Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 26 Ionawr 2021.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon y prynhawn yma ar yr adolygiad blynyddol o gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r adolygiad yn nodi pum nod blaenoriaeth ar gyfer cryfhau'r cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a'r pethau hynny yr hoffwn i fynd i'r afael â nhw yn fy sylwadau heddiw.
Eu nod cyntaf yw hyrwyddo cyfle cyfartal i fanteisio ar y farchnad lafur. Y ffaith drist yw bod menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli yn y gweithlu. Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn gweithio mewn swyddi rhan-amser, ar gyflog isel, ac yn aml mae'n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd ynghylch p'un ai gweithio neu ymgymryd â'r cyfrifoldeb o ofalu am eu plant. O ganlyniad, mae cyfraddau tlodi yng Nghymru yn dal yn ystyfnig o uchel. Mae cysylltiad agos rhwng risg menywod o dlodi a'u sefyllfa yn y farchnad lafur ac o fewn aelwydydd. Fel ail enillwyr cyflog neu brif ofalwyr, mae llawer o fenywod nad oes ganddynt fawr o incwm annibynnol, gan eu gadael yn arbennig o agored i dlodi pe byddai eu perthynas yn chwalu. Mae gan hyn effaith uniongyrchol ar dâl a chynnydd ac mae'n cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan TUC Cymru ym mis Mawrth yn dangos bod bylchau cyflog rhwng y rhywiau mor uchel â 25 y cant mewn rhai rhannau o Gymru. Mae gan Chwarae Teg weledigaeth i Gymru ddod yn arweinydd byd-eang ym maes cydraddoldeb rhywiol, lle gall pob menyw gyrraedd ei llawn botensial, ac rwyf i'n rhannu'r weledigaeth honno'n fawr. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nod blaenoriaeth arall—hybu cydraddoldeb yn y system addysg. Rwy'n pryderu bod cyngor gyrfaoedd, yn rhy aml o lawer, yn tueddu i arwain menywod tuag at brentisiaethau mewn sectorau lle mae cyflog yn llai nag yn y rhai sy'n cael eu dominyddu gan ddynion. Mae prentisiaethau'n aml yn llwybr at yrfaoedd mewn sectorau anhraddodiadol, ac mae'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau hyd yn oed yn fwy amlwg yma. Menywod oedd yn cyfrif am ddim ond 2.4 y cant o'r rhai a dechreuodd brentisiaethau ym maes adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu yn 2017-18. Fel y gwnaeth Ysgol Economeg Llundain ei ddarganfod, er mwyn atal anghydraddoldeb rhwng y rhywiau drwy ysgolion, yn ogystal â mynd i'r afael â'i fodolaeth mewn cymdeithas yn gyffredinol, mae mentrau i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol mewn ysgolion a drwy ysgolion yn hanfodol. Mae gan ysgolion botensial enfawr i sicrhau newid mewn cysylltiadau, safbwyntiau ac arferion rhywedd.
Llywydd dros dro, hoffwn i ddweud ychydig eiriau am y nod blaenoriaeth o gefnogi cynhwysiant economaidd a chymdeithasol pobl anabl a phobl hŷn drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Er bod gwelliannau wedi'u gwneud, nid oes gan 21 y cant o orsafoedd rheilffordd Cymru fynediad heb risiau o hyd, sy'n golygu nad ydyn nhw'n hygyrch i deithwyr hŷn ac anabl. Roedd pob trên yn y DU i fod yn gwbl hygyrch erbyn mis Ionawr 2020, ond nid yw rhai cerbydau'n cydymffurfio â'r gyfraith o hyd, ac mae gan nifer o orsafoedd risiau serth a dim lifftiau na rampiau i bobl gael mynediad i lwyfannau. Mae'r elusen Leonard Cheshire wedi honni bod bywydau pobl anabl yn cael eu difetha gan orsafoedd lleol anhygyrch, ac nad yw trenau'n addas i'r diben. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom ni nodi diwrnod rhyngwladol pobl anabl. Roedd hyn yn gyfle i ni ailadrodd ein hymrwymiad i greu cymunedau cynhwysol, hygyrch a chynaliadwy i'r anabl yma yng Nghymru. Bydd mynd i'r afael â phroblem hygyrchedd trafnidiaeth i'n pobl anabl a'n pobl hŷn yn ein galluogi i wneud hynny.
Llywydd dros dro, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n croesawu'r adroddiad hwn a'r nodau y mae'n eu nodi i ddileu rhwystrau i gyfle cyfartal wrth i ni symud ymlaen i greu Cymru deg, gyfartal a chynhwysol. Diolch.