2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 27 Ionawr 2021.
7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd fframweithiau cyffredin y DU? OQ56171
Yn sicr. Rwyf bellach wedi cymeradwyo'r mwyafrif helaeth o fframweithiau cyffredin sy'n berthnasol i Gymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn weithredol dros dro wrth aros i'r Senedd a'r deddfwrfeydd eraill eu datblygu a chraffu arnynt. Rwy'n rhagweld y gallaf gymeradwyo'r fframwaith cynhyrchu organig cyn bo hir hefyd. Bydd dau fframwaith arall—y fframweithiau cymwysterau a gwasanaethau proffesiynol—yn cael eu datblygu eleni.
Fel y cofiwch, roedd y Bil ymadael â'r UE, a gafodd gydsyniad deddfwriaethol gan y Senedd hon, yn cytuno y bydd fframweithiau ar gyfer y DU gyfan i gymryd lle rheolau'r UE yn cael eu negodi'n rhydd rhwng pedair Llywodraeth y DU mewn sawl maes, ac rydych wedi sôn am rai ohonynt, a hefyd yn cynnwys, er enghraifft, bwyd, lles anifeiliaid a'r amgylchedd. Fel y dywedodd eich cyd-Aelod, Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig, yn ei datganiad ar grŵp rhyng-weinidogol yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig yr hydref diwethaf,
'Pwysleisiais fod fframweithiau wedi’u dylunio i helpu i ddeall a rheoli gwahaniaethau rhwng y pedair gweinyddiaeth'.
Yn wir, cytunodd y grŵp rhyng-weinidogol yn y cyfarfod hwn ar ddull newydd o gwblhau fframweithiau er mwyn sicrhau bod pob un yn cyrraedd lefel dros dro a defnyddiadwy erbyn diwedd 2020. Fis diwethaf, mewn ymateb cadarnhaol i Dŷ'r Arglwyddi, datgelodd Gweinidogion y DU welliannau newydd i Fil marchnad fewnol y DU a fydd yn diogelu'r fframweithiau cyffredin y cytunwyd arnynt gyda'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan atal rhwystrau i fasnach fewnol yn y DU a fyddai'n rhoi defnyddwyr a busnesau Cymru dan anfantais. Felly, pam rydych yn defnyddio adnoddau cyhoeddus i roi camau cyfreithiol ar waith yn erbyn Llywodraeth y DU pan fo'r fframweithiau hyn y cytunwyd arnynt yn ei gwneud hi'n bosibl cynnal y lefelau presennol o hyblygrwydd o fewn dulliau cyffredin y cytunwyd arnynt?
Credaf y gallai'r Aelod fod wedi camddeall union effaith y gwelliannau a wnaed gan Dŷ'r Arglwyddi mewn perthynas â hyn. Hoffwn dalu teyrnged, os caf fi, i'r Arglwydd Hope, a arweiniodd ar welliannau ar y mater penodol hwn, ond hefyd Arglwyddi ar draws y Siambr, gan gynnwys rhai arglwyddi Ceidwadol, sy'n cydnabod, yn wahanol i'r Aelod o bosibl, bygythiad y Ddeddf i ddatganoli. Dylwn ddweud mai effaith y gwelliannau, yn syml, oedd rhoi disgresiwn i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio'r setliad datganoli lle cytunwyd ar fframwaith. Pan fydd rhywun yn dweud hynny'n uchel, credaf fod yr heriau sydd ynghlwm wrth hynny'n ddigon amlwg: yn gyntaf, y dylai'r setliad datganoli allu cael ei ddiwygio gan Weinidogion Llywodraeth y DU, ac yn ail, y dylai fod yn fater o ddisgresiwn. Dyna ddwy enghraifft sy'n dangos pam ein bod yn credu bod angen herio'r Ddeddf yn y llys, a rhan o'r rhesymeg dros wneud hynny.
Diolch i'r Gweinidog.