5. Dadl ar ddeiseb P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:23, 20 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch, yn gyntaf oll, i Janet Finch-Saunders fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a hefyd i'r deisebydd a'r 18,000 a mwy o bobl a lofnododd y ddeiseb? Fel y crybwyllwyd, mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon. Dyna pam y cyflwynais Fil i'r Cynulliad—y Senedd bellach—yn 2017, i geisio diogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru. Fel rhan o'r Bil hwnnw, roeddwn hefyd am edrych ar ddiogelu enwau tai hanesyddol.