1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Ionawr 2021.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i leihau tlodi yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ56198
Diolchaf i Helen Mary Jones am hynna. Rydym ni'n canolbwyntio ar y camau hynny sy'n ychwanegu at yr arian ym mhocedi'r rhai sydd ei angen fwyaf neu'n ei adael yn y pocedi hynny. Mae hynny yn cynnwys cynorthwyo dinasyddion Cymru i sicrhau hawl i fudd-daliadau DU gyfan. Cynorthwyodd ein gwasanaethau cynghori sengl bobl yn y canolbarth a'r gorllewin i hawlio dros £4.7 miliwn mewn incwm budd-daliadau lles ychwanegol y llynedd yn unig.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Bydd yn ymwybodol o'r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym mis Ebrill 2019 ac, yn wir, adroddiad un o bwyllgorau'r Senedd hon. Amcangyfrifodd Canolfan Llywodraethiant Cymru pe gallem ni sicrhau datganoli budd-daliadau lles ar yr un model ag sydd gan yr Alban, y gallem ni roi hwb o £200 miliwn y flwyddyn i gyllideb Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai o gymorth mawr i unrhyw ymdrechion gan Lywodraeth Cymru i leihau tlodi pe gallem ni reoli'r elfennau hynny o'r system fudd-daliadau yn y fan yma? A yw e'n deall pam mae fy etholwyr yn rhan dlotaf fy rhanbarth—trefi fel Llanelli—yn ei chael hi'n anodd deall pam na wnaiff Llywodraeth Cymru geisio cael y grym hwn, er mwyn gallu cymryd y camau ymarferol hynny y mae'r Prif Weinidog yn cyfeirio atyn nhw?
Rwy'n gyfarwydd iawn ag adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru y mae Helen Mary Jones yn cyfeirio ato, ac roedd yn ychwanegiad defnyddiol iawn at y llenyddiaeth ddatblygol ar yr hyn y dylai Cymru ei geisio o ran y system fudd-daliadau. Rwy'n amau bod gen i farn wahanol i'r Aelod. Rwyf i o blaid ceisio agweddau ar weinyddu'r system budd-daliadau lles; nid wyf i o blaid chwalu system nawdd cymdeithasol y DU. Y rheswm am hynny yw fy mod i'n credu bod y Deyrnas Unedig yn cynnig gwahanol gyfle i gyfuno adnoddau a rhannu gwobrau yn ôl yr angen, a bod hynny er budd dinasyddion Cymru, yn enwedig ein dinasyddion tlotaf yng Nghymru. Dywedodd adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, fel y dywed Helen Mary Jones, pe byddem ni'n cael cynnig datganoli ar yr un sail â'r Alban, y gallai hynny arwain at y symiau o arian a nodwyd gan yr adroddiad. Aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud ei bod hi'n annhebygol iawn y byddai datganoli ar y telerau hynny yn cael ei gynnig i ni, ac yn nodi'r rhesymau am hynny. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig rhoi cyfrif cyflawn o'r hyn yr oedd yr adroddiad hwnnw yn ei ddweud, ac mae gen i ofn fy mod i'n cytuno â'r adroddiad. Mae'n annhebygol iawn y byddai Llywodraeth y DU yn barod i ailadrodd y math o gytundeb a gynigiwyd ganddi i'r Alban, yn rhannol oherwydd eu bod nhw'n edifar eu bod nhw wedi gwneud hynny erbyn hyn. Mae datganoli'r broses o weinyddu budd-daliadau yn rhywbeth yr wyf i wedi cytuno â Helen Mary Jones yn ei gylch yn y gorffennol ac rwy'n hapus i ailadrodd hynny, oherwydd fy mod i'n credu y byddai hynny yn rhoi gwahanol gyfres o bosibiliadau i ni yng Nghymru heb chwalu mynediad pobl Cymru at y manteision a ddaw drwy fod yn rhan o'r system nawdd cymdeithasol ehangach honno.