Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:50, 20 Ionawr 2021

Diolch am hynny. Rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd, ond roeddwn i'n meddwl a oes gyda chi unrhyw ddiddordeb mewn prentisiaethau safon gradd, er enghraifft, i athrawon sy'n dod o gefndiroedd galwedigaethol gwahanol yn hytrach na thrwy'r system rŷm ni'n ei gweld ar hyn o bryd. Efallai fod hynny'n rhywbeth i'w ystyried.

Hoffwn symud ymlaen nawr at rywbeth arall. Bron yn syth ar ôl dechrau'r cyfnod clo, clywom ni fod y galw am gyrsiau blasu ar-lein gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cynyddu, a newyddion da iawn oedd hynny. Rwy'n deall bod oedi ar ddata ar draws eich meysydd cyflawni polisi, ond efallai y gallwch chi gadarnhau eich bod chi wedi llwyddo i ddal lan tipyn bach â hynny. A allwch chi ddweud wrthym ni faint o ddiddordeb cynnar yn y cyrsiau sydd wedi parhau, a beth sy'n newid, beth sy'n gweithio, i gadw'r dysgwyr hynny i lynu ato am gyfnod hirach?