Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 2 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r pandemig wedi cael effaith ddramatig ar ein bywydau, gan roi cyfyngiadau ar lawer o'r hawliau a'r rhyddid yr ydym yn eu trysori. Ym mis Mai, bydd pobl Cymru yn arfer eu hawl i leisio eu barn ar eu cynrychiolwyr etholedig pan fyddan nhw'n mynd i bleidleisio yn etholiad y Senedd. Barn gadarn y Llywodraeth yw y dylid cynnal yr etholiad yn ôl y bwriad ar 6 Mai. Rydym ni'n credu bod angen Senedd a Llywodraeth Cymru arnom â mandad newydd. Fodd bynnag, byddai'n anghyfrifol i ni beidio â pharatoi ar gyfer sefyllfa lle nad yw'n ddiogel i'r etholiad redeg yn ôl y bwriad oherwydd effaith y pandemig. Mae'r Bil hwn yn galluogi cytuno ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer gohirio'r etholiad pan fydd popeth arall wedi methu yn unig, pe byddai'r pandemig yn fygythiad difrifol i redeg yr etholiad yn ddiogel ac yn deg.
Mae'r Bil yr ydym yn ei drafod heddiw yn ceisio diogelu un o'n hawliau mwyaf sylfaenol—yr hawl i bleidleisio—trwy alluogi pobl Cymru i gymryd rhan yn etholiad y Senedd. Os bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 6 Mai yn ôl y bwriad, yna bydd yn ddiogel pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, gyda'r holl fesurau y byddech yn eu disgwyl o ran hylendid a chadw pellter corfforol. Os na all yr etholiad ddigwydd, mae angen y Bil hwn arnom ni. Mae darpariaethau'r Bil hwn yn fesurau wrth gefn darbodus i sicrhau y gall swyddogion canlyniadau gyflawni'r etholiad yng nghyd-destun y pandemig sy'n datblygu. Mae perygl y gellir atal pleidleiswyr rhag pleidleisio, nid yn unig am resymau salwch neu'r angen i gydymffurfio â gofynion i hunanynysu, ond hefyd oherwydd ofnau a allai fod ganddyn nhw ynghylch diogelwch pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio. Yn yr un modd, mae lefelau uchel o salwch hefyd yn peri'r risg na fydd digon o staff ar gael i weinyddu'r bleidlais, gyda risg ganlyniadol i uniondeb yr etholiad ei hun.