Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch am y datganiad a'r adroddiad, a dwi'n edrych ymlaen at ei ddarllen yn fanwl. Ffocws y polisi, meddech chi, ydy dylanwadu ar gartrefi lle mae pobl eisoes yn gallu siarad Cymraeg er mwyn eu helpu nhw i ddefnyddio'r iaith efo'u plant. Ar ddiwedd y dydd, balchder yn y Gymraeg a hyder yn ei gwerth hi fydd yn creu y newid mawr sydd ei angen, a hoffwn i wybod beth fydd yn eich maniffesto chi ynglŷn â hyrwyddo hynny i holl deuluoedd Cymru mewn ffordd uchelgeisiol dros y blynyddoedd nesaf.
Fe ddywedoch chi nad oes yna'r un peth ar ei ben ei hun yn mynd i wneud i ragor o bobl drosglwyddo'r Gymraeg, a bod y polisi yma'n cyflwyno cyfres o gamau gweithredu. Fedrwch chi amlinellu beth ydy'r camau rheini'n fras, a sut gwnaethoch chi benderfynu ar y rhain? Beth ydy'r dystiolaeth sydd yna sydd y tu ôl i'r camau gweithredu rydych chi wedi'u dewis, a sut ydych chi'n mynd i fonitro llwyddiant y rhain i weld ydyn nhw'n cyrraedd y nod ai peidio? Ac fel rydych chi wedi sôn, mae yna beth gwaith wedi cael ei wneud ar hyd y blynyddoedd i helpu teuluoedd i ddefnyddio mwy o Gymraeg efo'u plant. Nod prosiect Twf, a oedd ar waith rhwng 2001 a 2016, oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith teuluoedd o fanteision magu plant yn ddwyieithog, a chael dylanwad cadarnhaol ar eu defnydd o'r Gymraeg. Dwi'n cofio'r cynllun Twf yn glir iawn pan oedd ar waith mewn rhannau o fy etholaeth i, ac mae'n rhaid imi ddweud mi oeddwn i'n siomedig iawn pan ddaeth o i ben oherwydd mi oedd o yn creu llwyddiant. Mi oeddwn i'n dyst i hynny fy hun o ran y teuluoedd a welais i yn cael budd o fod yn cael eu hannog drwy'r cynllun yna. Fe ddechreuodd Cymraeg i Blant fel olynydd i Twf yn 2016, ond heb fuddsoddiad digonol. A fyddech chi'n cytuno efo hynny, nad oedd dim buddsoddiad ar lefel ddigonol ar gyfer Cymraeg i Blant—neu yn parhau felly? Dwi'n credu mai'r nod ydy cynyddu nifer y plant sy'n derbyn addysg Gymraeg—felly mae'r sifft wedi symud rhyw ychydig—ac felly hefyd i gefnogi rhieni, gofalwyr, darpar rieni, darpar ofalwyr ac aelodau eraill o'r teulu i gyflwyno defnyddio'r Gymraeg gartref a throsglwyddo'r Gymraeg i'w plant, ond fel rhan o'r ymdrech i gael mwy o blant i fynd ymlaen i gael addysg cyfrwng Cymraeg. Ydych chi'n credu bod yna ddadl erbyn hyn dros ailgyflwyno cynllun Twf, o feddwl ei fod yn dal i gael ei ystyried fel cynllun llwyddiannus, ac sydd yn dal i gael ei arddangos fel esiampl o arfer da?
Ac yn olaf gen i, mae yna broblemau mawr wedi dod i'r amlwg yn sgil y pandemig, onid oes, o safbwynt rhieni sydd ddim yn hyderus yn eu Cymraeg, neu ddim yn siarad Cymraeg o gwbl, yn ceisio cefnogi eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. A gallaf i ddychmygu ei bod hi'n her anferth i geisio bod yn gwneud hynny. Mae Estyn wedi ei nodi fel risg mawr. A fydd hyn yn cael lle blaenllaw yng nghynllun adfer addysg y Llywodraeth? A pha drafodaethau ydych chi'n eu cael efo'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog cyllid i sicrhau cyllid ychwanegol er mwyn cefnogi'r gwaith adfer mawr sydd ei angen—ac a fydd ei angen—dros y misoedd nesaf ymhell heibio'r cyfnod pan fydd y feirws yn cilio?