Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon ar adroddiad effaith Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ar gyfer 2019-20. Mae hwn yn gyfnod digynsail ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU ac mae cymunedau wedi bod yn wynebu heriau eithriadol o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Rydym ni i gyd yn ymwybodol bod rhai pobl yn cael eu heffeithio'n anghymesur ac yn anffafriol yn fwy nag eraill. Hoffwn ddiolch i'r cadeiryddion dros dro, Dr Alison Parken a Martyn Jones, a staff a bwrdd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am eu gwaith parhaus yn tynnu sylw at anghydraddoldebau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac ar gyfer yr adroddiad effaith hwn.
Yn eu hadroddiad, tynnodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sylw fel un o'u meysydd blaenoriaeth at bwysigrwydd addysg wrth greu cymdeithas fwy cyfartal a theg. Yn y cwricwlwm newydd, bydd dysgwyr yn archwilio'r cyd-destun lleol, cenedlaethol a byd-eang i bob agwedd ar ddysgu. Byddan nhw'n dysgu sut i wneud cysylltiadau a datblygu dealltwriaeth o fewn cymdeithas amrywiol. Fis Gorffennaf diwethaf, penododd y Gweinidog Addysg yr Athro Charlotte Williams i gadeirio'r gweithgor cymunedau, cyfraniadau a chynefin pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm newydd. Mae gwaith y gweithgor yn cynnwys—ond yn mynd y tu hwnt i—hanes pobl dduon, i ystyried amrywiaeth o ethnigrwydd lleiafrifol yn rhan o stori Cymru. Mae'r aelodau yn cynnwys ymarferwyr profiadol a chyfranwyr i hanes pobl dduon, Asiaidd a hanes lleiafrifoedd ethnig a Chymru.
Mae trafnidiaeth hefyd yn thema polisi allweddol. Mae'n hanfodol i gyflogaeth, addysg a'r cyfle i fanteisio ar wasanaethau, ac mae'n effeithio ar ein lles a'n hiechyd cymdeithasol a chymunedol. Rwy'n ddiolchgar i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ddarparu cyngor a gwybodaeth amhrisiadwy i lywio datblygiad y strategaeth drafnidiaeth, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch profiadau pobl hŷn a phobl anabl o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Daeth yr ymgynghoriad ffurfiol i ben ddoe, ond mae 'Llwybr Newydd' yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy.
Er bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn sôn am gyfiawnder troseddol, mae hwn yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl, ond mae llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i gefnogi troseddwyr, cyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu wedi'u datganoli, ac yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Y llynedd, cyhoeddodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ei adroddiad, 'Cyfiawnder yng Nghymru i Bobl Cymru', ac yn arbennig o berthnasol yw'r canfyddiad bod ariannu gwasanaethau cyngor cyfreithiol drwy gymorth cyfreithiol yn golygu nad yw'r cyfle i fanteisio ar gyfiawnder ar gael i bawb ledled Cymru. Tynnodd y comisiwn ar gyfiawnder sylw at heriau cyngor cynyddol mewn rhai meysydd, risgiau difrifol i gynaliadwyedd hirdymor llawer o bractisau cyfreithiol. Ond wrth gydnabod hyn, gall darparwyr cyngor a gweithwyr y sector cyhoeddus gael eu hyfforddi gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i godi ymwybyddiaeth o wahaniaethu fel y gallant ymateb yn well i anghenion eu cleientiaid.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r gronfa gynghori sengl i helpu i ateb y galw cynyddol am gyfle i fanteisio ar wasanaethau cynghori. Mae deg miliwn o bunnoedd o gyllid grant ar gael ar gyfer darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor o fis Ionawr y llynedd tan fis Mawrth eleni. Mae'n bwysig i ni gydnabod bod gwasanaethau cynghori wedi gorfod newid, gyda darparwyr y gronfa gynghori sengl yn trosglwyddo eu gwasanaethau cynghori wyneb yn wyneb i sianeli o bell—ffôn, e-bost, sgwrs ar y we—ymrwymiad enfawr gan y darparwyr i drosglwyddo eu gwasanaethau, ond estyn at gynifer.
Bwriad y Llywodraeth hon o hyd yw cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, a ddaw i rym erbyn 31 Mawrth. Bydd y ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus ystyried yr effaith economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol, ac rwy'n falch bod ein Llywodraeth yn bwrw ymlaen â hyn. Ond rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i baratoi ar gyfer y cychwyn, ac i sicrhau bod y ddyletswydd yn cyflawni ei heffaith arfaethedig. Mae'n bwysig hefyd ein bod ni wedi cymryd camau mewn nifer o feysydd eraill lle mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ymgysylltu â ni: cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru, y cynllun gweithredu LGBT+, ymchwil i effaith COVID-19 ar bobl anabl—rydym ni'n aros am adroddiad sydd wedi'i gomisiynu gan yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd ar y pwnc penodol hwnnw—ond hefyd, yn bwysig, ymchwil i gyfleoedd i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol nodi ein bod ni wedi gweithio i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Cymru sydd wedi'u cyd-ddatblygu, yn enwedig y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, sy'n cynnwys grwpiau ar lawr gwlad, pobl ifanc, pobl hŷn, ynghyd â rhwydweithiau staff Llywodraeth Cymru, gyda staff du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cymryd rhan yn y weledigaeth ar gyfer y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi chwarae rhan yn ein grŵp llywio, yn yr ymchwil i gyfleoedd i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Rydym ni wedi cael llawer o alwadau am weithredu i gryfhau a gwella ein cydraddoldeb a'n hawliau dynol yng Nghymru. Rydym ni wedi comisiynu ymchwil i lywio trafodaethau yn y dyfodol, a disgwylir adroddiad drafft fis nesaf.
Mae adroddiad effaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n cael ei drafod heddiw yn rhoi blas byr i ni o waith y comisiwn yng Nghymru, ac mae'n parhau i bwysleisio pwysigrwydd cyfraniad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fywyd Cymru, i wella bywydau a diogelu hawliau ac i helpu i greu Cymru fwy cyfartal. Diolch yn fawr.