Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 20 Ionawr 2021.
Diolch, Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, mae'n bleser gennyf agor y ddadl hon ar ddeiseb yn galw am gamau gweithredu i helpu i atal newid a cholli enwau Cymraeg tai. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Robin Aled Davies, a chasglwyd mwy na 18,000 o lofnodion, ffaith sydd, yn fy marn i, yn dangos faint o bobl sy'n teimlo'n gryf am y mater hwn, ac am ddiogelu'r Gymraeg a threftadaeth Cymru yn ehangach. Nawr, er i'r ddeiseb ddenu llofnodion o bob rhan o Gymru—yn ogystal â thu hwnt—roeddwn eisiau nodi'r gefnogaeth arbennig o gryf yng ngorllewin a gogledd-orllewin Cymru, lle gwelir hyn fel mater arbennig o bwysig.
Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb ym mis Tachwedd y llynedd, gan nodi rhai o'r ymdrechion blaenorol a wnaed i ddiogelu enwau Cymraeg lleoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rheini wedi cynnwys cynnig Bil Aelodau a gyflwynwyd gan Dr Dai Lloyd AS yn 2017 ac ymchwiliad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i'r amgylchedd hanesyddol, hefyd yn 2017. Nawr, efallai y bydd yr Aelodau a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith hwnnw yn hoffi dweud mwy amdanynt, er bod y Pwyllgor Deisebau wedi nodi bod yr ymchwiliad hwn wedi arwain at argymhelliad y dylai'r Llywodraeth barhau i adolygu'r mater a chyflwyno gwarchodaeth bellach os nad yw'r dull presennol yn effeithiol. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn bwriadu mynd ar drywydd y mater hwn fel rhan o'i waith etifeddol.
Nawr, wrth gwrs, gyda diwedd tymor y Senedd—mae'n prysur agosáu, ac mae'r Pwyllgor Deisebau'n cydnabod nad oes digon o amser ar ôl ar gyfer gweithredu galwad uniongyrchol y ddeiseb i gyflwyno deddfwriaeth newydd cyn hynny. Fodd bynnag, nid oeddem yn teimlo y dylai'r ffaith honno atal dadl ar y mater na'r ffynonellau gwarchodaeth y gobeithiaf y gellid eu darparu i enwau hanesyddol, yn awr ac yn y tymor hwy. Ceir rolau i amrywiaeth o gyrff ddarparu'r warchodaeth honno, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Cadw. Bydd y dull sydd ei angen hefyd yn dibynnu ar y math o enw sy'n cael ei ystyried.
Nawr, mae'r ddeiseb hon ei hun yn benodol iawn, yn ymwneud yn uniongyrchol ag enwau tai unigol yn unig. Fodd bynnag, mae'n rhan o fater ehangach, gan gynnwys enwau aneddiadau a lleoedd eraill sy'n fwy o ran maint, nodweddion naturiol, ffermydd ac adeiladau mawr, yn ogystal ag eiddo unigol. Ar y raddfa fwyaf, mae mesurau fel safonau'r Gymraeg eisoes yn darparu rhywfaint o warchodaeth i'n dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi, gyda dyletswyddau ar awdurdodau lleol, er enghraifft, mewn perthynas ag arwyddion. Mae enwau lleoedd hanesyddol hefyd wedi'u cadw ar gofrestr ers 2017, gyda chanllawiau statudol ar waith ar gyfer cyrff cyhoeddus.
Wedyn, ar y raddfa leiaf, mae diogelu enwau tai yn debygol o fod yn anos yn ymarferol, ac mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw at rai o'r anawsterau hynny yn ei hymateb ysgrifenedig i'n Pwyllgor Deisebau. Os mai drwy ei enw'n unig y gellir adnabod eiddo, rhaid i berchnogion wneud cais i'w hawdurdod lleol i'w newid. Nawr, rwy'n ymwybodol fod rhai awdurdodau'n darparu canllawiau i annog perchnogion i ddefnyddio enwau Cymraeg ar eu heiddo, er nad ystyrir bod hyn yn orfodol. Yn ogystal, os yw eiddo'n cael ei adnabod yn bennaf drwy rif, efallai y bydd perchnogion yn gallu ychwanegu neu newid enw heb fod angen cymeradwyaeth. Ac er enghraifft, gall perchennog weithredu busnes o eiddo, megis fferm, o dan enw gwahanol. Felly, nid yw hwn yn fater syml o bell ffordd, ac fel y mae'r ddeiseb yn helpu i'w ddangos, mae'n un sy'n ysgogi teimladau ac ymatebion cryf. Dylid disgwyl hyn, o ystyried pa mor bwysig yw enwau i gadarnhau pwy ydym ni a hanes y cymunedau rydym yn byw ynddynt ac rydym am uniaethu â hwy. Gobeithio y gall y ddadl hon heddiw ein helpu i edrych ar y sefyllfa ac i ystyried beth arall y gellid ei wneud i ddiogelu enwau traddodiadol neu hanesyddol. Diolch yn fawr.