Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch, Weinidog. Fel yr hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer corryn rafft y ffen, rwy'n ymwybodol iawn fod dirywiad syfrdanol wedi bod yng nghadernid yr ecosystem yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth, ond mae hon yn broblem gynyddol ledled y byd, ac mae angen gosod targedau cyfreithiol rwymol. Bydd y gynhadledd ar y confensiwn ar amrywiaeth fiolegol yn cael ei chynnal yn Kunming yn Tsieina yn nes ymlaen eleni. Y gobaith yw y bydd y gynhadledd hon yn cael yr un effaith ar fioamrywiaeth ag y cafodd uwchgynhadledd Paris ar y newid yn yr hinsawdd. Felly, Weinidog, pa rôl y bydd Cymru yn ei chwarae yn yr uwchgynhadledd honno, ac a fyddwch yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wthio am dargedau rhwymol a'u mabwysiadu’n gyfreithiol i hybu adferiad natur?