Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2021.
5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yn ystod y pandemig? OQ56220
Ym mis Ebrill y llynedd, cyhoeddais £24 miliwn i gefnogi'r trydydd sector yng Nghymru drwy'r pandemig. Roedd hyn yn cydnabod y rhan hanfodol y mae'r sector yn ei chwarae ac y mae wedi ei chwarae yn yr ymateb i COVID-19. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddais £2.5 miliwn arall i sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth.
Diolch yn fawr am yr ymrwymiad hwnnw sy'n cael ei ddangos gan y Llywodraeth, ond yr un yw'r ymrwymiad y mae mudiadau'r sector gwirfoddol yn ei roi i'w cymunedau, yn enwedig yn y cyfnod hwn o angen mawr. Yr hyn yr wyf i eisiau ei ofyn i chi heddiw, Dirprwy Weinidog, yw a fyddech chi'n ymrwymo i ddiolch i'r holl unigolion hynny ledled Cymru, y sefydliadau elusennol sydd wedi rhoi o'u hamser yn ystod y pandemig ac sydd wedi cefnogi pobl unigol a theuluoedd a chymunedau o'r dwyrain i'r gorllewin ac o'r gogledd i'r de?
Hoffwn i ddiolch yn arbennig i Joyce Watson am roi'r cyfle imi ddiolch i'r rhai sy'n wirfoddolwyr, y sefydliadau trydydd sector hynny sydd wedi ymateb i her y pandemig. Rwy'n credu y bydd pawb yma yn y Senedd, yn eu hetholaethau i gyd, wedi gweld canlyniadau ymateb anhygoel y gwirfoddoli hwnnw i'r pandemig, mewn cymunedau, cymdogaethau, a hefyd mae sefydliadau newydd yn datblygu, yn ogystal â'r rhai presennol, ac yn sicrhau y gallan nhw estyn allan a chefnogi'r rhai sy'n dod ymlaen. Felly, hoffwn i ddiolch yn y ffordd honno, a dim ond o ran Sir Benfro, yn eich cymuned chi, i gydnabod swyddogaeth Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro. Maen nhw, wrth gwrs, yn cael grant gennym ni yn rheolaidd. Maen nhw'n cael eu cyllid craidd gennym ni a hefyd, maen nhw wedi cael cyllid ychwanegol i ymateb i'r pandemig.
A gaf i ddweud hefyd, Llywydd, ei bod mor galonogol i weld bod sir Benfro yn sir noddfa? Ac mae'r ymateb y mae'r gwirfoddolwyr wedi'i roi, o ganlyniad i fod yn sir noddfa, i'r rhai sy'n byw yng ngwersyll Penalun, mae'n rhaid imi ddweud, yn rhyfeddol. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r holl wirfoddolwyr hynny yn sir Benfro a ledled Cymru, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar y gwirfoddolwyr hynny yn sir Benfro heddiw, pan fyddwn ni'n meddwl am y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud i wneud bywyd yn haws i'r bobl sy'n byw yng ngwersyll Penalun.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.