Fframweithiau Cyffredin y DU

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:19, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Fel y cofiwch, roedd y Bil ymadael â'r UE, a gafodd gydsyniad deddfwriaethol gan y Senedd hon, yn cytuno y bydd fframweithiau ar gyfer y DU gyfan i gymryd lle rheolau'r UE yn cael eu negodi'n rhydd rhwng pedair Llywodraeth y DU mewn sawl maes, ac rydych wedi sôn am rai ohonynt, a hefyd yn cynnwys, er enghraifft, bwyd, lles anifeiliaid a'r amgylchedd. Fel y dywedodd eich cyd-Aelod, Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig, yn ei datganiad ar grŵp rhyng-weinidogol yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig yr hydref diwethaf,

'Pwysleisiais fod fframweithiau wedi’u dylunio i helpu i ddeall a rheoli gwahaniaethau rhwng y pedair gweinyddiaeth'.

Yn wir, cytunodd y grŵp rhyng-weinidogol yn y cyfarfod hwn ar ddull newydd o gwblhau fframweithiau er mwyn sicrhau bod pob un yn cyrraedd lefel dros dro a defnyddiadwy erbyn diwedd 2020. Fis diwethaf, mewn ymateb cadarnhaol i Dŷ'r Arglwyddi, datgelodd Gweinidogion y DU welliannau newydd i Fil marchnad fewnol y DU a fydd yn diogelu'r fframweithiau cyffredin y cytunwyd arnynt gyda'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan atal rhwystrau i fasnach fewnol yn y DU a fyddai'n rhoi defnyddwyr a busnesau Cymru dan anfantais. Felly, pam rydych yn defnyddio adnoddau cyhoeddus i roi camau cyfreithiol ar waith yn erbyn Llywodraeth y DU pan fo'r fframweithiau hyn y cytunwyd arnynt yn ei gwneud hi'n bosibl cynnal y lefelau presennol o hyblygrwydd o fewn dulliau cyffredin y cytunwyd arnynt?