Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 20 Ionawr 2021.
Diolch yn fawr iawn, David. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd iawn â'r trydydd sector ac roedd yno bobl yn pwysleisio pa mor bwysig yw deall trawma. Hwy yw'r bobl sydd wedi gwneud yn siŵr fy mod wedi deall bod hynny'n hanfodol i'r ffordd rydym yn symud ymlaen fel cymdeithas—ein bod wedi bod drwy brofiad trawmatig fel cymdeithas. Ond wrth gwrs, rydych yn llygad eich lle, mae yna unigolion sy'n cael eu heffeithio, ond efallai y bydd yr unigolion hynny'n cael effaith ganlyniadol ar aelodau eraill yn y teulu, ac mae'r rheini'n bethau y mae angen i ni gadw llygad arnynt hefyd.
Rydym yn ariannu gwahanol brosiectau. Yn sicr, rydym wedi rhoi tua £750,000 i Gweithredu dros Blant a Monitro Gweithredol Mind. Felly, rydym yn cydnabod bod problem yma sy'n galw am sylw o safbwynt teuluoedd. Hefyd, rydym wedi rhoi £900,000 ychwanegol i'n hosbisau a'n gweithwyr profedigaeth i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael i helpu'r teuluoedd hynny drwy gyfnod anodd iawn yn eu bywydau.