Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 20 Ionawr 2021.
Diolch. Rŷn ni wedi gweld bod yna gynnydd aruthrol wedi bod yn nifer y bobl a oedd yn ymddiddori mewn dysgu Cymraeg, ac nid oedd hynny jest wedi digwydd trwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Byddwch chi'n ymwybodol bod Duolingo a Say Something in Welsh, a'r rheini i gyd, wedi gweld cynnydd, felly mae'r rheini i gyd yn bethau rŷn ni'n eu croesawu. Wrth gwrs, y cwestiwn yw, fel ŷch chi'n gofyn, ydy pobl yn mynd i barhau i ddysgu wrth i'r pandemig yma ddod i ben, a hwnna yw'r sialens. Dŷn ni ddim yn gwybod eto, ond, yn sicr, rŷn ni wedi gweld y cynnydd yn dal i fod yna. Ond dyw'r data diweddaraf ddim gyda fi i weld a yw pobl wedi dal ati yn ystod y cyfnod, ac felly, wrth gwrs, gallaf i ddod nôl atoch chi gyda manylion ar hynny pe byddai hwnna'n helpu.