6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gofal a chymorth ar gyfer goroeswyr strôc

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:54, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Gall effaith strôc fod yn sylweddol, fel y mae Dr Dai Lloyd newydd egluro, nid yn unig i'r claf, ond hefyd i'w teulu, mewn ffyrdd a all fod yn heriol ac yn frawychus, yn enwedig—fel sydd newydd gael ei ddweud—ar yr adeg hon yn y pandemig a'r cyfyngiadau symud. Bydd llawer o bobl yn profi amrywiaeth o ganlyniadau ar ôl cael strôc: heriau corfforol blinder a pharlys yn yr achosion lle ceir amharu ar symudedd, newidiadau gwybyddol sy'n effeithio ar gof, cyfathrebu a chanolbwyntio, ac effaith seicolegol iselder a phryder. Mae llawer yn gwella, ond nid pawb, ac fel y gwyddom, mae'r effaith yn dibynnu ar yr ystod o ganlyniadau y mae unigolyn yn eu profi, ac am ba hyd y bydd yr heriau hynny'n parhau.

Bydd cyd-Aelodau hefyd yn siarad am yr ystod o ofal a chymorth sydd eu hangen ar y rhai sy'n cael strôc, a hynny'n gwbl briodol. Ond un o feysydd y ddadl hon sydd hefyd yn peri pryder i mi yw lefel y gefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu sefyllfa gwbl annisgwyl o orfod gofalu am rywun annwyl sydd wedi cael strôc, yn enwedig o ystyried y cyfyngiadau presennol a'r anawsterau presennol i gael gafael ar gymorth, gan gynnwys therapi iaith. Mae'n anodd dychmygu'r ymdeimlad o sioc pan fydd aelod o'r teulu'n cael strôc, y teimlad o banig a phryder wrth i rywun fynd i'r ysbyty a gorfod wynebu bywyd yn y dyfodol gyda set o ddisgwyliadau a allai fod yn wahanol. Mae cael eich gwthio'n sydyn i rôl gofalwr, gorfod rheoli'r ystod o ganlyniadau y bydd anwyliaid yn eu profi, ynghyd â goblygiadau a allai newid bywydau'r teulu, pryderon ariannol—mae'r rhain i gyd yn effeithio ar deuluoedd dioddefwyr strôc. I aelodau o'r teulu gall fod yn wirioneddol frawychus, a dyna pam y mae'r gefnogaeth a gynigir gan grwpiau fel clwb strôc Cas-gwent yn fy etholaeth mor bwysig i gefnogi teuluoedd. Faint o bobl yng Nghymru sydd bellach yn gofalu am rywun sy'n byw gyda chanlyniadau strôc, a sut y cefnogwn anghenion y rhai na ellid darparu'r rôl ofalu honno hebddynt? A ydym yn darparu popeth a allwn yn ddigon da i'r rheini sy'n gofalu am rywun annwyl, ac os nad ydym, pam ddim?

Er fy mod yn gefnogol iawn i'r ddadl hon heddiw i'n galluogi i archwilio'r cymorth a'r gofal i'r rhai sy'n cael strôc, dylem gofio ei fod yn un o'r dangosyddion iechyd cyhoeddus mawr a ddylai beri pryder i ni. Mae nifer o ffactorau'n cyfrannu at strôc, fel y nodwyd—mae pwysedd gwaed uchel yn un ohonynt. Yn aml, mae hynny'n gysylltiedig â dewisiadau ynghylch ffordd o fyw, ac yn ystod y pandemig ar hyn o bryd, rydym yn gwybod am bwysigrwydd ymarfer corff i bobl a sicrhau eu bod yn cadw'n iach.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, rhaid inni wella ein hymateb i'r her iechyd cyhoeddus hon yn sylweddol. Os yw COVID wedi dysgu unrhyw beth inni, mae angen inni ddysgu gwersi o'r 10 mis diwethaf. Rhaid i iechyd y cyhoedd fod yn fwy o ffocws yn nhymor seneddol nesaf Cymru. Nid rhyddid heb ganlyniadau yw dewisiadau pobl ynglŷn â'u ffordd o fyw—rydym yn parhau i ddioddef effaith y penderfyniadau a wnawn am ein hiechyd ein hunain, ac yn anffodus, i lawer, strôc yw'r canlyniad hwnnw. Gadewch inni sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth angenrheidiol i ddioddefwyr strôc a'u teuluoedd nawr wrth inni ddechrau cefnu ar y pandemig, gobeithio.