Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 2 Chwefror 2021.
Yn gyntaf, mae adran 3 o'r Bil yn byrhau'r cyfnod diddymu o 21 diwrnod gwaith i saith diwrnod calendr. Bydd hyn yn caniatáu amser ychwanegol i'r Senedd ystyried deddfwriaeth hanfodol yn ymwneud â'r coronafeirws yn y cyfnod cyn yr etholiad. Pe byddai'r diddymiad yn digwydd fel y nodir mewn deddfwriaeth, byddai'r Aelodau yn peidio â bod yn Aelodau o 7 Ebrill, a byddai ein Senedd yn cael ei diddymu. Byddai'n anghyfrifol diddymu'r Senedd hon am fis cyfan yn ystod cyfnod o argyfwng cenedlaethol, pan fu ei chraffu yn elfen hanfodol o'r ymateb i'r pandemig. Mae gwaith craffu y ddeddfwrfa ar waith y Llywodraeth fwyaf hanfodol yn ystod argyfwng cenedlaethol.
Mae byrhau'r cyfnod diddymu yn darparu hefyd fod y Senedd hon ar gael i wneud penderfyniad ar ohirio'r etholiad. Ni fyddai'n iawn deddfu ar newidiadau i ddyddiad yr etholiad heb warantu y byddai'r Senedd ei hun yn gallu gwneud y penderfyniad terfynol. O ganlyniad, mae adran 10 hefyd yn addasu'r adeg pan ddaw unigolyn yn ymgeisydd yn yr etholiad. Mae hyn ynghlwm wrth y cyfnod diddymu ar hyn o bryd. Mae'r Bil yn datgysylltu'r ddau, fel y bydd unigolyn yn dod yn ymgeisydd yn etholiad y Senedd ar yr un pryd ag y byddai wedi ei wneud pe na byddai'r Bil wedi cynnig byrhau y cyfnod diddymu i saith diwrnod calendr. Er mwyn lliniaru unrhyw oedi i'r cyfrif ei hun, mae adran 4 yn gwneud newidiadau i'r amserlen ar ôl yr etholiad, gan ganiatáu diwrnod ychwanegol i'r cyfarfod cyntaf gael ei gynnal os bydd unrhyw oedi oherwydd y coronafeirws.
Gwnaeth y grŵp cynllunio etholiadau nifer o argymhellion i gynyddu hyblygrwydd wrth gynnal yr etholiad, ac rydym wedi cynnwys y rhain yn adran 10. Bydd pleidleisiau trwy ddirprwy brys ar gael i bleidleiswyr am reswm sy'n ymwneud â'r coronafeirws, sy'n golygu y bydd gan bleidleiswyr opsiynau ychwanegol os bydd hunanynysu yn eu hatal rhag mynd i orsaf bleidleisio yn bersonol. Mae'r Bil hefyd yn cyflwyno mwy o hyblygrwydd o ran cyflwyno papurau enwebu, a sut y gall ymgeisydd gydsynio i enwebiad.
Y ddarpariaeth yn y Bil hwn a drafodwyd fwyaf yw'r ddarpariaeth hefyd yr ydym yn gobeithio na fydd yn rhaid i ni ei defnyddio byth. Hynny yw, y pŵer newydd i'r Llywydd ohirio dyddiad y bleidlais i ddyddiad heb fod yn hwyrach na 5 Tachwedd 2021, am reswm sy'n ymwneud â'r coronafeirws, fel y nodir yn adran 5. Yn adran 6, mae'r Bil hefyd yn cyflwyno pŵer presennol y Llywydd i ohirio'r etholiad am hyd at fis am resymau nad ydyn nhw'n ymwneud â'r coronafeirws. Unwaith eto, hoffwn i bwysleisio mai ein bwriad cadarn yw y dylai'r etholiad gael ei gynnal fel y bwriadwyd ar 6 Mai, ac mai dim ond fel opsiwn wrth gefn y mae'r ddarpariaeth hon wedi ei chynnwys os nad yw'n ddiogel cynnal yr etholiad oherwydd y risg i iechyd y cyhoedd.
Nid yw'r Bil ei hun yn gwneud unrhyw newidiadau i ddyddiad yr etholiad. Mae dim ond yn darparu'r gallu i wneud hynny pe byddai ei angen. Byddai'r broses ohirio yn cael ei chychwyn drwy gynnig gan y Prif Weinidog i'r Llywydd, sydd yn ei thro yn cynnig dyddiad newydd i'w gyflwyno gerbron y Senedd. Mae'n rhaid i gynnig i ohirio'r etholiad gael cytundeb y Senedd gan fwyafrif o ddwy ran o dair o gyfanswm seddi'r Senedd.
Fel amddiffyniad pellach, mae'r Bil yn cynnig swyddogaeth i'r Comisiwn Etholiadol o ran gohirio. Os bydd y Llywydd neu'r Prif Weinidog yn gofyn, mae'n rhaid i'r Comisiwn Etholiadol roi cyngor iddyn nhw ar y mater gohirio. Yn yr un modd, mae adrannau 7 ac 8 hefyd yn mynd i'r afael ag is-etholiadau ar gyfer y Senedd ac ar gyfer llywodraeth leol. Maen nhw'n rhoi pŵer i'r Llywydd ohirio is-etholiadau'r Senedd, a phŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru ohirio is-etholiadau llywodraeth leol.
Yn olaf, mae adran 12 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, trosiannol, darfodol neu arbedol y maen nhw o'r farn eu bod yn briodol at ddibenion rhoi effaith lawn i'r Ddeddf, neu mewn cysylltiad â hynny. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau, pe byddai'r etholiad yn cael ei ohirio, bod gan Weinidogion Cymru y gallu i wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer effeithiau na ellid bod wedi eu rhagweld wrth ddatblygu'r Bil. Bydd y pŵer hwn hefyd yn darparu ar gyfer trefniadau ymarferol fel mynd i'r afael â blaendaliadau ymgeiswyr, dinistrio pleidleisiau post, ac yn y blaen, y gellir ymdrin â nhw drwy is-ddeddfwriaeth.
Roeddwn i'n falch o roi tystiolaeth ddoe i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynglyn â'r Bil, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r Aelodau a'r swyddogion, a lwyddodd i lunio adroddiad erbyn amser cinio heddiw. Rwyf i wedi ystyried argymhellion y pwyllgor y prynhawn yma, ac rwy'n falch o dderbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw.
Yn benodol, gallaf dderbyn argymhellion 8 a 9 o ran defnyddio'r weithdrefn amgen a wnaed yn hytrach na'r weithdrefn negyddol ar gyfer y rheoliadau; a rhan o argymhelliad 4, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog ymgynghori â'r prif swyddog meddygol cyn gwneud argymhelliad i ohirio. Rydym yn credu bod y ddarpariaeth o ran y Comisiwn Etholiadol yn ddigonol eisoes.
Argymhelliad 6, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd wneud datganiad yn esbonio ei phenderfyniad os bydd yn defnyddio ei phŵer presennol i amrywio'r bleidlais hyd at fis, rydym yn derbyn hyn at ddibenion tryloywder, er nad oes dyletswydd gyfatebol ar y Llywydd mewn etholiad arferol. Byddwn yn cyflwyno gwelliannau i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Mae'n ddrwg gen i ddweud bod rhai argymhellion nad ydym mewn sefyllfa i'w derbyn ar hyn o bryd. O ran argymhelliad 1, nid yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hasesiadau o gydweddu â deddfwriaeth hawliau dynol, ond rydym yn fodlon bod y Bil o fewn cymhwysedd ac nad yw'n torri Deddf Hawliau Dynol 1998. Nid wyf yn credu bod angen y cymal machlud, fel yr awgrymir yn argymhelliad 2. I'r graddau y mae angen terfynau amser ar y Bil, maen nhw eisoes wedi eu cynnwys yn nhestun y Bil.
Ac o ran argymhelliad 3, mae'r term 'priodol' yn ychwanegu hyblygrwydd, a byddai ei ddileu yn lleihau hyblygrwydd. Mae'n werth nodi bod y term 'priodol' yn cael ei ddefnyddio yn Neddf yr Alban hefyd. Rwyf i o'r farn y dylem ni gadw'r hyblygrwydd hwnnw yn y Bil, o ystyried natur anrhagweladwy y pandemig a'i effeithiau.
O ran argymhelliad 5, mae dealltwriaeth y pwyllgor, fel y nodir ym mharagraff 65 o'r adroddiad, yn gywir ar y cyfan. Mae gan y Llywydd ddisgresiwn i gynnig dyddiad. Fodd bynnag, y Llywydd sy'n gosod y dyddiad, ond dim ond os yw'r uwchfwyafrif yn cytuno ar y dyddiad.
Mewn ymateb i gwestiynau penodol y pwyllgor, nid yw'r Bil yn darparu ar gyfer pa un a ellir diwygio cynnig ai peidio. Gellid gwneud darpariaethau o'r fath yn y Rheolau Sefydlog, ac rydym ni wedi cychwyn trafodaeth gyda'r Pwyllgor Busnes ynglŷn â'r gweithdrefnau a allai fod yn briodol. Yn absenoldeb darpariaeth benodol yn y Rheolau Sefydlog, byddai cyflwyno a dethol gwelliannau yn fater i'r Llywydd. Os na fydd y Senedd yn pleidleisio o blaid dyddiad a gynigir gan y Llywydd, gall y Llywydd, mewn egwyddor, gynnig dyddiad arall. Unwaith eto, gellir gwneud darpariaeth ynglŷn â hyn yn y Rheolau Sefydlog. Ni fyddai cynnig dyddiad newydd yn gofyn am gynnig newydd gan y Prif Weinidog. Mae pŵer y Prif Weinidog yn ymwneud â chynnig gohirio'r etholiad, nid â'r dyddiad. Ni all y Llywydd bennu dyddiad ar gyfer etholiad gohiriedig o dan adran 5, ac eithrio un a gymeradwywyd yn benodol gan uwchfwyafrif y Senedd.
Mewn ymateb i argymhelliad 7, paratowyd gorchymyn adran 116—Gorchymyn breinlythyrau a phroclamasiynau 2021 Senedd Cymru—y mae disgwyl i'w Mawrhydi ei wneud yn y Cyfrin Gyngor ar 10 Chwefror. Mae'r Gorchymyn yn cynnwys math o eiriad ar gyfer proclamasiwn o dan adran 4(2) ac adran 5(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rydym yn cynnig y gellir defnyddio ffurf y geiriad fel cynsail neu dempled ar gyfer proclamasiwn o dan adran 6 o'r Bil. Byddem yn trefnu i'r proclamasiwn gael ei gyhoeddi yn y newyddiaduron, a byddem, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r Llywydd i dynnu sylw pawb sy'n ymwneud â'r etholiad at y newid i'r dyddiad ar unwaith. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad â'r palas ynglŷn â hyn.
O ran argymhelliad 10, ni allaf gadarnhau yr union fanylion ar hyn o bryd, ond mae'r math o welliannau rwy'n eu harchwilio yn ymwneud ag addasiadau i sut y caiff ceisiadau am bleidleisiau post eu prosesu i leihau'r broses o wrthod ceisiadau o'r fath.
Ac yn olaf, mewn ymateb i argymhelliad 11, gallaf gadarnhau fy mod i'n bwriadu cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 a fyddai'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol yn yr wythnos cyn pleidleisio yn etholiad y Senedd, os caiff yr etholiad ei ohirio, a chyn belled nad yw'r bleidlais wedi ei chyfuno ag etholiadau'r comisiynydd heddlu a throseddu.
Mae'r cynnig penderfyniad ariannol sydd wedi'i gyflwyno yn cael ei ystyried heddiw hefyd. Byddai'r prif gostau yn y Bil hwn yn codi pe byddai'r etholiad yn cael ei ohirio. Nodir ein hamcangyfrif o'r costau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, sy'n cael ei osod gerbron y Senedd ochr yn ochr â thestun y Bil. Daw'r amcangyfrifon hyn o ffigurau ar gyfer yr etholiad yn 2016, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw wedi eu diweddaru i brisiau cyfredol trwy ddefnyddio'r gyfres datchwyddydd cynnyrch domestig gros i gyrraedd cost 2021. Y dybiaeth yn yr amcangyfrif o'r costau hyn yw'r sefyllfa waethaf.
Dirprwy Lywydd, anogaf yr Aelodau i bleidleisio o blaid y Bil a'r penderfyniad ariannol i sicrhau bod gan bob un ohonom opsiynau wrth ymateb i'r pandemig. Diolch.