Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2021.
2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector gwirfoddol yng Nghymru? OQ56239
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid craidd i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol i'w galluogi i gefnogi mudiadau gwirfoddol lleol a grwpiau gwirfoddoli ledled Cymru. Rydym ni wedi cymeradwyo £26.5 miliwn, gyda £5.7 miliwn ychwanegol ar gyfer y sector gwirfoddol—cymeradwywyd y £5.7 miliwn olaf hwnnw yr wythnos hon—i gefnogi'r sector yn ystod y pandemig.
Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog. Mae grwpiau gwirfoddol ac elusennau yn gwneud gwaith eithriadol i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Un grŵp o'r fath yw Apêl Sparkle, sy'n cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd gydag anableddau ac anawsterau datblygu, yng nghanolfan Serennu yng Nghasnewydd. Mae eu gwaith yn hollbwysig. Fodd bynnag, maen nhw eu hunain wedi cael blwyddyn eithriadol o anodd, gyda chyfyngiadau COVID yn gweld eu gwaith a'u cyfleoedd ariannu wedi'u cyfyngu. Roedden nhw'n gwerthfawrogi'r grant Llywodraeth Cymru a gawsant y llynedd yn fawr iawn, a oedd â'r nod o dalu am chwe mis o gostau craidd; fodd bynnag, naw mis yn ddiweddarach, mae eu cyflwr ariannol yn dioddef. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydliadau o'r fath, i sicrhau y gallan nhw barhau i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed drwy'r cyfnod hwn, oherwydd mae'r gwaith y maen nhw'n ei wneud yn hanfodol, ac allwn ni ddim fforddio eu colli?
Diolch, Jayne Bryant, am dynnu sylw at yr elusen bwysig hon yn eich etholaeth chi. Yn wir, mae gwaith ysbrydoledig, fel yr ydych chi wedi ei ddisgrifio, yn cael ei wneud gan elusennau fel Sparkle. Ac, wrth gwrs, mae eu holl wirfoddolwyr yn ardal Gwent yn helpu yn arbennig i gefnogi plant a phobl ifanc anabl a'u teuluoedd. Felly, fel yr ydych chi'n ei ddweud, fe wnaeth Sparkle elwa ar y grant o £90,000 o'r hyn oedd cronfa argyfwng ein gwasanaethau gwirfoddol, yn ystod y pandemig, a byddwn ni'n sicrhau bod y ffynonellau cymorth hyn i sefydliadau'r trydydd sector yn parhau yn ystod y pandemig. Ond mae hi wedi bod yn her fawr i gymunedau a grwpiau o'r math hwn, oherwydd yr achosion o goronafeirws. Oherwydd mae cynifer ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi colli incwm, yn ogystal â chael galwadau a disgwyliadau ychwanegol arnyn nhw, ac mae cynifer o wirfoddolwyr wedi ymgysylltu. Ond rwyf i yn falch iawn ein bod ni, fel y dywedais i wrth ateb eich cwestiwn cyntaf, yn darparu £5.7 miliwn arall i barhau â'r gwaith hwn drwy'r pandemig, a gobeithio y bydd hyn yn gallu cefnogi sefydliadau fel eich un chi.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OQ56230] nôl. Felly, cwestiwn 4, Delyth Jewell.