1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Ionawr 2021.
2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gefnogaeth Llywodraeth y DU i feysydd awyr ledled y DU? OQ56173
Llywydd, diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn yna. Mae cymorth Llywodraeth y DU wedi'i gyfyngu i feysydd awyr yn Lloegr. Rydym ni'n dal i alw arnyn nhw i gefnogi meysydd awyr rhanbarthol ledled y wlad. Mae effaith drychinebus coronafeirws yn parhau i gael effaith ar y diwydiant, nad yw wedi'i gyfyngu i un rhan o'r DU.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Nid yw meysydd awyr, wrth gwrs, wedi'u datganoli. Ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn dewis pryd y mae'n dymuno bod yn Llywodraeth Lloegr neu'n Llywodraeth y DU yn ôl ei mympwy. Prif Weinidog, ers 2013, mae'r Torïaid yng Nghymru wedi methu â chefnogi ein meysydd awyr, yng Nghaerdydd ac Ynys Môn. Pan brynwyd y maes awyr yng Nghaerdydd yn 2013, dyfeisiwyd stori ganddyn nhw ei bod wedi cael ei brynu am bris a oedd yn llawer rhy uchel, a oedd yn gwbl anwir. Fe wnaethon nhw ganiatáu i'w hideoleg gyfrif mwy na swyddi. Nid oedden nhw'n hoffi'r ffaith ei fod mewn perchnogaeth gyhoeddus, ac roedd hynny yn bwysicach na diogelu swyddi'r bobl a oedd yn gweithio yno mewn gwirionedd. Byddai'r maes awyr hwnnw wedi cael ei droi yn ystâd o dai, mae'n siŵr. Byddai'r cynghorwyr, wedyn, wedi gwrthwynebu hynny hefyd. A yw'n wir, Prif Weinidog, nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn fodlon cefnogi'r diwydiant awyrennau yng Nghymru, a dyna sy'n eu gwneud nhw'n anaddas i lywodraethu Cymru, nawr ac yn y dyfodol?
Wel, Llywydd, mae methiant y Blaid Geidwadol yn amlwg yma yng Nghymru ac mae'n cael ei gynorthwyo a'i annog gan eu cymheiriaid yn Llywodraeth y DU hefyd. Ar bum gwahanol achlysur, Llywydd, ers dechrau mis Rhagfyr, ar lefel uwch swyddogion ac yn weinidogol, rydym ni wedi ceisio cael ateb gan Lywodraeth y DU am y gronfa gymorth o £100 miliwn ar gyfer meysydd awyr y maen nhw wedi ei hysbysebu dro ar ôl tro. Nawr, rydym ni'n gwybod y bydd £8 miliwn o hynny yn mynd i Faes Awyr Bryste—maes awyr y mae Llywodraeth y DU ei hun cyfeirio ato, pan fo wedi gwrthod datganoli'r doll teithwyr awyr i ni yma yng Nghymru, ar sail cystadleuaeth â Bryste. Ac eto, maen nhw'n pwmpio miliynau o bunnoedd o arian i mewn i Fryste ond yn gwrthod unrhyw gymorth i feysydd awyr yma yng Nghymru. Gweithredoedd Ceidwadwyr y DU sy'n tanseilio cefnogaeth i'r undeb ar draws y Deyrnas Unedig, a gweithredoedd y Ceidwadwyr Cymreig, yn y ffordd y maen nhw'n methu â chefnogi mentrau fel creu maes awyr cenedlaethol i Gymru, sy'n eu gwneud nhw, fel y dywed y cyn Brif Weinidog, yn anaddas i fod yn rhan o Lywodraeth yma yng Nghymru.
Rwy'n credu y gwnaf i ofyn fy nghwestiwn mewn ffordd ychydig yn wahanol. Roeddwn i'n falch iawn, Prif Weinidog, bod ymrwymiad diweddar Wizz Air i ddechrau gweithredu o'r maes awyr yn arbennig o dda i'r maes awyr—hwb gwirioneddol i'r maes awyr a'r sector hedfan ar adeg anodd iawn, yn amlwg. O'm safbwynt i, rwyf i eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi Maes Awyr Caerdydd er mwyn gallu sicrhau'r gwerth gorau pan fydd llywodraeth yn y dyfodol yn dychwelyd y maes awyr i'r sector preifat. Yn hynny o beth, efallai, Prif Weinidog, y gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar hyn o bryd i gefnogi'r maes awyr yn ei ddatblygiad yn y dyfodol, o ran strategaeth farchnata newydd, a hefyd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am welliannau i gysylltiadau trafnidiaeth â'r maes awyr ac yn arbennig pa fuddsoddiad cyfalaf y gellir ei roi ar waith o amgylch y maes awyr i helpu'r maes awyr i arallgyfeirio a chynhyrchu ffynonellau incwm newydd.
Wel, Llywydd, mae gweithredoedd Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn canolbwyntio yn syml ar helpu'r maes awyr i oroesi drwy effaith eithriadol coronafeirws ar y diwydiant awyrennau. Rydym ni wedi darparu £4.5 miliwn ychwanegol yn uniongyrchol mewn cyfleusterau benthyca i'r maes awyr, yr ydym ni'n gallu ei wneud. Rydym ni wedi cyflwyno hysbysiad cymorth gwladwriaethol i Gomisiwn yr UE am gymorth y gellir ei hawlio drwy'r Undeb Ewropeaidd tra'r oeddem ni'n dal yn aelodau ohono. Yr hyn y mae angen i ni ei weld yw cymorth gan Lywodraeth y DU—cymorth y mae'n ymddangos ei bod yn barod i'w ddarparu i feysydd awyr yn Lloegr, cymorth y mae'n ei wrthod i feysydd awyr yma yng Nghymru.
Rydym ni angen gwahanol ddull gweithredu gan Lywodraeth y DU. Pam na wnaiff hyd yn oed yn ystyried coridorau awyr a ariennir yn gyhoeddus rhwng Maes Awyr Caerdydd a mannau eraill yn y DU ac eithrio Llundain—llwybrau y byddai'n rhaid i ni dalu amdanyn nhw ond yr ydym ni'n credu y byddent yn ganolog i lwyddiant y maes awyr? Pam mae Llywodraeth y DU yn parhau i gymryd gwahanol agwedd i wledydd eraill yn Ewrop o ran cymorth a ganiateir ar gyfer costau diogelwch—costau diogelwch sy'n cael eu hysgwyddo yn fwy llym gan feysydd awyr rhanbarthol na meysydd awyr mawr yma yn y Deyrnas Unedig?
Mae sawl ffordd y gallai Llywodraeth y DU chwarae ei rhan i gynorthwyo'r maes awyr yma yng Nghymru i oroesi storm enfawr coronafeirws. Rydym ni'n gwneud pob ymdrech i gynorthwyo'r maes awyr hwnnw gan ein bod ni'n gwybod ei bod hi'n hanfodol cael maes awyr cenedlaethol i gefnogi diwydiant yma yng Nghymru, i gefnogi teithwyr yma yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys, fel y dywed Russell George, gwelliannau i seilwaith o amgylch y maes awyr, yn ogystal ag yn y maes awyr ei hun. Byddai'n ddefnyddiol dros ben pe byddai'r ymdrechion yr ydym ni'n eu gwneud yn cael eu cyfateb gan y rhai y mae Llywodraeth y DU yn eu gwrthod i ni ar hyn o bryd.
A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi mai'r ffordd orau y gallai Llywodraethau gynorthwyo meysydd awyr ledled y Deyrnas Unedig ac, yn wir—[Anghlywadwy.] —yw diddymu'r doll teithwyr awyr, sy'n dreth ar hedfan ac yn anghymhelliad enfawr i bobl ddefnyddio meysydd awyr? Mae'n ychwanegu £78 at bob tocyn teithiau byr ac yn y pen draw gall fod—[Anghlywadwy.]—o gyfanswm pris tocyn. Ond byddai hyn, wrth gwrs, yn gwrthdaro â pholisi Llywodraeth Cymru o frolio ei rhinweddau o ran polisi amgylcheddol, na all Cymru wneud unrhyw wahaniaeth sylweddol iddo o safbwynt byd-eang. Ond mae lleihau cost teithio awyr yn gwbl hanfodol i oroesiad cwmnïau awyrennau ac, yn wir, ffyniant meysydd awyr.
Wel, Llywydd, rwy'n anghytuno â'r Aelod, wrth gwrs, yn y ffordd ddidaro y mae'n bychanu unrhyw gyfrifoldeb y gallai fod gennym ni yng Nghymru o ran cyfrannu at y camau a fydd, gyda'i gilydd, yn gwneud gwahaniaeth i gynhesu byd-eang. Rydym ni'n benderfynol yma yng Nghymru y byddwn ni'n chwarae ein rhan. Nid oes a wnelo hynny ddim â brolio rhinweddau—dim ond mater o gydnabod ein cyfrifoldeb ydyw. Byddwn yn cyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw, yn union fel y mae'r Aelod yn ceisio ei osgoi yn y cwestiwn y mae wedi ei ofyn i mi.
Bydd yn gwybod ein bod ni wedi dadlau ers tro byd dros ddatganoli tollau teithio awyr. Cawsom ni ein cefnogi yn hynny o beth gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ganddyn nhw ar 11 Mehefin 2019, pan roedd y Gweinidog iau presennol yn Swyddfa Cymru yn cadeirio'r pwyllgor dethol hwnnw. Mae'n bryd—a dweud y gwir, Llywydd, mae'n hen bryd i Lywodraeth y DU ganiatáu i'r Senedd hon gael rheolaeth dros y dreth honno, yn union fel y mae'n caniatáu i Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wneud yr un peth. Yna gallem ni gael dadl briodol yn y fan yma gyda'r Aelod ynglŷn â'r ffordd y gellid defnyddio'r grym hwnnw yn effeithiol i gynorthwyo'r maes awyr, heb danseilio'r ymdrechion y mae angen i ni eu gwneud i chwarae ein rhan i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.