Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 27 Ionawr 2021.
Wel, mae'r cyfrifoldeb am y rhwystrau newydd i allforio a chludo llwythi drwy ein porthladdoedd yn ganlyniad uniongyrchol i flaenoriaethau gwleidyddol Llywodraeth y DU yn y cytundeb masnach a chydweithredu gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n amlwg fod rhwystrau newydd i fasnachu wedi'u cyflwyno ar 1 Ionawr. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud serch hynny yw ein bod wedi rhoi cynlluniau ar waith fel Llywodraeth i ymdrin ag effaith hynny ar drafnidiaeth a thraffig ein porthladdoedd, ac yn wir rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Llywodraeth Iwerddon i sicrhau bod trefniadau mor llyfn â phosibl ar waith ar gyfer cludo llwythi drwy Gaergybi a thrwy ein porthladdoedd yn y de-orllewin yn arbennig. Ac mae hynny'n sicr yn cael effaith ar wneud y daith honno'n fwy llyfn. Ond y pwynt y mae'n ei wneud yn ei gwestiwn yw bod y rhain, yn y bôn, yn faterion o ddewis gwleidyddol. Maent yn rhwystrau newydd i fasnach ac rydym yn amlwg yn gresynu'n fawr eu bod yn cael eu gorfodi ar gludwyr Cymru.