1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2021.
1. Pa feini prawf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i benderfynu pryd y bydd atyniadau ymwelwyr awyr agored yn gallu ailagor? OQ56204
Diolch i Suzy Davies am y cwestiwn yna. Mae'r meini prawf ar gyfer ailagor atyniadau awyr agored i ymwelwyr wedi eu nodi yng 'Nghynllun Rheoli Coronafeirws—Lefelau Rhybudd yng Nghymru' Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym ar lefel rhybudd 4, ac mae atyniadau awyr agored wedi'u rhestru fel bod yn ailagor ar lefel rhybudd 2.
Diolch am yr ateb yna. Yn amlwg, mae'r sector yn deall yr angen i ailagor yn ddiogel, ond dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fo'n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau gwario sylweddol, ac i'r perwyl hwnnw maen nhw'n chwilio am gymaint o wybodaeth â phosibl i'w helpu i wybod am ba hyd y mae'n rhaid iddyn nhw gynllunio i aros ar gau yn hytrach nag agor. Rwy'n credu bod y posibilrwydd o etholiad diogel ym mis Mai wedi rhoi rhywfaint o obaith iddyn nhw y gallai mis Mai fod yn bosibilrwydd. Eu pryderon uniongyrchol, ar wahân i gynllunio'r gweithlu, fodd bynnag, yw dyfodiad biliau ardrethi a'r posibilrwydd o ganiatáu teithio mewn mannau eraill yn y DU ond nid yng Nghymru, ac, wrth gwrs, bydd hynny yn effeithio ar benderfyniadau pobl ynghylch gwyliau. Felly, pa obaith sydd yna y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwyliau ardrethi busnes ychwanegol i'r sector tan y bydd yn ailagor, a pha mor bwysig ydych chi'n meddwl, am y rheswm yr wyf i wedi ei roi—dim byd i'w wneud â datganoli—bod yn rhaid gwneud rhyw fath o ymdrech i gysoni'r dyddiadau ailagor ledled y DU, gan roi ystyriaeth i'r gwahanol haenau neu lefelau rhybudd, yn sicr rhwng Cymru a Lloegr?
Llywydd, diolchaf i Suzy Davies am y cwestiynau ychwanegol yna, a rhag ofn na chaf i gyfle arall i'w ddweud, a gaf i ddweud wrthi y bydd colled mawr ar ei hôl hi yn y Siambr hon? Ac mae ei chwestiwn heddiw, yn ôl yr arfer, yn adeiladol o ran dymuno dod o hyd i atebion i sector sydd wedi cael amser hynod anodd yn ystod cyfnod y coronafeirws. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cael arian yn natganiad y Canghellor ym mis Mawrth sy'n ein ariannu ni i gynnig cyfnod rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf, yna byddwn yn sicr yn ceisio gwneud hynny. Ond mae ein gallu i'w wneud, maint y cyllid sydd ei angen, yn golygu mai dim ond os yw hynny yn ymdrech DU gyfan wirioneddol y gellir gwneud hynny.
O ran cydgysylltu dyddiadau ar gyfer ailagor, clywaf yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni bellach yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda Llywodraeth y DU bob dydd Mercher—a nifer o ddyddiau yn y cyfamser y rhan fwyaf o wythnosau erbyn hyn—lle gallwn ni drafod dulliau cyffredin o ymdrin â phethau sy'n digwydd ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Byddwn i gyd, serch hynny, yn pwyso a mesur y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud o dan yr amgylchiadau sy'n ein hwynebu. Fel y bydd Suzy Davies yn gwybod, mae nifer y bobl sy'n mynd yn sâl gyda'r coronafeirws fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru yn gostwng bob dydd ar hyn o bryd. Mae ar tua hanner y lefel sydd i'w weld dros y ffin yn Lloegr. Fyddwn i ddim eisiau gwadu cyfle i fusnesau nac atyniadau awyr agored Cymru agor yn gynharach pe byddai ein hamgylchiadau yn caniatáu i hynny ddigwydd, ond mae'r sefyllfa, Llywydd, fel y mae'r Aelodau yn gwybod, yn hynod ansicr. Bydd pawb yn y fan yma wedi gweld y newyddion dros nos am amrywiolyn De Affrica a datblygiadau yn Lloegr. Ar hyn o bryd, yng Nghymru, rydym ni'n symud ymlaen mewn cyfeiriad cadarnhaol. Mae pob un ohonom ni yn agored i newid yn hynny o beth, a byddai hynny yn anochel yn cael effaith ar ein gallu i ailagor rhannau o'r economi.
Prif Weinidog, er na fyddai neb yn argymell agor atyniadau cyn ei bod hi'n ddiogel i wneud hynny, mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn bod y diwydiant wedi cymryd rhagofalon enfawr i wneud eu busnesau mor ddiogel ag y gallan nhw o ran COVID. A'r hyn sydd wir ei angen ar y diwydiant yw llwybr eglur i agor unwaith eto. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi gyhoeddi canllawiau ar gyfer ailagor yr economi ymwelwyr, lle y gall fod yn amodol efallai ar gyfraddau achosion yn parhau i ostwng? Mae angen amserlen arnom ni fel y gall y diwydiant ymbaratoi. Diolch.
Llywydd, diolchaf i Caroline Jones, ac rwy'n deall y pwyntiau y mae'n eu gwneud, wrth gwrs. Y llwybr at ailagor yw'r llwybr a nodir yn y cynllun rheoli coronafeirws, ac mae hwnnw yn cynnwys cyfres o ddangosyddion, gan gynnwys cyfraddau positifrwydd a chyfraddau achosion yn y gymuned, sy'n dweud wrthym ni pryd y byddai'n ddiogel i ganiatáu atyniadau awyr agored i ymwelwyr ailagor unwaith eto. Rwy'n derbyn popeth a ddywedodd yr Aelod am yr ymdrechion y mae'r diwydiant ei hun wedi eu gwneud i roi ei hun yn y sefyllfa lle bydd pobl yn hyderus i ymweld â'r atyniadau hynny eto. Nid wyf i'n credu mewn gwirionedd bod unrhyw beth mwy sicr y gallwn i ei gynnig i'r diwydiant hwnnw, nac unrhyw un arall, ac eithrio cyfeirio at y cynllun a gyflwynwyd gennym, â'i lefelau rhybudd a chyda'r meini prawf a fydd yn caniatáu i ni symud rhyngddyn nhw, gan gyfeirio bob amser at ansicrwydd cynhenid yr amgylchiadau yr ydym ni'n parhau i fyw ynddyn nhw.