Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 27 Ionawr 2021.
Weinidog, rwyf wedi derbyn e-bost gan berchennog cwmni trafnidiaeth sylweddol yn fy etholaeth, ac mae'n dweud,
Rydym mewn argyfwng ar hyn o bryd mewn perthynas ag allforion i Iwerddon. Roeddem o dan yr argraff, pan fyddai cytundeb Noswyl Nadolig wedi'i gwblhau, y byddai gweithdrefnau'n cael eu rhoi ar waith ar unwaith i ganiatáu allforion i Iwerddon, ond nid ydym yn gallu allforio i Ogledd Iwerddon o hyd, y credwn ei fod yn dal i fod yn rhan o Brydain. Mae ein cwmni'n arbenigo mewn allforio offer meddygol hanfodol i Ddulyn a gwahanol ardaloedd o Belfast—offer y mae treth wedi'i dalu arno, carwn ychwanegu, ac a fyddai'n caniatáu i gleifion adael yr ysbyty, gan ryddhau gwelyau i'r rhai sydd eu hangen yn daer ar hyn o bryd. Mae biwrocratiaeth y system newydd yn ddiffygiol, yn rhy gymhleth ac yn annigonol, ac nid yw'n ymddangos bod neb eisiau derbyn cyfrifoldeb am ba fesurau y mae angen eu rhoi ar waith i alluogi'r allforion i barhau fel o'r blaen.
Weinidog, pwy sy'n gyfrifol am y llanast economaidd hwn?