Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 27 Ionawr 2021.
Mae'n bleser dilyn Nick a Dai, a gwaith y grŵp trawsbleidiol eleni, sydd wedi gweithio gyda chymorth y Gymdeithas Strôc, a ddarparodd y gefnogaeth i'r ysgrifenyddiaeth, i fynd allan a gwrando ar bobl sydd eu hunain wedi cael strôc yn ystod y pandemig, ond hefyd eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu gofalwyr a'u hanwyliaid hefyd. Mae wedi bod yn anodd, ac mae'r ystadegau'n dangos pa mor anodd y bydd, ac fe drof atynt mewn munud. Ond yr hyn y mae'n ei ddangos yn glir, fel y bydd Dai a Nick ac eraill yn ei ddweud hefyd, wrth fy nilyn, yw bod arnom angen y cynllun cyflawni newydd hwnnw ar gyfer strôc yn awr, oherwydd, hyd yn oed cyn y pandemig, nid oedd gennym ddarpariaeth a oedd yn dda ac yn gryf drwyddi draw o wasanaethau cymorth a gofal strôc, heb sôn am unedau strôc hyper-acíwt ledled Cymru. Nid oeddem yn gweld y cynnydd roeddem am ei weld, felly, os yw'r pandemig wedi gwneud unrhyw beth, mae wedi dangos hyd yn oed yn fwy clir yr angen i symud ymlaen gyda'r mesurau hyn. Nid ydym wedi gweld cymaint o gynnydd ag y byddem yn dymuno ei weld, ac wrth gyflwyno cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer strôc, cynllun y mae cymaint o angen amdano—cynllun cyflawni—mae angen i'r unedau strôc hyper-acíwt fod yn rhan flaenllaw o hynny.
Gadewch imi roi rhai o'r ffeithiau a welsom drwy gyfrwng yr arolwg a wnaethom o bobl sy'n cael profiad o strôc. Dywedodd 65 y cant o oroeswyr strôc yng Nghymru wrth y Gymdeithas Strôc eu bod wedi cael llai o ofal a chymorth yn ystod y pandemig. Dangosodd hefyd, er bod 50 y cant—hanner y goroeswyr strôc—wedi gweld apwyntiadau therapi'n cael eu canslo, dim ond llai na chwarter a aeth ymlaen i gael therapi dros y ffôn neu ar-lein. Nawr, rhaid imi ddweud fy mod yn ddiolchgar fod gennym Gymdeithas Strôc wych yn fy ardal sydd, drwy'r blynyddoedd, wedi bod yn eithriadol o dda am ddarparu cymorth a chyfeirio at gymorth i bobl leol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ond edrychwch ar beth sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig. Nid yn unig fod y cymorth hwnnw'n deneuach, mae gallu gwasanaethau cymorth y Gymdeithas Strôc i gyfeirio hefyd wedi'i leihau. A'r effeithiau ar iechyd meddwl: mae bron i 70 y cant, saith o bob 10, o'r rhai a holwyd yn teimlo'n eithaf pryderus neu'n isel eu hysbryd, ac roedd bron i 57 y cant o ofalwyr yn teimlo eu bod wedi'u llethu neu'n methu ymdopi.
Felly, rwy'n credu bod y neges yn glir iawn: roedd gwasanaethau dan bwysau eisoes; yr unedau hyper-acíwt, nid ydym wedi gweld y cynnydd roeddem am ei weld; y gwasanaethau therapi nad oeddent yn gyson ac yn dda ym mhob man yng Nghymru. Felly, os rhywbeth yn awr, yn sgil gwaith y grŵp trawsbleidiol, yn sgil gwaith y Gymdeithas Strôc ac yn sgil y pandemig hwn, fel grŵp trawsbleidiol rydym yn galw ar y Llywodraeth i gyflymu'r gwaith hwn, ac i fyrddau iechyd lleol ddatblygu eu gwaith ar unedau hyper-acíwt hefyd, a chefnogi gwasanaethau. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.