– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 20 Ionawr 2021.
Felly rŷn ni'n symud i eitem 5. Yr eitem honno yw'r ddadl ar y ddeiseb i ddeddfu i atal newid enwau Cymraeg tai. Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, mae'n bleser gennyf agor y ddadl hon ar ddeiseb yn galw am gamau gweithredu i helpu i atal newid a cholli enwau Cymraeg tai. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Robin Aled Davies, a chasglwyd mwy na 18,000 o lofnodion, ffaith sydd, yn fy marn i, yn dangos faint o bobl sy'n teimlo'n gryf am y mater hwn, ac am ddiogelu'r Gymraeg a threftadaeth Cymru yn ehangach. Nawr, er i'r ddeiseb ddenu llofnodion o bob rhan o Gymru—yn ogystal â thu hwnt—roeddwn eisiau nodi'r gefnogaeth arbennig o gryf yng ngorllewin a gogledd-orllewin Cymru, lle gwelir hyn fel mater arbennig o bwysig.
Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb ym mis Tachwedd y llynedd, gan nodi rhai o'r ymdrechion blaenorol a wnaed i ddiogelu enwau Cymraeg lleoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rheini wedi cynnwys cynnig Bil Aelodau a gyflwynwyd gan Dr Dai Lloyd AS yn 2017 ac ymchwiliad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i'r amgylchedd hanesyddol, hefyd yn 2017. Nawr, efallai y bydd yr Aelodau a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith hwnnw yn hoffi dweud mwy amdanynt, er bod y Pwyllgor Deisebau wedi nodi bod yr ymchwiliad hwn wedi arwain at argymhelliad y dylai'r Llywodraeth barhau i adolygu'r mater a chyflwyno gwarchodaeth bellach os nad yw'r dull presennol yn effeithiol. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn bwriadu mynd ar drywydd y mater hwn fel rhan o'i waith etifeddol.
Nawr, wrth gwrs, gyda diwedd tymor y Senedd—mae'n prysur agosáu, ac mae'r Pwyllgor Deisebau'n cydnabod nad oes digon o amser ar ôl ar gyfer gweithredu galwad uniongyrchol y ddeiseb i gyflwyno deddfwriaeth newydd cyn hynny. Fodd bynnag, nid oeddem yn teimlo y dylai'r ffaith honno atal dadl ar y mater na'r ffynonellau gwarchodaeth y gobeithiaf y gellid eu darparu i enwau hanesyddol, yn awr ac yn y tymor hwy. Ceir rolau i amrywiaeth o gyrff ddarparu'r warchodaeth honno, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Cadw. Bydd y dull sydd ei angen hefyd yn dibynnu ar y math o enw sy'n cael ei ystyried.
Nawr, mae'r ddeiseb hon ei hun yn benodol iawn, yn ymwneud yn uniongyrchol ag enwau tai unigol yn unig. Fodd bynnag, mae'n rhan o fater ehangach, gan gynnwys enwau aneddiadau a lleoedd eraill sy'n fwy o ran maint, nodweddion naturiol, ffermydd ac adeiladau mawr, yn ogystal ag eiddo unigol. Ar y raddfa fwyaf, mae mesurau fel safonau'r Gymraeg eisoes yn darparu rhywfaint o warchodaeth i'n dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi, gyda dyletswyddau ar awdurdodau lleol, er enghraifft, mewn perthynas ag arwyddion. Mae enwau lleoedd hanesyddol hefyd wedi'u cadw ar gofrestr ers 2017, gyda chanllawiau statudol ar waith ar gyfer cyrff cyhoeddus.
Wedyn, ar y raddfa leiaf, mae diogelu enwau tai yn debygol o fod yn anos yn ymarferol, ac mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw at rai o'r anawsterau hynny yn ei hymateb ysgrifenedig i'n Pwyllgor Deisebau. Os mai drwy ei enw'n unig y gellir adnabod eiddo, rhaid i berchnogion wneud cais i'w hawdurdod lleol i'w newid. Nawr, rwy'n ymwybodol fod rhai awdurdodau'n darparu canllawiau i annog perchnogion i ddefnyddio enwau Cymraeg ar eu heiddo, er nad ystyrir bod hyn yn orfodol. Yn ogystal, os yw eiddo'n cael ei adnabod yn bennaf drwy rif, efallai y bydd perchnogion yn gallu ychwanegu neu newid enw heb fod angen cymeradwyaeth. Ac er enghraifft, gall perchennog weithredu busnes o eiddo, megis fferm, o dan enw gwahanol. Felly, nid yw hwn yn fater syml o bell ffordd, ac fel y mae'r ddeiseb yn helpu i'w ddangos, mae'n un sy'n ysgogi teimladau ac ymatebion cryf. Dylid disgwyl hyn, o ystyried pa mor bwysig yw enwau i gadarnhau pwy ydym ni a hanes y cymunedau rydym yn byw ynddynt ac rydym am uniaethu â hwy. Gobeithio y gall y ddadl hon heddiw ein helpu i edrych ar y sefyllfa ac i ystyried beth arall y gellid ei wneud i ddiogelu enwau traddodiadol neu hanesyddol. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch, yn gyntaf oll, i Janet Finch-Saunders fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a hefyd i'r deisebydd a'r 18,000 a mwy o bobl a lofnododd y ddeiseb? Fel y crybwyllwyd, mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon. Dyna pam y cyflwynais Fil i'r Cynulliad—y Senedd bellach—yn 2017, i geisio diogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru. Fel rhan o'r Bil hwnnw, roeddwn hefyd am edrych ar ddiogelu enwau tai hanesyddol.
Mae enwau tai, enwau ffermydd ac enwau llefydd yn gyffredinol yn bwysig iawn i gof cenedl. Yn aml, mae ganddynt gysylltiad uniongyrchol efo hanes a daearyddiaeth y lle neu gysylltiad efo pobl enwog, digwyddiadau o fri, fel brwydrau am ein hannibyniaeth fel cenedl, ac elfennau pwysig yn hanes Cymru, gyda chysylltiadau i draddodiadau hynafol, diwydiant hanesyddol a chwedlau cyfoethog ein tir.
Gwyddom fod enwau ffermdai a chartrefi hanesyddol yn cael eu colli ledled Cymru. Mae colli'r enwau hyn yn golygu ein bod yn colli rhan o'n treftadaeth leol a chenedlaethol. Roedd yn siomedig fod y Llywodraeth yn 2017 wedi pleidleisio yn erbyn yr egwyddor o ddatblygu deddfwriaeth yn y maes hwn, ac rwy'n dal i gredu bod mwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddiogelu'r enwau hyn—nid yw canllawiau'n unig yn gwneud hynny. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw warchodaeth gyfreithiol ar gyfer enwau tai yng Nghymru. Mae'n amlwg fod yna amrywiaeth o ffyrdd y gallai'r Llywodraeth wneud hynny, a gwyddom fod yna sefydliadau ac academyddion sy'n cefnogi ymyrraeth bellach gan y Llywodraeth yn y maes hwn. Mae nifer o wledydd ym mhob cwr o'r byd wedi nodi bod enwau lleoedd hanesyddol yn bwysig ac wedi datblygu deddfwriaeth er mwyn diogelu enwau o'r fath. Felly, yn sicr mae potensial yno i ddysgu oddi wrth eraill. Efallai fod lle, er enghraifft, i greu gofyniad i unigolyn ofyn am ganiatâd cyfreithiol gan awdurdod wrth geisio newid enw tŷ neu unrhyw le arall. Efallai mai'r awdurdod cynllunio lleol fydd yr awdurdod hwn, fel sy'n digwydd nawr gyda chaniatâd adeilad rhestredig. Ar hyn o bryd, os yw deiliad tŷ eisiau newid enw ei dŷ, rhaid iddynt wneud cais i'r adran awdurdod lleol sy'n gyfrifol am enwi a rhifo strydoedd. Fodd bynnag, yn gyffredinol, nid oes gan yr awdurdod lleol unrhyw bwerau i wrthod newid enw, ar wahân i achosion lle gallai'r enw fod mewn defnydd eisoes yn lleol.
Mewn achosion o geisiadau i newid enw eiddo, mae canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yn nodi bod disgwyl i awdurdodau lleol wirio'r rhestr genedlaethol o enwau lleoedd hanesyddol a grybwyllwyd gan Janet wrth brosesu ceisiadau o'r fath. Os oes enw hanesyddol yn ymddangos ar y rhestr honno, neu os yw swyddog yn ymwybodol o un o ffynhonnell arall, dylid annog yr ymgeisydd i gadw'r enw hwnnw. Yn anffodus, fel rwyf wedi dadlau droeon, nid yw anogaeth yn gwarantu y caiff enwau tai neu leoedd hanesyddol eu gwarchod. Mae deddfwriaeth yn gwneud hynny, a dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru archwilio hyn ymhellach. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg i gyfrannu i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, a diolch am y cyfle i drafod y pwnc pwysig yma. Mae'r ffaith bod y ddeiseb wedi denu cymaint o lofnodion yn dangos bod yna deimladau cryf iawn ynglŷn â hyn. Ac mae'n rhaid imi gyfaddef bod hwn yn fater dwi yn poeni amdano, ond mae yna broblemau ymarferol mae'n rhaid inni edrych arnyn nhw.
Y ffaith yw bod hawl gan bobl i enwi eu tai, er da neu ddrwg. Gall unrhyw un jest rhoi plac ar flaen eu cartref heb hysbysu'r awdurdod lleol, os yw'r cartref hwnnw yn cael ei adnabod wrth enw stryd. Ond dwi yn meddwl bod rhoi enw ar dŷ yn erbyn ewyllys pobl leol yn gallu teimlo fel torri llinyn rhyngom ni a'n cymuned ni. Fe wnes i roi ymateb i'r ddeiseb yma i'r pwyllgor. Roedd hwnna yn tanlinellu'r ffaith ein bod ni eisoes wedi gweithredu o ran dinasoedd, trefi a phentrefi, ein bod ni wedi gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg i roi cyngor i unigolion a sefydliadau am ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru. A dwi'n meddwl bod y safonau Cymraeg yna wedi gwneud jobyn eithaf da. Mae'r ffaith ein bod ni'n gweld yr enwau yma yn golygu ein bod ni wedi gweld newid yma.
Dwi'n meddwl bod ein canllawiau statudol ni yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus penodol i ystyried rhestr o enwau lleol hanesyddol yn eu swyddogaethau enwi. Felly, mae hwnna yn bwynt sydd yn statudol ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i awdurdod lleol gydnabod pwysigrwydd enwau hanesyddol yn eu polisïau ar gyfer enwau strydoedd a rhifo tai. Ac os yw'r awdurdod lleol yn cael cais newydd i newid enw hanesyddol, dylai'r cyngor yna annog yr ymgeisydd i ailystyried a chadw'r enw hanesyddol. A dyma ble dwi'n gweld pwynt Dai: ydyn ni'n gallu mynd ymhellach? Ydyn ni'n gallu dweud—yn lle ein bod chi'n gofyn yn neis, ydy e'n bosibl inni fynd ymhellach a deddfu a thynhau y canllawiau statudol yna? Felly, mae'n rhaid imi gyfaddef bod gen i lot o gydymdeimlad yn hyn o beth, a byddwn i'n eithaf hapus i siarad gydag, efallai, aelodau'r pwyllgor a Dai, i weld beth yn union y gallwn ni ei wneud i dynhau pethau fel ein bod ni ddim yn gweld mwy o hyn yn digwydd. Un enghraifft rŷn ni wedi ei gweld—. Dwi'n meddwl ei bod hi'n werth dweud, does dim byd yn atal perchennog eiddo ag enw hanesyddol rhag rhoi enw ychwanegol iddo—enw busnes, er enghraifft. So, un enghraifft sy'n gwylltio lot o bobl yw Happy Donkey Hill. Hwnna yw'r enw newydd arno, ond Faerdre Fach yw enw'r fferm o hyd, a dyw'r enw ddim wedi newid yn swyddogol, ond mae yna blac newydd ar y wal ar gyfer y busnes. Felly, mae'n rhaid i ni jest fod yn ymwybodol bod yna broblemau yn y fan hyn, ond dwi yn ddigon bodlon i weithio i weld a yw hi'n bosibl i ni dynhau yn y maes yma.
Ond dwi yn meddwl ei bod hi'n werth dweud bod y dystiolaeth rŷn ni wedi ei gweld yn dangos, mewn rhai siroedd, fod mwy o geisiadau yn eu cyrraedd nhw i roi enwau Cymraeg ar dai na'r gwrthwyneb. Er enghraifft, yng Ngheredigion, lle, chwarae teg, maen nhw rili wedi gwneud ymdrech yn y maes yma, dim ond un cais roedden nhw wedi ei gael i newid enw tŷ o'r Gymraeg i'r Saesneg, er eu bod nhw wedi cael 10 cais i newid o'r Saesneg i Gymraeg. Felly, mae rhywbeth yn gweithio yng Ngheredigion, ac efallai ei bod hi'n werth i ni edrych a oes yna bethau y mae pobl eraill yn gallu eu dysgu yn fanna.
Ond dwi hefyd yn meddwl bod gweithredu lleol—pwysau cymuned—yn gallu'n helpu ni yn y maes yma. Os ŷch chi'n edrych ar beth sydd wedi digwydd, er enghraifft, ym Mhlas Glynllifon: roedden nhw wedi trio newid yr enw yn fanna i Wynnborn Mansion, ond fe wnaeth y gymuned godi a stopio hynny rhag digwydd. Felly, mae hi'n bosibl i'r gymuned stopio'r pethau yma rhag digwydd.
Ond, diolch yn fawr i Janet. Dwi ddim yn meddwl bod hwn jest yn rhywbeth sydd yn ymwneud â thai. Dwi'n awyddus i weld ble rŷn ni'n gallu mynd ymhellach, er enghraifft, llynnoedd—mae hwnna'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni edrych arno nesaf. A hefyd, rŷn ni wedi helpu, er enghraifft, i roi arian i ddatblygu ap sydd yn dangos enwau mynyddoedd yn y gogledd-ddwyrain yng Nghymru. Felly, mae yna bethau rŷn ni'n gallu eu gwneud, ond dwi yn hapus i weld a yw hi'n bosibl i ni wneud rhywbeth yn statudol hefyd. Ond, mae'n rhaid i fi ddweud, dwi ddim yn siŵr a yw hi'n bosibl, ond dwi'n fwy na hapus i weld a allwn ni symud ymhellach yn y maes yma.
Cadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl, felly—Janet Finch-Saunders.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac i Dai Lloyd, fel Aelod, am eich cyfraniadau heddiw. Wrth gloi'r ddadl, hoffwn ddiolch hefyd i'r deisebydd, Robin Aled Davies, am gyflwyno'r ddeiseb, ac i bob un o'r 18,000 o bobl a'i llofnododd, ac sydd eu hunain wedi defnyddio'r broses ddeisebu yn ein Senedd. Rwy'n gobeithio y bydd y pwyntiau a godwyd heddiw yn cyfrannu at wneud penderfyniadau yn y dyfodol. Bydd y Pwyllgor Deisebau yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb mewn cyfarfod yn y dyfodol, pan fyddwn yn gobeithio cael ystyriaethau pellach gan y deisebydd ac unrhyw un arall sydd wedi dilyn y ddeiseb neu'r trafodion heddiw. Diolch yn fawr.
Y cynnig yw i nodi'r ddeiseb yma. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld nac yn clywed gwrthwynebiad, ac felly fe dderbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.