwylder straen wedi trawma yn debygol o ddod yn rhywbeth y mae angen inni roi mwy o sylw iddo yn y dyfodol. Hefyd, mae angen inni fonitro pobl sydd wedi gadael yr ysbyty. Yn amlwg, ar hyn o bryd, mae pobl yn canolbwyntio'n fawr ar wella pobl, ond mae gwaith dilynol wedi bod mewn awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl ar y trywydd iawn.
Mae dementia yn bwynt arall y sonioch chi amdano. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n amlwg i mi yw bod llawer o bobl yn dechrau cael problem gyda dementia o bosibl—rydym wedi gweld bod yr unigrwydd y mae llawer wedi'i deimlo wedi cynyddu cyflymder dementia. Felly, mae hwnnw, unwaith eto, yn rhywbeth y mae angen inni gadw llygad arno, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym raglen gwerth £10 miliwn sy'n mynd i'r afael â dementia yng Nghymru.