Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 27 Ionawr 2021.
Credaf y gallai'r Aelod fod wedi camddeall union effaith y gwelliannau a wnaed gan Dŷ'r Arglwyddi mewn perthynas â hyn. Hoffwn dalu teyrnged, os caf fi, i'r Arglwydd Hope, a arweiniodd ar welliannau ar y mater penodol hwn, ond hefyd Arglwyddi ar draws y Siambr, gan gynnwys rhai arglwyddi Ceidwadol, sy'n cydnabod, yn wahanol i'r Aelod o bosibl, bygythiad y Ddeddf i ddatganoli. Dylwn ddweud mai effaith y gwelliannau, yn syml, oedd rhoi disgresiwn i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio'r setliad datganoli lle cytunwyd ar fframwaith. Pan fydd rhywun yn dweud hynny'n uchel, credaf fod yr heriau sydd ynghlwm wrth hynny'n ddigon amlwg: yn gyntaf, y dylai'r setliad datganoli allu cael ei ddiwygio gan Weinidogion Llywodraeth y DU, ac yn ail, y dylai fod yn fater o ddisgresiwn. Dyna ddwy enghraifft sy'n dangos pam ein bod yn credu bod angen herio'r Ddeddf yn y llys, a rhan o'r rhesymeg dros wneud hynny.