Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:44, 20 Ionawr 2021

Un peth dwi wedi ei ddysgu yn ystod y misoedd diwethaf yw bod yna lot o bobl sydd efallai ddim angen ymyrraeth meddygol, ond maen nhw angen lot o gefnogaeth, a'r bobl orau i roi'r gefnogaeth hynny yw pobl yn eu cymunedau nhw, pobl maen nhw'n dod ar eu traws bob amser—eu hathrawon nhw neu bobl yn eu cymunedau nhw. Felly, y syniad yma gyda'r model sydd yn gweithio yn arbennig o dda yn ardal Gwent yw eich bod chi yn hyfforddi pobl yn y cymunedau, yn hytrach na'ch bod chi'n disgwyl i arbenigwyr fod yna trwy'r amser. Felly, bydd y parhad yna wedyn ar gael ar gyfer y bobl ifanc yma, fel eu bod nhw'n gallu tapio i mewn iddo fe ac nad yw e jest yn un peth sydd yn digwydd unwaith ac wedyn yn cael ei dynnu i ffwrdd oddi wrthyn nhw. Ond mae yna lot o hyfforddiant sydd angen ei wneud yn y maes yma.