1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2021.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin? OQ56240
Llywydd, nid yw cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin yn cydnabod yr ymrwymiadau mynych na fyddai Cymru yn ddim gwaeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae ganddyn nhw oblygiadau difrifol i'n setliad datganoli.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Bydd ef wedi gweld yr adroddiadau a'r dadansoddiadau a gyhoeddwyd dros yr wythnosau diwethaf, ac mae pob un ohonyn nhw wedi dangos yn eglur bod cymunedau fel Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn debygol o ddioddef effaith economaidd lawer gwaeth o ganlyniad i'r coronafeirws na llawer o gymunedau eraill. Felly, bydd angen buddsoddiad ychwanegol ar y cymunedau hyn i'n helpu i adfer. Rwy'n cytuno ag ef bod y gronfa ffyniant gyffredin, fel y'i cynigir ar hyn o bryd, yn fradychiad gwirioneddol o'r holl bobl hynny nid yn unig a bleidleisiodd dros Brexit, gan gredu y bydd cyllid y DU yn cymryd lle cronfeydd strwythurol yr UE, ond hefyd y bobl hynny a oedd yn credu bod ein buddiannau pennaf yn bwysig i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol a pheidio â dysgu'r gwersi ar gyfer y dyfodol. Yn y modd hwn, mae Blaenau Gwent yn colli arian a bydd yn talu pris anonestrwydd y Torïaid ac aflerwch y Torïaid. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod angen buddsoddiad ychwanegol ar leoedd fel Blaenau Gwent, cymunedau yn y Cymoedd, a Blaenau'r Cymoedd, i'n helpu ni i adfer o sgil effeithiau economaidd y coronafeirws ac i greu'r swyddi yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld ac yr ydym eu hangen?
Diolchaf i Alun Davies am hynna, Llywydd. Mae e'n iawn i dynnu sylw at yr adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Llwyddais i ddarllen adroddiad Prifysgol Sheffield Hallam dros y penwythnos ar effaith yr argyfwng coronafeirws ar Brydain hŷn, ddiwydiannol, a oedd yn ymdrin â'r union ardaloedd fel yr un y mae Alun Davies yn ei chynrychioli yn y fan yma yn y Senedd. Ac mae wir yn dangos pwysigrwydd hanfodol parhau i fuddsoddi yn y cymunedau hynny, o'r math yr ydym ni wedi gallu ei dynnu i lawr yn ystod y cyfnod pan fo Cymru wedi gallu defnyddio'r cyllid sydd wedi ein cyrraedd drwy'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, rydym ni'n gweld hynny yn cael ei wrthdroi. Rydym ni'n cael £375 miliwn y flwyddyn mewn cronfeydd strwythurol ac, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, gallwch weld effaith y cronfeydd hynny mewn cynifer o agweddau ar seilwaith etholaeth Blaenau Gwent.
Dywedodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, dan gadeiryddiaeth Aelod Ceidwadol, y llynedd mai prin oedd y cynnydd a wnaed gan y gronfa ffyniant gyffredin, nad oes unrhyw eglurder ynghylch sut y bydd yn edrych, sut y bydd yn cael ei gweinyddu na sut y bydd yn cael ei hariannu. A phan ymatebodd Llywodraeth y DU i adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, dywedodd yr un cadeirydd Ceidwadol bod cwestiynau mawr yn dal i fod heb eu hateb—dim sicrwydd o hyd ynghylch maint y gronfa, y dull dosbarthu, cyfran y gronfa i Gymru o'i chymharu â chyllid yr UE, a pha ran, os o gwbl, y gellir disgwyl i Lywodraethau datganoledig ei chwarae yng weithrediad y gronfa—ac nid ydym yn ystyried y mater hwn fel bod ar ben, meddai cadeirydd y pwyllgor. Rwy'n eithaf siŵr nad yw'r Senedd hon yn ei weld fel bod ar ben ychwaith.
Prif Weinidog, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, mae cadeirydd y materion Cymreig—y pwyllgor, dylwn i ddweud—yn San Steffan wedi mynegi pryderon, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn sylweddoli y bu problemau o ran cyflwyno a datblygu cronfa ffyniant gyffredin. Fodd bynnag, yn ôl ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, 'Cymru a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin', ym mis Rhagfyr, bydd y gronfa, o leiaf, yr un faint â'r hyn a dderbynnir ar hyn o bryd o gronfa strwythurol yr UE gyda'r bwriad o dargedu'r lleoedd mwyaf anghenus—y rhai y cyfeiriodd Alun Davies atyn nhw—fel hen ardaloedd diwydiannol, trefi difreintiedig, cymunedau gwledig ac arfordirol. Felly, rwy'n sylweddoli mai safbwynt Llywodraeth y DU yw hwnnw; efallai nad dyna safbwynt Llywodraeth Cymru. Ond sut mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio fel bod yr ardaloedd hyn yng Nghymru yn elwa yn y pen draw? A sut y mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU neu, o leiaf, yn cysylltu â hi i wneud yn siŵr, pan fydd cyllid yn dechrau cael ei ddarparu, y bydd darpariaeth ar gyfer yr ardaloedd hynny?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n cytuno ei fod yn fater o wahaniaeth barn. Mae'n wahaniaeth o ffeithiau syml: mae Cymru yn cael £375 miliwn y flwyddyn, yn y cylch diwethaf o gyllid Ewropeaidd; bydd gan y gronfa ffyniant gyffredin y flwyddyn nesaf £220 miliwn ynddi ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. Nid gwahaniaeth barn yw hynny. Mae hynny'n wahaniaeth o £150 miliwn. Pe byddai Cymru yn cael holl gronfa ffyniant gyffredin y DU, byddem £150 miliwn yn waeth ein byd nag y byddem ni wedi bod fel arall. A dyna pam, pan ofynnodd Alun Davies ei gwestiwn atodol, y dywedodd bod hwn yn fradychiad o bopeth a ddywedwyd wrth bobl yng Nghymru fyddai'n digwydd ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae arnaf ofn nad oes llawer iawn o ymgysylltu ar lefel swyddogol, oherwydd bob tro y byddwn ni'n gofyn y cwestiwn, dywedir wrthym nad oes rhagor o fanylion y gellir eu rhannu â ni. A dyna'r un ateb yr ydym ni wedi ei gael nawr ers 2017, pan awgrymwyd y syniad hwn gyntaf gan Lywodraeth y DU—2017 i 2021, pan nad oes unrhyw fanylion ychwanegol y gellir eu rhannu â ni. Nid yw'n syndod bod nid yn unig Llywodraeth Cymru ond y cymunedau hynny sy'n dibynnu ar y buddsoddiad hwn i greu'r math o ddyfodol economaidd yr ydym ni ei angen ar eu cyfer wedi colli amynedd a ffydd yn yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn debygol o'i ddarparu.
O ystyried hynt Cymru ers degawdau lawer, drwy flynyddoedd Thatcher yn y 1980au, 15 mlynedd o Lywodraeth Lafur yn San Steffan na wnaeth ddiwygio fformiwla Barnett, gan adael Cymru yn waeth ei byd, 11 mlynedd o gyni cyllidol dan arweiniad y Torïaid a'r gronfa ffyniant gyffredin warthus nawr—a byddwn yn cysylltu fy hun â'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud am hynny—a yw'r Prif Weinidog bellach yn derbyn bod degawdau erbyn hyn ers i botensial ailddosbarthu y Deyrnas Unedig, y mae'n cyfeirio ato yn aml, ddod yn agos o gwbl at gael ei wireddu? Ac a yw bellach yn cytuno â mi ei bod hi'n bryd i ni yma yng Nghymru ofalu amdanom ni ein hunain a'n gilydd, gan ddefnyddio'r ysgogiadau economaidd sydd ar gael i wlad annibynnol i ailadeiladu ein heconomi a rhoi terfyn ar dlodi?
Nac ydw, dydw i ddim, Llywydd, fel y mae'r Aelod yn gwybod, ac mae hi'n annheg iawn yn ei disgrifiad o'r Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Yn ystod y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, cynyddodd yr arian a oedd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol gan 10 y cant bob blwyddyn yn nhymor cyntaf y sefydliad hwn. Cynyddodd mewn termau real ym mhob blwyddyn yr oedd Llafur mewn grym. Mae'n gwbl bosibl defnyddio'r Deyrnas Unedig fel peiriant ar gyfer ailddosbarthu, a dangosodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ni ddylid drysu rhwng methiant dros dro deiliaid presennol y grym yn San Steffan i wneud hynny gyda dadl nad yw'r system yn gallu cyflawni'r hyn yr wyf i'n credu y gallai ei gyflawni ac a fydd er lles Cymru.