Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 20 Ionawr 2021.
Weinidog, mae'r rhai sy'n ddigon ffodus i adael yr ysbyty ar ôl derbyn triniaeth ar gyfer COVID-19 nid yn unig yn wynebu misoedd lawer o wella corfforol, mae'n rhaid iddynt hefyd ddod i delerau â'r trawma meddyliol y maent wedi'i ddioddef. Mae ymchwil newydd yn dangos y bydd un o bob pump o oroeswyr yn datblygu salwch meddwl ac mae llawer o oroeswyr yn cael trafferth gydag anhwylder straen wedi trawma am fisoedd ar ôl gadael yr ysbyty. Canfuwyd hefyd fod goroeswyr mewn mwy o berygl o ddatblygu dementia. Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob goroeswr yn cael eu monitro'n ofalus ac yn cael y cymorth angenrheidiol yn ddigon cynnar i osgoi'r cymhlethdodau mwyaf difrifol? Diolch.